Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc

(Ailgyfeiriad oddi wrth Napoleon Bonaparte)

Roedd Napoleone Buonaparte (yn wreiddiol, yn Eidaleg a Chorseg) neu Napoléon Bonaparte yn Ffrangeg), neu Napoleon I ar ôl 1804, (15 Awst 17695 Mai 1821) yn rheolwr Ffrainc o 1799; daeth i gael ei gydnabod fel Ymerawdwr Cyntaf Ffrainc o dan yr enw Napoléon I le Grand (Napoleon I "y Mawr") o 18 Mai 1804 hyd 6 Ebrill 1814, cyfnod pan reolai ran fawr o orllewin a chanolbarth Ewrop yn ogystal â Ffrainc. Apwyntiodd nifer o'i berthnasau, o'r teulu Bonaparte, i reoli fel yn brenhinoedd mewn gwledydd eraill, ond daeth rheolaeth y mwyafrif ohonyn i ben pan gwympodd Napoleon o rym. Bu farw Napoleon ar ynys Saint Helena yn ne Cefnfor Iwerydd.

Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc
Napoleon I of France by Andrea Appiani.jpg
GanwydNapulione Buonaparte Edit this on Wikidata
15 Awst 1769 Edit this on Wikidata
Ajaccio Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1821 Edit this on Wikidata
Longwood House Edit this on Wikidata
Man preswylSaint Helena, Ajaccio, Paris, Ynys Elba Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Weriniaeth Ffrengig Gyntaf, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École Militaire Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, gwladweinydd, swyddog milwrol, casglwr celf, ymerawdwr, brenin neu frenhines, ymgyrchydd brwd, arweinydd milwrol Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr y Ffrancwyr, Cyd-Dywysog Ffrainc, Ymerawdwr y Ffrancwyr, Prif Gonswl, Brenhinoedd yr Eidal, Cyd-Dywysog Ffrainc, pennaeth y wladwriaeth, arlywydd Edit this on Wikidata
Taldra168 centimetr Edit this on Wikidata
TadCarlo Bonaparte Edit this on Wikidata
MamLetizia Ramallo Edit this on Wikidata
PriodJoséphine de Beauharnais, Marie Louise, Duges Parma Edit this on Wikidata
PartnerMarie Walewska, Pauline Fourès, Emilie Kraus von Wolfsberg, Elisabeth de Vaudey, Eléonore Denuelle de La Plaigne, Giuseppina Grassini, Albine de Montholon Edit this on Wikidata
PlantNapoleon II, Charles Léon, Alexandre Colonna-Walewski, Eugen Megerle von Mühlfeld Edit this on Wikidata
PerthnasauCamillo Borghese, 6ed Tywysog Sulmona, Stéphanie de Beauharnais, Eugène de Beauharnais, Napoleon III, ymerawdwr Ffrainc Edit this on Wikidata
LlinachTylwyth Bonaparte Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Eliffant, Urdd yr Eryr Gwyn, Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Andreas, Uwch Feistr y Lleng Anrhydedd, uwch groes Urdd Sant Joseff, Urdd y Goron Haearn (Awstria), Urdd Sant Steffan o Hwngari, Urdd Sant Hwbert, Urdd yr Eryr Du, uwch groes Urdd Imperialaidd Crist Edit this on Wikidata
Llofnod
Napoleon signature.svg

Rhoddir yr enw Rhyfeloedd Napoleon i gyfres o ryfeloedd yn Ewrop rhwng 1804 a 1815. Ymladdwyd y rhyfeloedd rhwng Ffrainc dan Napoleon a nifer o wledydd, yn cynnwys Prydain Fawr, Rwsia, Awstria, Prwsia, Sbaen ac eraill a ffurfiwyd sawl cynghrair gwahanol yn erbyn Napoleon.

Ganed Napoleon ar ynys Corsica yn fuan ar ôl iddi gael ei chyfeddiannu gan Deyrnas Ffrainc.[1] Cefnogodd y Chwyldro Ffrengig yn 1789 tra'n gwasanaethu yn y fyddin Ffrengig, a cheisiodd ledaenu ei delfrydau i Gorsica ei wlad enedigol. Cododd yn gyflym yn y Fyddin ar ôl iddo achub le Directoire trwy ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr brenhinol. Ym 1796, dechreuodd ymgyrch filwrol yn erbyn yr Awstriaid a'u cynghreiriaid Eidalaidd, gan sgorio buddugoliaethau pendant a dod yn arwr cenedlaethol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, arweiniodd ymgyrch filwrol i'r Aifft a'i sbardunodd i afael mewn gwleidyddiaeth. Ef oedd y tu ol i feddiannu grym yn Nhachwedd 1799 a daeth yn Gonswl Cyntaf y Weriniaeth.

Roedd gwahaniaethau gyda Phrydain yn golygu bod y Ffrancwyr yn wynebu Rhyfel y Drydedd Glymblaid erbyn 1805. Chwalodd Napoleon y glymblaid hon gyda buddugoliaethau yn Ymgyrch Ulm, ac ym Mrwydr Austerlitz, a arweiniodd at ddiddymu'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Ym 1806, cymerodd y Bedwaredd Glymblaid arfau yn ei erbyn oherwydd bod Prwsia yn poeni am dwf yn nylanwad Ffrainc ar y cyfandir. Gorchfygodd Napoleon Prwsia ym mrwydrau Jena ac Auerstedt, gorymdeithiodd y Grande Armée i Ddwyrain Ewrop, gorchfygodd y Rwsiaid ym Mehefin 1807 yn Friedland, a gorfodi cenhedloedd gorchfygedig y Bedwaredd Glymblaid i dderbyn Cytundebau Tilsit. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, heriodd yr Awstriaid y Ffrancwyr eto yn ystod Rhyfel y Bumed Glymblaid, ond cadarnhaodd Napoleon ei afael ar Ewrop ar ôl buddugoliaeth ym Mrwydr Wagram.

