Deurywioldeb cynhenid
Term a gyflwynodd Sigmund Freud (ar sail gwaith gan ei gydymaith Wilhelm Fliess) sy'n dehongli bod pob bod dynol yn cael ei eni'n ddeurywiol, ond yn troi'n unrhywiol (naill ai'n heterorywiol neu'n gyfunrywiol) trwy ddatblygiad seicolegol (sy'n cynnwys ffactorau mewnol ac allanol) tra bo'r deurywioldeb yn aros mewn cyflwr cudd, yw deurywioldeb cynhenid.
Does dim consensws gwyddonol modern ar sut mae bioleg yn dylanwadu ar gyfeiriadedd rhywiol (gweler bioleg a chyfeiriadedd rhywiol).