Agor y brif ddewislen

Bod dynol

rhywogaeth o deulu Hominidae, rhywogaeth unigryw o'r genws Homo
Bod dynol
Pâr o Wlad Tai yn cario planhigyn banana adref i fwydo'u moch.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. sapiens
Isrywogaeth: H. s. sapiens
Enw trienwol
Homo sapiens sapiens
Linnaeus, 1758

Bod dynol yw gair y gwyddonydd am ddyn. Person ydyw (neu "greadur deallus") sy'n perthyn i rywogaeth Homo sapiens; "human" yn Saesneg. Mae bod dynol yn greadur deudroed ac wedi'i osod yn y teulu biolegol a elwir yn Hominidae.[1][2] Mae tystiolaeth genynnol o ran DNA yn dangos mai cynefin neu darddle bodau dynol yw Affrica, ac iddynt ddod o'r fan honno tua 200,000 o flynydoedd yn ôl.

Mae gan fodau dynol ymennydd sydd wedi datblygu llawer pellach na gweddill anifeiliaid, yn fiolegol felly. Gall resymoli yn haniaethol, gall ymwneud ag iaith, mewnsyllu a datrus problemau fel mae nhw'n codi. Mae'r gallu ymenyddol hwn ynghyd â chorff fertigol, gyda breichiau rhydd i symud neu ddal a thrin erfyn yn ei alluogi i ddefnyddio arfau llawer mwy nag unrhyw anifail arall i amddiffyn ei hun, i weithio am fwyd neu i ymosod.

Mae bodau dynol wedi eu dosbarthu ar hyd a lled y ddaear ar wahân i Antartig. Mae poblogaeth y ddaear bellach yn fwy na 6.7 biliwn, (data Gorffennaf, 2008).[3] Un isrywogaeth sydd ar gael: Homo sapiens sapiens. Mae'n famal ac felly'n bwydo ei blant gyda llaeth.

Fel epaod, mae dyn yn gymdeithasol ei natur. Mae wedi mireinio'r grefft o gyfathrebu'n effeithiol er mwyn iddo fynegi ei hun, cyfnewid syniadau a threfnu gweithgareddau. Mae wedi creu strwythurau cymdeithasol cywrain a chymhleth o grwpiau sy'n cydweithio ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd; grwpiau mor wahanol â'r teulu a chenhedloedd. Mae'r cydymwneud hwn rhwng dyn a dyn wedi sefydlu dros y milenias diwethaf draddodiadau, defodau, moesau, gwerthoedd a safon dderbyniol gan gymdeithas drwy gyfundrefn o ddeddfau. Gall dyn werthfawrogi harddwch ac estheteg sydd ynghyd â'r awydd i fynegi ei hun wedi arwain at gelfyddyd, llenyddiaeth a cherddoriaeth.

Cynhanes CymruGolygu

Gellir dweud bod tri math o fod dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a phrotohanes):

  1. dyn Neanderthal cynnar yn Ogof Bontnewydd, ger Llanelwy – 225,000 CP;
  2. dyn Neanderthal clasurol yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin – 50,000 CP;
  3. bod dynol modern yn Ogof Paviland, Gŵyr – 26,000 CP.

Gwyddom hyn gan fod eu hesgyrn wedi'u canfod yno; dim ond llond dwrn o ddannedd yn Ogof Bontnewydd ac mae'r dystiolaeth yn gymharol brin.

CyfeiriadauGolygu

  1. M. Goodman, D. Tagle, D. Fitch, W. Bailey, J. Czelusniak, B. Koop, P. Benson, J. Slightom (1990). Primate evolution at the DNA level and a classification of hominoids, Cyfrol 30, Rhifyn 3, tud. 260. DOI:10.1007/BF02099995
  2.  Hominidae Classification. University of Michigan Museum of Zoology.
  3.  World POPClock Projection. U.S. Census Bureau, Population Division/International Programs Center (2008-07-05).

Gweler hefydGolygu