Gan obeithio ymestyn y "System Gyfandirol", sef ei embargo yn erbyn Llywodraeth Prydain, ymosododd Napoleon ar Benrhyn Iberia a datgan ei frawd Joseph yn Frenin Sbaen ym 1808. Gwrthryfelodd y Sbaenwyr a'r Portiwgaliaid yn Rhyfel y Penrhyn, gan arwain at drechu marsialiaid Napoleon. Lansiodd Napoleon ymosodiad ar Rwsia yn ystod haf 1812. Gwelodd yr ymgyrch a ddilynodd enciliad trychinebus Grande Armée Napoleon .ac ym 1813, ymunodd Prwsia ac Awstria â lluoedd Rwsia yn y Chweched Clymblaid yn erbyn Ffrainc. Arweiniodd ymgyrch filwrol anhrefnus at fyddin glymblaid fawr a drechodd Napoleon ym Mrwydr Leipzig yn Hydref 1813. Ymosododd y glymblaid ar Ffrainc a chipio Paris, gan orfodi Napoleon i ildio'i statws yn Ebrill 1814. Alltudiwyd ef i ynys Elba, rhwng Corsica a'r Eidal. Yn Ffrainc, adferwyd y Bourbons i rym. Fodd bynnag, dihangodd Napoleon o Elba yn Chwefror 1815 a chymerodd reolaeth o Ffrainc.[2][3] Ymatebodd y Cynghreiriaid trwy ffurfio Seithfed Clymblaid, a orchfygodd Napoleon ym Mrwydr Waterloo ym Mehefin 1815. Alltudiwyd ef gan y Prydeinwyr i ynys anghysbell Saint Helena yn yr Iwerydd, lle bu farw yn 1821 yn 51 oed. Cafodd Napoleon ddylanwad enfawr ar y byd modern, gan ddod â diwygiadau rhyddfrydol i'r llu o wledydd a orchfygodd, yn enwedig y Gwledydd Isel, y Swistir, a rhannau o'r Eidal modern a'r Almaen. Gweithredodd bolisïau rhyddfrydol yn Ffrainc a Gorllewin Ewrop.

Cysylltiad â ChymruGolygu

Yn 1828 llongddryllwyd y llong La Jeune Emma ar draeth Cefn Sidan, ger Llanelli a boddwyd Adeline Coquine, nith 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre.

Bywyd cynnarGolygu

 
Tad Napoleon, Carlo Buonaparte, oedd cynrychiolydd Corsica i lys Louis XVI.

Roedd teulu Napoleon o darddiad Eidalaidd. Roedd ei hynafiaid ar ochr ei dad, y Buonapartes, yn ddisgynyddion i deulu bonheddig Tosganaidd llai a ymfudodd i Gorsica yn yr 16g ac roedd ei deulu ar ochr ei fam, y Ramolinos, yn ddisgynyddion i deulu bonheddig mân o Weriniaeth Genoa.[4] Roedd y Buonapartes hefyd yn perthyn trwy briodas i'r Pietrasentasiaid, y Costas, y Paravicciniaid, a Bonellis, a holl deuluoedd Corsica o'r tu fewn.[5] Roedd ei rieni Carlo Maria di Buonaparte a Maria Letizia Ramolino yn cadw hen gartref y teulu o'r enw “Casa Buonaparte” yn Ajaccio. Yno, yn y cartref hwn, y ganwyd Napoleon, ar 15 Awst 1769. Ef oedd pedwerydd plentyn a thrydydd mab y teulu. Roedd ganddo frawd hŷn, Joseph, a brodyr a chwiorydd iau Lucien, Elisa, Louis, Pauline, Caroline, a Jérôme. Bedyddiwyd Napoleon yn Gatholig, dan yr enw Napoleon.[6] Yn ei ieuenctid, sillafwyd ei enw hefyd fel Nabulione, Nabulio, Napoline, a Napulione.[7]

Ganed Napoleon yn yr un flwyddyn ag yr ildiodd Gweriniaeth Genoa (cyn dalaith Eidalaidd) ardal Corsica i Ffrainc.[8] Gwerthodd y wladwriaeth yr hawliau sofran flwyddyn cyn ei eni a gorchfygwyd yr ynys gan Ffrainc yn ystod blwyddyn ei eni. Fe'i corfforwyd yn ffurfiol fel talaith yn 1770, ar ôl 500 mlynedd o dan reolaeth Genoa ac 14 mlynedd o annibyniaeth. Ymunodd rhieni Napoleon â gwrthwynebiad Corsica ac ymladd yn erbyn y Ffrancwyr i gadw annibyniaeth, hyd yn oed pan oedd Maria yn feichiog gydag ef. Roedd ei dad yn atwrnai a aeth ymlaen i gael ei enwi'n gynrychiolydd Corsica i lys Louis XVI yn 1777.[9]

Dylanwad cryfaf plentyndod Napoleon oedd ei fam, yr oedd ganddi ddisgyblaeth gadarn.[9] Yn ddiweddarach, dywedodd Napoleon, "Mae tynged y plentyn yn y dyfodol bob bob amser yn nwylo'r fam."[10] Priododd mam-gu Napoleon â theulu Fesch y Swistir yn ei hail briodas, a byddai ewythr Napoleon, y cardinal Joseph Fesch, yn cyflawni rôl fel gwarchodwr teulu Bonaparte am rai blynyddoedd. Roedd cefndir bonheddig, gweddol gyfoethog Napoleon yn rhoi mwy o gyfleoedd iddo astudio nag oedd ar gael i Gorsicaniaid nodweddiadol y cyfnod.[11]

Pan drodd yn 9 oed symudodd i dir mawr Ffrainc a chofrestru mewn ysgol grefyddol yn Autun yn Ionawr 1779[12][13]. Ym Mai, trosglwyddodd gydag ysgoloriaeth i academi filwrol yn Brienne-le-Château.[14] Yn ei ieuenctid roedd yn genedlaetholwr Corsicaidd di-flewyn-ar-dafod a chefnogodd annibyniaeth y wladwriaeth oddi wrth Ffrainc.[12][15] Fel llawer o Gorsiciaid, roedd Napoleon yn siarad ac yn darllen Corseg (fel ei famiaith) ac Eidaleg (fel iaith swyddogol Corsica).[16][17][18][15] Dechreuodd ddysgu Ffrangeg yn yr ysgol pan oedd tua 10 oed.[16] Er iddo ddod yn rhugl yn Ffrangeg, siaradodd ag acen Corsica nodedig ac ni ddysgodd sut i sillafu'n gywir yn Ffrangeg.[19] O ganlyniad, roedd ei gyd-ddisgyblion yn gwahaniaethu yn erbyn Napoleon oherwydd ei ymddangosiad corfforol a'i acen wahanol.[15] Fodd bynnag, nid oedd yn achos unigol, gan yr amcangyfrifwyd yn 1790 bod llai na 3 miliwn o bobl, allan o boblogaeth Ffrainc o 28 miliwn, yn gallu siarad Ffrangeg safonol, ac roedd y rhai a allai ei hysgrifennu'n gywir yn fach oawn.[20]

