Rhagfarn neu atgasedd at bobl ddeurywiol yw deuffobia.[1] Mae'r term yn cwmpasu stereoteipiau am bobl ddeurywiol, gwrthod cydnabod deurywioldeb (trwy fynnu taw dim ond unrhywioldeb sydd), a dileu amlygrwydd deurywiol (er enghraifft trwy hawlio bod deurywiolion naill ai yn gyfunrywiolion sydd heb ddod allan neu yn heterorywiolion sydd yn camddeall eu rhywioldeb).[2]

Datblygodd y cysyniad ymhlith ymgyrchwyr deurywiol yn y 1990au, ar sail defnydd y term homoffobia. Ceir deuffobia mewn cymunedau hoyw a lesbiaidd yn ogystal ag ymhlith pobl heterorywiol, a dyma'r brif wahaniaeth rhwng homoffobia a deuffobia.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geirfa, Stonewall Cymru (18 Hydref 2016). Adalwyd ar 8 Mehefin 2017.
  2. 2.0 2.1 Christian Klesse, "Biphobia" yn The SAGE Encyclopedia of LGBTQ Studies cyfrol 1, golygwyd gan Abbie E. Goldberg (Los Angeles: SAGE, 2016), tt. 119–21.