Dihareb
dywediad sy'n rhoi cyngor, yn aml fel delwedd
Dywediad byr, poblogaidd yw dihareb, sy'n mynegi gwiredd yn seiliedig ar brofiad o fywyd cyffredin. Nid yw dihareb yn ddyfyniad o eiriau un person, yn hytrach, mae'n tarddio o draddodiad llafar fel rheol, ac yn crynhoi doethineb canrifoedd. Mae gan bob iaith a diwylliant ei diarebion unigryw ei hun er y ceir rhai diarebion sy'n "rhyngwladol" ac a geir mewn sawl iaith a diwylliant. Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r ddihareb ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb.
Rhan o Lyfr Coch Hergest sy'n rhestru diarhebion Cymraeg yn y 14g, e.e. "Clywir corn cyn ei weled" | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth llenyddol |
---|---|
Math | paroimia, ymadrodd, popular saying |
Rhan o | genres bychain o fewn llên gwerin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn aml, mae dihareb yn cynnwys trosiad, er enghraifft, "Nid aur yw popeth melyn" a "Gorau cannwyll pwyll i ddyn". Ond ceir diarebion heb drosiadau hefyd, e.e. "Trech Duw na phob darogan".
Llyfryddiaeth
golygu- T. O. Jones, gol. J. Hughes, Diarebion y Cymry (Conwy, 1891)
- O. M. Edwards, Diarhebion Cymru (Wrecsam, 1897)
- Evan Jones, Doethineb Llafar (Abertawe, 1925)
- William Hay, Diarhebion Cymru (Lerpwl, 1925)
- J. J. Evans, Diarhebion Cymraeg / Welsh Proverbs (Gwasg Gomer, 1965)
- Mary Williams, Dawn Ymadrodd (Gwasg Gomer, 1978; 2/2016)
Gweler hefyd
golygu- Llyfr y Diarhebion, un o lyfrau'r Hen Destament
- Englynion y Clywaid, cyfres o englynion Cymraeg Canol sy'n cynnwys diarebion
- Epigram
- Gwireb