Bwliwyd Napoleon yn aml gan ei gyfoedion, a'i watwar am ei acen, man geni, ei daldra byr, ei ddifyg moesgarwch a'i anallu i siarad Ffrangeg yn gyflym.[17] Daeth yn fewnblyg ac yn felancolig, a chiliodd at ei lyfrau. Sylwodd arholwr fod Napoleon “bob amser yn dda am fathemateg. Mae'n weddol gyfarwydd â hanes a daearyddiaeth . . . Byddai’r bachgen hwn yn gwneud morwr rhagorol.”[21]

Un stori a adroddwyd am Napoleon yn yr ysgol yw ei fod wedi arwain myfyrwyr iau i fuddugoliaeth yn erbyn myfyrwyr hŷn mewn brwydr peli eira, gan ddangos ei allu i arwain.[22] Yn oedolyn ifanc, rhoddodd Napoleon ei fryd ar fod yn awdur; ysgrifennodd hanes Corsica a lluniodd nofel ramantus.[12]

Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn Brienne ym 1784, derbyniwyd Napoleon i'r École Militaire ym Mharis. Hyfforddodd i fod yn swyddog magnelau a, phan leihawyd ei incwm, yn dilyn marwolaeth ei dad, fe'i gorfodwyd i gwblhau'r cwrs dwy flynedd mewn blwyddyn.[23] Ef oedd y Corsican cyntaf i raddio o'r École Militaire.[23] Archwiliwyd ef gan y gwyddonydd enwog Pierre-Simon Laplace . [24]

Gyrfa gynnarGolygu

 
Napoleon Bonaparte, 23 oed, fel is-gyrnol bataliwn o wirfoddolwyr Gweriniaethol Corsica. Portread gan Henri Félix Emmanuel Philippoteaux

Wedi graddio ym Medi 1785, comisiynwyd Bonaparte yn ail raglaw yng nghatrawd magnelau La Fère.[14] Gwasanaethodd yn Valence ac Auxonne tan ar ôl dechrau'r Chwyldro yn 1789. Roedd y dyn ifanc yn dal i fod yn genedlaetholwr Corsican brwd yn ystod y cyfnod hwn[25] a gofynnodd am ganiatâd i ymuno â'i fentor Pasquale Paoli, pan ganiatawyd i'r olaf ddychwelyd i Gorsica gan y Cynulliad Cenedlaethol. Nid oedd gan Paoli unrhyw gydymdeimlad â Napoleon, fodd bynnag, gan ei fod yn ystyried ei dad yn fradwr am iddo adael ei achos dros annibyniaeth Corsica.[26]

Treuliodd flynyddoedd cynnar y Chwyldro yng Nghorsica, gan ymladd mewn brwydr dair-ochr gymhleth rhwng y brenhinwyr, y chwyldroadwyr, a chenedlaetholwyr Corsica. Daeth Napoleon, fodd bynnag, i gofleidio delfrydau'r Chwyldro, gan ddod yn gefnogwr i'r Jacobiniaid ac ymuno â Gweriniaethwyr Corsica o blaid Ffrainc a oedd yn gwrthwynebu polisi Paoli a'i ddyheadau o annibyniaeth i Gorsica.[27] Cafodd reolaeth dros fataliwn o wirfoddolwyr a chafodd ei ddyrchafu'n gapten yn y fyddin arferol ym mis Gorffennaf 1792, er iddo fynd y tu hwnt i'w waith pan aeth yn absennol ac arwain grwp o derfysgwyr yn erbyn milwyr Ffrainc.[28] Pan ddatganodd Corsica ymwahaniad ffurfiol oddi wrth Ffrainc a gofyn am amddiffyniad llywodraeth Prydain daeth Napoleon a'i ymrwymiad i'r Chwyldro Ffrengig i wrthdaro â Paoli, a oedd wedi penderfynu difrodi cyfraniad Corsica i'r Exédition de Sardaigne, trwy atal ymosodiad Ffrainc ar y ynys Sardinaidd La Maddalena.[29] Gorfodwyd Bonaparte a'i deulu i ffoi i Toulon ar dir mawr Ffrainc ym Mehefin 1793 oherwydd y rhwyg â Paoli.[30]

Er iddo gael ei eni yn "Napoleone Buonaparte", dim ond wedi hyn y dechreuodd Napoleon ddefnyddio'r enw byr "Napoléon Bonaparte" ond ni ollyngodd ei deulu yr enw Buonaparte tan 1796. Y cofnod cyntaf y gwyddys amdano yn arwyddo ei enw fel Bonaparte oedd yn 27 oed (yn 1796).[31][6]

Gwarchae ar ToulonGolygu

Yng Ngorffennaf 1793, cyhoeddodd Bonaparte bamffled gweriniaethol o'r enw Le souper de Beaucaire (Swper yn y Beaucaire) a enillodd iddo gefnogaeth Augustin Robespierre, brawd iau yr arweinydd Chwyldroadol Maximilien Robespierre. Gyda chymorth ei gyd-Gorsican Antoine Christophe Saliceti, penodwyd Bonaparte yn uwch ynnwr a phennaeth y magnelau yn y lluoedd gweriniaethol a gyrhaeddodd Toulon ar 8 Medi.[32][33]

Creodd gynllun i gipio bryn lle gallai ei fagnelau ddominyddu harbwr y ddinas a gorfodi’r Prydeinwyr i adael. Arweiniodd yr ymosodiad ar y safle at gipio'r ddinas, ond yn ystod y frwydr, clwyfwyd Bonaparte yn ei glun ar 16 Rhagfyr. Cymeradwydwyd ei allu a gosodwyd ef yng ngofal magnelau Byddin Ffrainc yn yr Eidal.[34] Ar 22 Rhagfyr yr oedd ar ei ffordd i'w swydd newydd yn Nice, wedi ei ddyrchafu'n frigadydd-gadfridog yn 24 oed. Dyfeisiodd gynlluniau ar gyfer ymosod ar deyrnas Sardinia fel rhan o ymgyrch Ffrainc yn erbyn y Glymblaid Gyntaf.

