Emosiwn sylfaenol yw dicter sy'n gwasanaethu i ymladd yn erbyn pethau anghyfiawn neu'n warthus ac i amddiffyn pobl yr ydym yn eu caru. Mae dicter yn gwneud pobl ganolbwyntio eu sylw ar y targed ac yn rhoi teimlad corfforol a seicolegol o fod yn effro. Yn wahanol i ofn, gall dicter achosi i'r person ymosod yn hytrach na ffoi. Gall dicter cudd arwain at broblemau seicolegol.[angen ffynhonnell]

Darlun o wynebau llawn dicter.

Pan fydd person yn mynd yn ddig mae cyhyrau'r corff yn tynhau, yn barod i ymateb yn gyflym yn erbyn y perygl posibl. Mae hefyd yn cyflymu cyfradd curiad y galon.

Mae rhai anifeiliaid dig yn gwneud synau uchel, yn ceisio edrych yn fwy, yn dangos eu dannedd ac yn syllu.

Cyfeiriadau golygu