Ffugwyddoniaeth
Ffugwyddoniaeth yw rhywbeth sy’n ymddangos fel gwyddoniaeth heb adlynu at y dull gwyddonol.

Adnabod ffugwyddoniaethGolygu
Mae ffygwyddoniaeth yn cael ei nodweddu gan y canlynol;-
Diffyg cynnyddGolygu
Ni fydd ymarferwyr ffugwyddoniaeth yn gwneud digon o arbrofion i weld a ydy eu syniadau yn ddibynnol ac fyddan nhw ddim yn cadw nodiadau digon manwl. Mae ganddyn nhw gymaint o ffydd yn eu damcaniaethau fel eu bod yn dueddol i beidio sylwi ar unrhyw beth amheus. Fe fyddan nhw'n gwrthod dysgu o’u profiadau, a ddim yn cywiro eu camgymeriadau. Mae yna ddiffyg symud ymlaen.
Defnyddio iaith gamarweiniolGolygu
Fe fydd ffugwyddonydd yn creu geiriau mawr sy’n swnio’n dechnegol er mwyn twyllo’r rhai sydd ddim yn deall gwyddoniaeth. Galw dŵr yn "hidrogen deuocsid" er enghraifft.
PersonolyddiaethGolygu
Mae yna glymbleidiaeth rhwng yr ymarferwyr, a maen nhw'n dueddol i gyrraedd at benderfyniadau direswm heb brofi eu syniadau. Fe fyddant yn cyhuddo gwyddonwyr o gynllwynio yn eu herbyn. Fe fyddant yn ystyried beirniaid fel gelynion ac yn eu sarhau yn bersonol.
Llinellau terfynGolygu
Gwnaeth Paracelsus chwildroi meddygaeth wrth ddamcanu mai clefyd oedd yn achosi afiechyd, nid anghydbwysedd hylifau'r corff. Er hynny, roedd e'n gwneud y gamgymeriad o geisio trin arwyddion afiechyd, yn hytrach na thrin y clefyd.
Mae llawer o ymryson dros y linell derfyn rhwng gwyddoniaeth a ffugwyddoniaeth. Mae ambell i ffugwyddonydd wedi darganfod pethau sy'n ddefnyddiol mewn gwyddoniaeth.
Gweler hefydGolygu
- Alcemeg
- Creadaeth
- Cwacyddiaeth
- Cylchoedd cnwd (cylchau cnwd)
- Dadansoddiad seicolegol (seico-analysis)
- Ffrenoleg
- Soser hedegog
- Ofergoeliaeth
- Sêr-ddewiniaeth (astroleg)
- Symudiad parhaol