Gweithredodd byddin Ffrainc gynllun Bonaparte ym Mrwydr Saorgio yn Ebrill 1794, ac yna symud ymlaen i gipio Ormea yn y mynyddoedd. O Ormea, aethant i'r gorllewin i ragori ar safleoedd Awstro-Sardinaidd o amgylch Saorge. Ar ôl yr ymgyrch hon, anfonodd Augustin Robespierre Bonaparte ar genhadaeth i Weriniaeth Genoa i ganfod bwriad y wlad honno tuag at Ffrainc.[35]

Oherwydd ei sgiliau technegol, gofynnwyd iddo lunio cynlluniau i ymosod ar safleoedd yr Eidal yng nghyd-destun rhyfel Ffrainc yn erbyn Awstria. Cymerodd ran hefyd mewn alldaith i gymryd Corsica yn ôl oddi wrth y Prydeinwyr, ond gwrthyrrwyd y Ffrancwyr gan y Llynges Frenhinol Brydeinig.[36]

Erbyn 1795, roedd Bonaparte wedi dyweddïo â Désirée Clary, merch François Clary. Roedd chwaer Désirée, Julie Clary, wedi priodi brawd hynaf Bonaparte, Joseph.[37] Yn Ebrill 1795, ymunodd a Byddin y Gorllewin, a fu'n ymwneud â Rhyfel y Vendée — rhyfel cartref a gwrth-chwyldro brenhinol yn Vendée, rhanbarth yng ngorllewin canolbarth Ffrainc ar Gefnfor yr Iwerydd. Fel un a oedd yn gyfrifol am filwyr traed, ystyriodd y swydd yn israddol i gadfridog y magnelau a phlediodd afiechyd er mwyn osgoi’r gwaith.[38]

 
Journée du 13 Vendémiaire, tân magnelau o flaen Eglwys Saint-Roch, Paris, Rue Saint-Honoré

Symudwyd ef i Swyddfa Topograffeg Pwyllgor Diogelwch y Cyhoedd, a cheisiodd yn aflwyddiannus am gael ei drosglwyddo i Gaergystennin er mwyn cynnig ei wasanaeth i'r Swltan, Selim III.[39] Yn ystod y cyfnod hwn, ysgrifennodd y nofel ramantus Clisson et Eugénie, am filwr a'i gariad, a oedd yn adlewyrchiad perffaith o berthynas go-iawn Bonaparte â Désirée.[40] Ar 15 Medi, tynnwyd Bonaparte oddi ar restr y cadfridogion a oedd yn gwasanaethu'n rheolaidd am iddo wrthod gwasanaethu yn y Vendée. Roedd yn wynebu sefyllfa ariannol anodd a llai o ragolygon gyrfa.[41]

Ar 3 Hydref, datganodd brenhinwyr ym Mharis wrthryfel yn erbyn y Convention nationale (Llywodraeth y Chwyldro Ffrengig).[42] Gwyddai Paul Barras, un o arweinwyr Thermidor, am orchestion milwrol Bonaparte yn Toulon a rhoddodd iddo reolaeth ar y lluoedd i amddiffyn y llywodraeth ym Mhalas Tuileries. Roedd Napoleon wedi gweld cyflafan Gwarchodlu'r Swistir yn y Brenin yno dair blynedd ynghynt a sylweddolodd mai magnelau fyddai'r allwedd i'w hamddiffyn.[14]

Gorchmynnodd i swyddog marchfilwyr ifanc o'r enw Joachim Murat atafaelu canonau mawr a'u defnyddio i wrthyrru'r ymosodwyr ar 5 Hydref 1795— 13 Vendémiaire An IV yng Nghalendar y Chwyldroadwyr Ffrengig; bu farw 1,400 o frenhinwyr a ffodd y gweddill.[42] Roedd wedi clirio'r strydoedd gyda chwythiad o "arogl grawnwin", yn ôl yr hanesydd Albanaidd Thomas Carlyle yn ei gyfrol y Chwyldro Ffrengig: A History a gyhoeddwyd mewn tair rhan yn 1837.[43][44]

Yn sgil gorchfygu gwrthryfel y brenhinwyr, dilëwyd y bygythiad i'r Confensiwn ac enillodd Bonaparte enwogrwydd sydyn, ac enillodd gyfoeth a nawdd y llywodraeth newydd y Directoire. Priododd Murat ag un o chwiorydd Napoleon, gan ddod yn frawd-yng-nghyfraith iddo; a gwasanaethodd hefyd, yn ddiweddarach, o dan Napoleon fel un o'i gadfridogion. Dyrchafwyd Bonaparte yn Gadlywydd Byddin Ffrainc yn yr Eidal.[30]

Ymhen ychydig wythnosau bu'n ymwneud yn rhamantus â Joséphine de Beauharnais, cyn-feistres Barras. Priododd y cwpl ar 9 Mawrth 1796 mewn seremoni sifil.[45]

Dau ddiwrnod ar ôl y briodas, gadawodd Bonaparte Baris i gymryd rheolaeth o Fyddin Ffrainc yn yr Eidal. Aeth ati i ymosod yn syth, gan obeithio trechu lluoedd Piedmont cyn y gallai eu cynghreiriaid Awstriaidd ymyrryd. Mewn cyfres o fuddugoliaethau cyflym yn ystod Ymgyrch Montenotte, curodd Piedmont yn llwyr mewn pythefnos cwta. Yna canolbwyntiodd y Ffrancwyr ar yr Awstriaid am weddill y rhyfel, a gorchfygodd Napoleon ym mrwydrau Castiglione, Bassano, Arcole, a Rivoli. Arweiniodd buddugoliaeth bendant Ffrainc yn Rivoli yn Ionawr 1797 at ddymchwel safle Awstria yn yr Eidal. Yn Rivoli, collodd yr Awstriaid hyd at 14,000 o filwyr tra collodd y Ffrancod tua 5,000.[46]

