Math o siart rediad yw diagram Sankey sydd yn dangos proses mewnbwn/allbwn ar raddfa gywir trwy saethau neu linellau trwchus. Mae lled y llif yn gyfatebol i faint yr hyn mae'n cynrychioli. Defnyddir yn aml i luniadu prosesau ffisegol megis trosglwyddiad ynni neu ddata economaidd megis llif cyllidol.

Diagram y Capten Sankey o effeithlonrwydd ynni peiriant ager (1898).
Siart Charles Minard o symudiadau lluoedd Napoleon yn Rwsia (1869).

Enwir ar ôl y Gwyddel Matthew H. P. R. Sankey, capten y Peirianwyr Brenhinol, a ddefnyddiodd diagram o'r fath mewn cyhoeddiad ar effeithlonrwydd ynni peiriant ager ym 1898. Mae diagramau tebyg yn rhagflaenu lluniad y Capten Sankey, er enghraifft siart enwog Charles Minard o ymgyrch Napoleon yn Rwsia, sydd yn cyfuno diagram Sankey â map daearyddol a graff tymheredd.