Derrick Morris
Derrick Morris (tua 1930 – 30 Gorffennaf 2005) o Abertawe. Ar ddyddiad ei farwolaeth, fe oedd y claf oedd wedi goroesi hwyaf yn Ewrop ar ôl cael trawsblaniad calon. Cafodd y driniaeth yn Ysbyty Harefield yn Middlesex gan yr Athro Magdi Yacoub yn 1980. Cyfrannwyd y galon newydd gan ddynes a laddwyd mewn damwain car.[1][2][3][4]
Derrick Morris | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1930 |
Bu farw | 30 Gorffennaf 2005 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | stevedore |
Arferai weithio fel goruchwyliwr yn nociau Abertawe pan gafodd drawiad ar y galon yn 1975.[5][6] Wedi'r driniaeth, dychwelodd i weithio yn y dociau. Ef oedd yr 11eg person i dderbyn trawsblaniad calon yng ngwledydd Prydain. Wedi 20 mlynedd o oroesi, wedi dyddiad y trawsblaniad, ef oedd yn dal y record goroesiad hiraf drwy Ewrop.[7]
Yn dilyn y driniaeth lwyddiannus, bu Derrick Morris ym ymgyrchu yn ddiflino i hybu prosiectau a oedd yn ymladd clefyd y galon, gan annog pobl i arwyddo cerdyn caniatad i roi eu calon i eraill pe byddent yn marw mewn damwain.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Record survivor of heart transplant dies". The Telegraph. 2 Awst 2005. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
- ↑ "Longest-living heart transplant patient dies". walesonlink.co.uk. 31 Mawrth 2013. Cyrchwyd 19 Ebrill 2019.
- ↑ McWhirter, Norris; McWhirter, Ross (1994). The Guinness Book of Records. Guinness Superlatives (yn English). Bantam paperback. t. 72. ISBN 0553541358. ISBN 978-0553541359.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Heartzine.com "Longest-surviving Heart Transplant Patient Has Died", 4 August 2005. Adalwyd 21 Chwefror 2013 Archifwyd 11 Ebrill 2013 yn archive.today
- ↑ Simon de Bruxelles (2 Awst 2005), "Pioneer heart patient dies after 25 years", The Times, https://www.thetimes.co.uk/article/pioneer-heart-patient-dies-after-25-years-wr8rn909jtf
- ↑ "Derrick Morris". To Transplant and Beyond. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-06. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2016.
- ↑ "BBC News - WALES - Transplant man celebrates 20th anniversary". news.bbc.co.uk. BBC.