Roedd cam nesaf yr ymgyrch yn cynnwys goresgyniad Ffrainc o gadarnleoedd Habsburg. Roedd lluoedd Ffrainc yn Ne'r Almaen wedi cael eu trechu gan yr Archddug Charles ym 1796, ond tynnodd yr Archddug ei luoedd yn ôl i amddiffyn Fienna ar ôl dysgu am ymosodiad Napoleon. Yn y cyfarfod cyntaf rhwng y ddau gadlywydd, gwthiodd Napoleon ei wrthwynebydd yn ôl a symud ymlaen yn ddwfn i diriogaeth Awstria ar ôl ennill ym Mrwydr Tarvis ym mis Mawrth 1797. Dychrynwyd yr Awstriaid gan y gwthiad Ffrengig a gyrhaeddodd yr holl ffordd i Leoben, tua 100 km o Vienna, ac o'r diwedd penderfynodd ofyn am heddwch.[47] Rhoddodd Cytundeb Leoben, a ddilynwyd gan Gytundeb Campo Formio mwy cynhwysfawr, reolaeth i Ffrainc ar y rhan fwyaf o ogledd yr Eidal a'r Gwledydd Isel, ac addawodd cymal cyfrinachol Gweriniaeth Fenis i Awstria. Gorymdeithiodd Bonaparte ar Fenis a gorfodi ei hildio, gan ddod â 1,100 o flynyddoedd o annibyniaeth Fenis i ben. Awdurdododd hefyd y Ffrancwyr i ysbeilio trysorau megis Ceffylau Sant Marc.[48] Ar y daith, bu Bonaparte yn sgwrsio llawer am ryfelwyr megis Alecsander, Cesar, Scipio a Hannibal. Astudiodd eu strategaeth a'i chyfuno â'i strategaeth ei hun. Mewn cwestiwn o Bourrienne, yn gofyn a oedd yn rhoi ei ffafriaeth i Alecsander neu Gesar, dywedodd Napoleon ei fod yn gosod Alecsander Fawr yn y rheng gyntaf oherwydd llwyddiant ei ymgyrch ar Asia.[49]

 
Bonaparte yn ystod ymgyrch yr Eidal yn 1797

Galluogodd ei ddefnydd o syniadau milwrol confensiynol i sefyllfaoedd yn y byd go iawn ei fuddugoliaethau milwrol, megis defnydd creadigol o fagnelau fel grym symudol i gefnogi ei filwyr traed. Dywedodd yn ddiweddarach: "Dw i wedi ymladd chwe-deg o frwydrau, a dysgais ddiawl o ddim na wyddwn ar y dechrau. Edrych ar Cesar; ymladdodd y cyntaf fel yr olaf."[50]

Enillodd Bonaparte ei frwydrau trwy guddio'i filwyr a chanolbwyntio ei luoedd ar "gilfach" ffrynt wanaf y gelyn. Pe na bai'n gallu defnyddio ei hoff strategaeth o amgylchynu, byddai'n cymryd y safle canolog ac yn ymosod ar ddau rym cydweithredol wrth eu colfach, gan siglo rownd i ymladd un nes iddo ffoi, yna troi i wynebu'r llall.[51] Yn yr ymgyrch Eidalaidd hon, daliodd byddin Bonaparte 150,000 o garcharorion, 540 o ganonau, a 170 o gludwyr baner.[52] Ymladdodd byddin Ffrainc 67 gweithred (neu ymladdfa) ac ennill 18 o frwydrau trwy gyfrwng technoleg magnelau uwchraddol a thactegau unigryw Bonaparte.[53]

Yn ystod yr ymgyrch, daeth Bonaparte yn gynyddol ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Sefydlodd ddau bapur newydd: un ar gyfer y milwyr yn ei fyddin ac un arall ar gyfer cylchrediad yn Ffrainc.[54] Ymosododd y brenhinwyr ar Bonaparte am ysbeilio'r Eidal a rhybuddiodd y gallai ddod yn unben.[55] Amcangyfrifir bod lluoedd Napoleon wedi tynnu $45 miliwn mewn arian o'r Eidal yn ystod eu hymgyrch yno, a gwerth $12 miliwn arall mewn metelau a thlysau gwerthfawr. Atafaelodd ei luoedd hefyd fwy na 300 o baentiadau a cherfluniau amhrisiadwy.[56]

Anfonodd Bonaparte y Cadfridog Pierre Augereau i Baris i arwain coup d'état a chael gwared ar y brenhinwyr ar 4 Medi - Coup of 18 Fructidor. Gadawodd hyn Barras a'i gynghreiriaid Gweriniaethol i reoli eto, ond yn ddibynnol ar Bonaparte, a aeth ymlaen i drafodaethau heddwch gydag Awstria. Arweiniodd y trafodaethau hyn at Gytundeb Campo Formio, a dychwelodd Bonaparte i Baris yn Rhagfyr fel arwr.[57] Cyfarfu â Talleyrand, Gweinidog Tramor newydd Ffrainc — a wasanaethodd yn yr un modd i'r Ymerawdwr Napoleon — a dechreuasant baratoi ar gyfer goresgyn Lloegr (a alwai ei hun yn 'Prydain').[30]

Alldaith EifftaiddGolygu

 
Bonaparte O Flaen y Sffincs (c. 1886) gan Jean-Léon Gérôme, Castell Hearst

Ar ôl deufis o gynllunio, penderfynodd Bonaparte nad oedd llynges Ffrainc yn ddigon cryf, eto, i wynebu'r Llynges Frenhinol Brydeinig. Penderfynodd ar daith filwrol i gipio'r Aifft a thrwy hynny danseilio mynediad Prydain i'w diddordebau masnachol yn India.[30] Dymunai Bonaparte sefydlu presenoldeb Ffrengig yn y Dwyrain Canol ac ymuno â Tipu Sultan, Swltan Mysore a oedd yn elyn i'r Prydeinwyr.[58] Sicrhaodd Napoleon ei Lywodraeth “cyn gynted ag y byddai wedi goresgyn yr Aifft, byddai'n sefydlu perthynas â thywysogion India ac, ynghyd â hwy, yn ymosod ar y Saeson yno”.[59] Cytunodd y Directory er mwyn sicrhau llwybr masnach i is-gyfandir India.[60]

