Mae dewinio [hefyd dewino; Saesneg: Dowsing] yn ffurf ar ddewiniaeth sy'n cael ei ddefnyddio i leoli dŵr tanddaearol, metelau neu fwynau sydd wedi'u claddu, gemau, olew, mannau claddu,[1] a nifer o wrthrychau neu ddeunyddiau eraill, heb ddefnyddio offer gwyddonol. Mae dewinio yn cael ei ystyried yn ffugwyddoniaeth, ac nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol ei fod yn fwy effeithiol na dyfalu neu ddewis ar hap.[2][3]

Dewinio
Gwialen ddewinio, o lyfr Ffrangeg am ofergoeliaeth, 18fed ganrif
Enghraifft o'r canlynoltechneg Edit this on Wikidata
Mathdarogan, ymgais, psychic ability, ffugwyddoniaeth Edit this on Wikidata
Dechreuwyd15 g Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn aml, bydd gwialen neu frigyn siap 'Y', neu ddau sy'n siap 'L', fel gwialen ddewinio (Lladin: 'virgula divina' neu 'baculus divinatorius'; Saesneg: divining rod neu 'witching rod') yn cael eu defnyddio wrth ddewinio.Dywedir bod y gwiail, pan yn cael eu defnyddio gan rai pobl, yn rhoi arwydd pan fydd y gwrthrych neu ddeunydd wedi'i ddarganfod.Mae rhai dewiniaid yn ffafrio brigau neu ganghennau o fathau penodol o goed, ac mae well gan rai ddefnyddio canghennau sydd newydd eu torri. Mae brigau collen yn aml yn cael eu defnyddio yng ngwledydd Ewrop a collen ystwyth yn yr Unol Daleithiau, ynghyd â changhennau coed helyg neu goed eirin gwlanog. Mae dau ben yr ochr fforchiog yn cael eu dal yn bob llaw a'r trydydd (coesyn yr Y) yn pwyntio yn syth ymlaen. Bydd y gangen yn aml yn cael ei dal gyda chledr y llaw tuag at i fyny. Yna mae'r dewin yn cerdded yn araf dros y mannau hynny ble mae'n disgwyl dod o hyd i'r gwrthrych neu ddeunydd (dŵr neu fwynau, er enghraifft), ac mae'n disgwyl i'r wialen symud neu bwyntio at i lawr pan fydd darganfyddiad wedi'i wneud. 

Mae symudiad gwiail bellach yn tueddu i gael ei briodoli i ymateb syniadgymhellol.[4][5][6] Mae'n bosib fod dewinio, fel mae'n cael ei adnabod heddiw, wedi tarddu o'r Almaen yn yr 16g, pan oedd yn cael ei ddefnyddio i geisio dod o hyd i fetelau.

Er gwaethaf prinder y dystiolaeth wyddonol, mae dulliau dewinio yn dal i gael eu defnyddio gan rai ffermwyr a pheirianyddion dŵr heddiw.[7][8][9][10][11]

Cyfeiriadau golygu

  1. Whittaker, William E (23 December 2006). "Grave Dowsing Reconsidered". The University of Iowa. Office of the State Archaeologist. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-25. Cyrchwyd 21 June 2017.
  2. Vogt, Evon Z.; Ray Hyman (1979). Water Witching U.S.A. (arg. 2nd). Chicago: Chicago University Press. ISBN 978-0-226-86297-2. via Hines, Terence (2003). Pseudoscience and the Paranormal (arg. Second). Amherst, New York: Prometheus Books. t. 420. ISBN 978-1-57392-979-0.
  3. Regal, Brian. (2009). Pseudoscience: A Critical Encyclopedia. Greenwood Press. pp. 55–57. ISBN 978-0-313-35507-3
  4. Zusne, Leonard; Jones, Warren H. (1989). Anomalistic Psychology: A Study of Magical Thinking. Lawrence Erlbaum Associates, Inc. pp. 105–110. ISBN 978-0-805-80507-9
  5. Novella, Steve; Deangelis, Perry. (2002). Dowsing. In Michael Shermer. The Skeptic Encyclopedia of Pseudoscience. ABC-CLIO. pp. 93–94. ISBN 1-57607-654-7 "Despite widespread belief, careful investigation has demonstrated that the technique of dowsing simply does not work. No researcher has been able to prove under controlled conditions that dowsing has any genuine divining power... A more likely explanation for the movement of a dowser's focus is the ideomotor effect, which entails involuntary and unconscious motor behavior."
  6. Lawson, T. J; Crane, L. L. (2014). Dowsing Rods Designed to Sharpen Critical Thinking and Understanding of Ideomotor Action. Teaching of Psychology 41 (1): 52-56.
  7. California Farmers Hire Dowsers to Find Water
    , ABC news
  8. The Water Witch of Wyoming
  9. Scientist finds UK water companies use 'magic' to find leaks
    , BBC Oxford, 21 Tachwedd 2017. (adalwyd 21 Tachwedd 2017)
  10. Matthew Weaver, UK water firms admit using divining rods to find leaks and pipes
    , The Guardian, 21 November 2017.
  11. Camila Domonoske, U.K. Water Companies Sometimes Use Dowsing Rods To Find Pipes
    , The Two-Way, NPR, 21 Tachwedd 2017.