Eliffant
- Ar gyfer y band cerddorol gweler: Eliffant (band)
Eliffant | |
---|---|
![]() | |
Eliffant Affricanaidd ym Mharc Cenedlaethol Mikumi, Tanzania | |
![]() | |
Eliffant Asiaid ym Mharc Cenedlaethol Bandipur, India | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Is-ffylwm: | Vertebrata |
Dosbarth: | |
Uwchurdd: | Afrotheria |
Urdd: | Proboscidea |
Teulu: | Elephantidae Gray, 1821 |
Genera | |
Mamal croendew enfawr ysgithrog a llysysol sy'n perthyn i deulu'r Elephantidae yw eliffant. Mae gan eliffantod groen tew bron yn ddi-flew, dau ysgithr ifori, trwnc hir gafaelog (a elwir duryn), clustiau mawrion gwyntyllaidd, pen mawr gyda llawer o feinwe ddiplöig ac ymennydd datblygedig iawn, a traed byrion a chrymion gyda phum bys. Maen nhw'n bwyta planhigion, yn arbennig glaswellt a dail a byw nes eu bont yn 70 neu hŷn. Yn draddodiadol cânt eu dosbarthu'n ddau ddosbarth ar wahân sef eliffant Asiaidd (Loxodonta africana) ac eliffant Affricanaidd (Elephas maximus). Erbyn heddiw, fodd bynnag, credir fod eliffant y safana (L. africana) ac eliffant y fforest (L. cyclotis) yn ddau rywogaeth gwahanol.
Mae nhw'n perthyn yn agos i'r mamoth a'r mastadon sydd ill dau bellach wedi darfod o'r tir; hwy ydy rhywogaeth olaf urdd y durynogion (Proboscidea). Nhw hefyd ydy'r mamal mwyaf sydd i'w gael, gyda'u taldra oddeutu 4 m (13 ft) a'u pwysau'n medru bod cymaint â 7,000 kg (15,000 lb).