Ym Mai 1798, etholwyd Bonaparte yn aelod o Academi Gwyddorau Ffrainc (Académie des Sciences). Roedd ei daith Eifftaidd yn cynnwys grŵp o 167 o wyddonwyr, gyda mathemategwyr, naturiaethwyr, cemegwyr, a geodesyddion yn eu plith. Ymhlith eu darganfyddiadau roedd Carreg Rosetta, a chyhoeddwyd eu gwaith yn y Description de l'Égypte yn 1809.[61]

 
Brwydr y Pyramidiau ar 21 Gorffennaf 1798 gan Louis-François, Barwn Lejeune, 1808

Ar y ffordd i'r Aifft, cyrhaeddodd Bonaparte Malta ar 9 Mehefin 1798, a reolir ar y pryd gan Farchogion yr Ysbyty. Ildiodd y Prif Feistr Ferdinand von Hompesch zu Bolheim ar ôl gwrthwynebiad symbolaidd, a chipiodd Bonaparte sylfaen llynges bwysig gan golli dim ond tri dyn.[62]

Ni chafodd Bonaparte a'i alldaith eu herlid gan y Llynges Frenhinol a glaniodd yn Alexandria ar 1 Gorffennaf.[30] Ymladdodd Brwydr Shubra Khit yn erbyn y Mamluks, cast milwrol o'r Aifft. Helpodd hyn y Ffrancwyr i ymarfer eu tacteg amddiffynnol ar gyfer Brwydr y Pyramidiau, a ymladdwyd ar 21 Gorffennaf, tua 24 cilometr (15 milltir) o'r pyramidiau. Lladdwyd dau ddeg naw o Ffrancwyr[63] a thua 2,000 o Eifftiaid. Rhoddodd y fuddugoliaeth hon hwb enfawr i forâl byddin Ffrainc.[64]

Ar 1 Awst 1798, cipiodd a dinistriodd llynges Prydain (o dan Syr Horatio Nelson) bob un ond dwy o longau llynges Ffrainc ym Mrwydr y Nil, gan drechu nod Bonaparte i gryfhau safle Ffrainc ym Môr y Canoldir.[65]  Roedd ei fyddin wedi llwyddo i gynyddu grym Ffrainc dros dro yn yr Aifft, er iddi wynebu gwrthryfeloedd dro ar ôl tro. [66] Yn gynnar yn 1799, symudodd ran o'i fyddin i dalaith Otomanaidd Damascus (Syria a Galilea). Arweiniodd Bonaparte yr 13,000 o filwyr Ffrengig hyn yn y goncwest ar drefi arfordirol Arish, Gaza, Jaffa, a Haifa.[67] Roedd yr ymosodiad ar Jaffa yn arbennig o greulon. Darganfu Bonaparte fod llawer o’r amddiffynwyr yn gyn-garcharorion rhyfel, ar barôl i bob golwg, felly gorchmynnodd i’r garsiwn a 1,400 o garcharorion gael eu dienyddio trwy bidog neu foddi i arebd y bwledi.[65] Cafodd dynion, merched, a phlant eu ladrata a'u llofruddio mewn cyflafan waedlyd dros gyfnod o dridiau.[68]

Dechreuodd Bonaparte gyda byddin o 13,000 o wyr; Adroddwyd bod 1,500 ar goll, bu farw 1,200 wrth ymladd, a bu farw miloedd o afiechyd - o'r pla bubonig yn bennaf. Methodd a chipio caer Acre, felly gorymdeithiodd ei fyddin yn ôl i'r Aifft ym Mai. I gyflymu'r enciliad, gorchmynnodd Bonaparte i ddynion oedd yn dioddef o'r pla (rhwng 30 a 580 ohonyn nhw) gael eu gwenwyno ag opiwm.[69] Yn ôl yn yr Aifft ar 25 Gorffennaf, trechodd Bonaparte ymosodiad amffibaidd gan yr Otomaniaid yn Abukir.[70]

Rheolwr FfraincGolygu

 
Paentiad olew o'r Cadfridog Bonaparte wedi'i amgylchynu gan aelodau o'r Cyngor Pum Cant yn ystod Coup 18 Brumaire, gan François Bouchot

Tra yn yr Aifft, roedd Bonaparte yn derbyn newyddion am faterion Ewropeaidd. Clywodd fod Ffrainc wedi dioddef cyfres o orchfygiadau yn Rhyfel yr Ail Glymblaid.[71] Ar 24 Awst 1799, manteisiodd ar ymadawiad dros dro llongau Prydeinig o borthladdoedd arfordirol Ffrainc a hwylio i Ffrainc, er gwaethaf y ffaith nad oedd wedi derbyn unrhyw orchmynion penodol gan Baris.[65] Gadawyd y fyddin dan ofal Jean-Baptiste Kléber.[72]

Yn anhysbys i Bonaparte, roedd y Directory (y Llywodraeth) wedi ei orchmyn i ddychwelyd i atal ymosodiadau posibl ar Ffrainc, ond roedd llinellau cyfathrebu gwael yn atal y negeseuon hyn rhag cael eu trosglwyddo.[71] Erbyn iddo gyrraedd Paris yn Hydref, roedd sefyllfa Ffrainc wedi gwella trwy gyfres o fuddugoliaethau. Roedd y Weriniaeth, fodd bynnag, yn fethdalwr ac roedd y Directory yn aneffeithiol ac yn amhoblogaidd ymhlith poblogaeth Ffrainc.[73] Roeddent yn trafod fod Bonaparte wedi mynd ar ei liwt ei hun, ond roedden nhw'n rhy wan i'w gosbi.[71]

Er gwaethaf rhai methiannau yn yr Aifft, dychwelodd Napoleon i i Ffrainc fel arwr. Lluniodd gynghrair gyda'r cyfarwyddwr Emmanuel Joseph Sieyès, ei frawd Lucien, Llefarydd y Cyngor Pum Cant, Roger Ducos, y cyfarwyddwr Joseph Fouché, a Talleyrand, ac aethant ati i gipio'r aewnau drwy coup d'état ar 9 Tachwedd 1799 ("y 18fed Brumaire" yn ôl calendr y chwyldro), gan ddod a'r Cyngor Pum Cant i ben. Apwyntiwyd Napoleon yn "gonswl cyntaf" a daliodd y swydd am ddeng mlynedd, gyda dau gonswl wedi eu penodi ganddo oedd â lleisiau ymgynghorol yn unig. Cadarnhawyd ei rym gan “Gyfansoddiad y Flwyddyn VIII”, newydd, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol gan Sieyès i roi rôl bychan i Napoleon, ond a ailysgrifennwyd gan Napoleon ei hun, a’i dderbyn trwy bleidlais boblogaidd uniongyrchol (3,000,000 o blaid, a 1,567 yn erbyn). Cadwodd y cyfansoddiad ymddangosiad o fod yn weriniaeth ond, mewn gwirionedd, sefydlodd unbennaeth.[74][75]

Conswl FfraincGolygu

 
Bonaparte, Prif Gonswl, gan yr arlunydd Ingres. Gosodir llaw Bonaparte y tu mewn i'r wasgod, fel symbol mewn portreadau o'r fath o arweinydd tawel a sefydlog.
 
