Disgfyd (byd)
Lleoliad ffuglenol yn nofelau ffuglen wyddonol y gyfres Disgfyd gan Terry Pratchett yw'r Disgfyd (Saesneg: Discworld). Mae'r Disgfyd yn ddisg sydd ychydig yn amgrwm gyda rhaeadr yn tasgu oddi ar ymyl y ddisg. Caiff y ddisg ei gynnal gan bedwar eliffant ar gefn crwban anferth, sef Great A'Tuin (sy'n debyg i Chukwa neu Akupara o fytholeg Hindw), wrth iddo nofio drwy'r gofod yn araf. Caiff y Ddisg ei ddylanwadu'n gryf gan hud, ac er ei fod yn debyg i'r ddaear, mae'n glynnu at reolau naratif achosiaeth ei hun.
Math o gyfrwng | bydysawd ffuglenol |
---|---|
Crëwr | Terry Pratchett |
Dyddiad cyhoeddi | 2008 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Archwiliodd Pratchett y syniad o fyd siâp disg am y tro cyntaf yn y nofel Strata (1981).