Diogelwch emosiynol

Diogelwch emosiynol yw mesuriad sefydlogrwydd cyflwr emosiynol unigolyn . Ansicrwydd emosiynol neu ansicrwydd yw'r teimlad o anesmwythder cyffredinol neu nerfusrwydd a all gael ei ysgogi gan feddwl eich bod yn agored i niwed neu'n israddol mewn rhyw ffordd, neu deimlo'n fregus neu'n ansefydlog. Gall hyn fygwth eich hunanddelwedd neu'ch ego.

Mae'r cysyniad yn gysylltiedig â gwydnwch seicolegol sy'n ymwneud â'r effeithiau y mae rhwystrau neu sefyllfaoedd anodd yn eu cael ar unigolyn. Fodd bynnag, mae gwydnwch yn ymwneud ag ymdopi yn gyffredinol. Mae hefyd yn berthnasol i sefyllfa economaidd-gymdeithasol yr unigolyn. Ar y llaw arall mae diogelwch emosiynol yn nodweddu'r effaith emosiynol yn benodol. Yn yr ystyr hwn, gellir ystyried diogelwch emosiynol fel rhan o wydnwch.[1]

Dylir wahaniaethu'r syniad o sicrwydd emosiynol unigolyn oddi wrth y diogelwch emosiynol neu'r sicrwydd sy'n cael eu darparu gan amgylchedd anfygythiol, cefnogol. Dywedir bod person sy'n dioddef o byliau o iselder ac yn cael eu heffeithio gan fân anawsterau yn llai "emosiynol ddiogel". Gellir dweud bod person nad yw eu hapusrwydd cyffredinol yn cael ei effeithio gan ddigwyddiadau sy'n achosi aflonyddwch mawr yn ystod eu bywydau yn hynod o ddiogel yn emosiynol.

Cyfeiriadau golygu