Darn arian: 5 ffranc AN XI, 1802, Bonaparte, y Conswl Cyntaf

Sefydlodd Napoleon system wleidyddol a alwodd yr hanesydd Martyn Lyons yn "unbennaeth trwy blebiscite" (neu "unbeniaeth drwy ganiatad y bobl").[76] Poenai am luoedd democrataidd y bobl, a ryddhawyd gan y Chwyldro, ac ni ddymunai eu hanwybyddu, felly aeth Napoleon ati i ymgynghori yn etholiadol reolaidd gyda phobl Ffrainc ar ei ffordd i rym imperialaidd.[76] Drafftiodd Gyfansoddiad y Flwyddyn VIII a sicrhaodd ethol ei hun yn Gonswl Cyntaf, gan fyw yn y Tuileries. Atgyfnerthwyd ei safle y mis Ionawr canlynol, gyda 99.94 y cant wedi'u rhestru'n swyddogol fel rhai a bleidleisiodd "ie".[77]

LlyfryddiaethGolygu

Llyfryddiaeth bywgraffyddolGolygu

  • Abbott, John (2005). Life of Napoleon Bonaparte. Kessinger Publishing. ISBN 978-1-4179-7063-6.
  • Bell, David A. (2015). Napoleon: A Concise Biography. Oxford and New York: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-026271-6. only 140pp; by a scholar
  • Blaufarb, Rafe (2007). Napoleon: Symbol for an Age, A Brief History with Documents. Bedford. ISBN 978-0-312-43110-5.
  • Chandler, David (2002). Napoleon. Leo Cooper. ISBN 978-0-85052-750-6.
  • Cronin, Vincent (1994). Napoleon. HarperCollins. ISBN 978-0-00-637521-0.
  • Dwyer, Philip (2008a). Napoleon: The Path to Power. Yale University Press. ISBN 9780300137545.
  • Dwyer, Philip (2013). Citizen Emperor: Napoleon in Power. Yale University Press. ASIN B00GGSG3W4.
  • Englund, Steven (2010). Napoleon: A Political Life. Scribner. ISBN 978-0-674-01803-7.
  • Gueniffey, Patrice. Bonaparte: 1769–1802 (Harvard UP, 2015, French edition 2013); 1008 pp.; vol 1 of most comprehensive recent scholarly biography by leading French specialist; less emphasis on battles and campaigns excerpt; also online review
  • Johnson, Paul (2002). Napoleon: A life. Penguin Books. ISBN 978-0-670-03078-1.; 200 pp.; quite hostile
  • Lefebvre, Georges (1969). Napoleon from 18 Brumaire to Tilsit, 1799–1807. Columbia University Press. influential wide-ranging history
  • Lyons, Martyn (1994). Napoleon Bonaparte and the Legacy of the French Revolution. St. Martin's Press.
  • Markham, Felix (1963). Napoleon. Mentor.; 303 pp.; short biography by an Oxford scholar online
  • McLynn, Frank (1998). Napoleon. Pimlico. ISBN 978-0-7126-6247-5. Nodyn:ASIN.
  • Roberts, Andrew (2014). Napoleon: A Life. Penguin Group. ISBN 978-0-670-02532-9.
  • Thompson, J.M. (1951). Napoleon Bonaparte: His Rise and Fall. Oxford U.P., 412 pp.; by an Oxford scholar

Ffynonellau cynraddGolygu

  • Babelon, Jean-Pierre, D'Huart, Suzanne and De Jonge, Alex. Napoleon's Last Will and Testament. Paddington Press Ltd. New York & London. 1977. ISBN 0-448-22190-X.
  • Broadley, A. M., and J. Holland Rose. Napoleon in caricature 1795–1821 (John Lane, 1911) online, illustrated
  • Gourgaud, Gaspard (1903) [1899]. Talks of Napoleon at St. Helena. Translated from the French by Elizabeth Wormeley Latimer. Chicago: A.C. McClurg.

HanesyddolGolygu

  • Broadley, Alexander Meyrick (1911). Napoleon in Caricature 1795-1821. John Lane, 1911 Caricature.
  • Dwyer, Philip G. (2004). "Napoleon Bonaparte as Hero and Saviour: Image, Rhetoric and Behaviour in the Construction of a Legend". French History 18 (4): 379–403. doi:10.1093/fh/18.4.379.
  • Dwyer, Philip (2008b). "Remembering and Forgetting in Contemporary France: Napoleon, Slavery, and the French History Wars". French Politics, Culture & Society 26 (3): 110–22. doi:10.3167/fpcs.2008.260306.
  • Englund, Steven. "Napoleon and Hitler". Journal of the Historical Society (2006) 6#1 pp. 151–69.
  • Geyl, Pieter (1982) [1947]. Napoleon For and Against. Penguin Books.
  • Hanson, Victor Davis (2003). "The Claremont Institute: The Little Tyrant, A review of Napoleon: A Penguin Life". The Claremont Institute.
  • Hazareesingh, Sudhir (2005). The Legend of Napoleon. excerpt and text search
    • Hazareesingh, Sudhir. "Memory and Political Imagination: The Legend of Napoleon Revisited", French History (2004) 18#4 pp. 463–83.
    • Hazareesingh, Sudhir (2005). "Napoleonic Memory in Nineteenth-Century France: The Making of a Liberal Legend". MLN 120 (4): 747–73. doi:10.1353/mln.2005.0119.
  • Porterfield, Todd, and Susan Siegfried. Staging Empire: Napoleon, Ingres, and David (Penn State Press, 2006). online review.

Nodyn:Column

Astudiaethau arbenigolGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Roberts, A. (2016). 
  2. Cochran, Peter (16 July 2015). Byron, Napoleon, J.C. Hobhouse, and the Hundred Days. London: Cambridge Scholars Publishing. t. 60. ISBN 978-1443877428. Cyrchwyd 14 June 2021.
  3. Forrest, Alan (26 March 2015). Waterloo: Great Battles. Oxford University Press. t. 24. ISBN 978-0199663255. Cyrchwyd 14 June 2021.
  4. McLynn 1998
  5. Gueniffey, Patrice (13 April 2015). Bonaparte. Harvard University Press. tt. 21–22. ISBN 978-0-674-42601-6.
  6. 6.0 6.1 Dwyer 2008a
  7. Dwyer 2008a
  8. McLynn 1998, t. 6
  9. 9.0 9.1 Cronin 1994, pp. 20–21
  10. Chamberlain, Alexander (1896). The Child and Childhood in Folk Thought: (The Child in Primitive Culture), p. 385 (yn Saesneg). MacMillan.
  11. Cronin 1994, p. 27
  12. 12.0 12.1 12.2 International School History (8 February 2012), Napoleon's Rise to Power, https://www.youtube.com/watch?v=LquhSEdVfK8, adalwyd 29 January 2018
  13. Johnson, Paul (2006). Napoleon: A Life (yn Saesneg). Penguin. ISBN 978-0-14-303745-3.
  14. 14.0 14.1 14.2 Roberts 2001, p. xvi
  15. 15.0 15.1 15.2 Murari·Culture·, Edoardo (20 August 2019). "Italians Of The Past: Napoleon Bonaparte". Italics Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 October 2021.
  16. 16.0 16.1 Roberts 2014.
  17. 17.0 17.1 Parker, Harold T. (1971). "The Formation of Napoleon's Personality: An Exploratory Essay". French Historical Studies 7 (1): 6–26. doi:10.2307/286104. JSTOR 286104.
  18. Adams, Michael (2014). Napoleon and Russia (yn Saesneg). A&C Black. ISBN 978-0-8264-4212-3.
  19. McLynn 1998
  20. Grégoire, Henri (1790). "Report on the necessity and means to annihilate the patois and to universalise the use of the French language". Wikisource (yn Ffrangeg). Paris: French National Convention. Cyrchwyd 16 January 2020. [...] the number of people who speak it purely does not exceed three million; and probably the number of those who write it correctly is even fewer.
  21. McLynn 1998
  22. Chandler 1973.
  23. 23.0 23.1 Dwyer 2008a, t. 42
  24. McLynn 1998, t. 26
  25. Roberts, Andrew.
  26. Roberts, Andrew.
  27. David Nicholls (1999). Napoleon: A Biographical Companion. ABC-CLIO. t. 131. ISBN 978-0-87436-957-1.
  28. McLynn 1998, t. 55
  29. McLynn 1998, t. 61
  30. 30.0 30.1 30.2 30.3 30.4 Roberts 2001, p. xviii
  31. Roberts, Andrew (2011). Napoleon: A Life (yn Saesneg). Penguin. ISBN 978-0-698-17628-7.
  32. Dwyer 2008a, t. 132
  33. Dwyer, p. 136.
  34. McLynn 1998, t. 76
  35. Patrice Gueniffey, Bonaparte: 1769–1802 (Harvard UP, 2015), pp. 137–59.
  36. Dwyer 2008a, t. 157
  37. McLynn 1998, tt. 76, 84
  38. McLynn 1998
  39. Dwyer 2008a
  40. Dwyer 2008a
  41. McLynn 1998
  42. 42.0 42.1 McLynn 1998, t. 96
  43. Johnson 2002, p. 27
  44. Carlyle, Thomas (1896). "The works of Thomas Carlyle – The French Revolution, vol. III, book 3.VII". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 March 2015.
  45. Englund (2010) pp. 92–94
  46. Bell 2015, t. 29.
  47. Dwyer 2008a, tt. 284–85
  48. McLynn 1998
  49. Memoirs of Napoleon Bonaparte, Louis Antoine Fauvelet de Bourrienne, pp 158.
  50. McLynn 1998, t. 145
  51. McLynn 1998, t. 142
  52. Harvey 2006, p. 179
  53. McLynn 1998, t. 135
  54. Dwyer 2008a, t. 306
  55. Dwyer 2008a, t. 305
  56. Bell 2015, t. 30.
  57. Dwyer 2008a, t. 322
  58. Watson 2003, pp. 13–14
  59. Amini 2000, p. 12
  60. Dwyer 2008a
  61. Englund (2010) pp. 127–28
  62. McLynn 1998, t. 175
  63. McLynn 1998
  64. Dwyer 2008a
  65. 65.0 65.1 65.2 Roberts 2001, p. xx
  66. Dwyer 2008a
  67. Dwyer 2008a
  68. McLynn 1998
  69. Gueniffey, Bonaparte: 1769–1802 pp. 500–02.
  70. Dwyer 2008a, t. 442
  71. 71.0 71.1 71.2 Connelly 2006, p. 57
  72. Dwyer 2008a, t. 444
  73. Dwyer 2008a, t. 455
  74. François Furet, The French Revolution, 1770–1814 (1996), p. 212
  75. Georges Lefebvre, Napoleon from 18 Brumaire to Tilsit 1799–1807 (1969), pp. 60–68
  76. 76.0 76.1 Lyons 1994, t. 111
  77. Lefebvre, Napoleon from 18 Brumaire to Tilsit 1799–1807 (1969), pp. 71–92
Rhagflaenydd:
Louis XVI
Ymerawdwr Ffrainc
18 Mai 18046 Ebrill 1814
Olynydd:
Louis XVIII
fel Brenin Ffrainc a Navarre
Rhagflaenydd:
Ffransis II
Brenin yr Eidal
26 Mai 18041814
Olynydd:
Dim
(o 1861
Vittorio Emanuele II)
Rhagflaenydd:
Louis XVIII
fel Brenin Ffrainc a Navarre
Ymerawdwr Ffrainc
23 Mawrth 181522 Mehefin 1815
Olynydd:
Napoleon II