Disgyrchiant
Disgyrchiant yw'r theori sy'n esbonio'r achos i wrthrychau sydd â màs gyflymu tuag at ei gilydd. Mewn bywyd pob dydd, mae disgyrchiant yn cael ei adnabod fel y grym sy'n rhoi mas i wrthrychau. Dyma'r grym sy'n cadw'r Ddaear a gweddill planedau Cysawd yr Haul i gylchdroi o gwmpas yr haul mewn orbit. Mae hefyd yn cadw'r Lleuad mewn orbit o gwmpas y Ddaear gan achosi llanw, darfudiad a nifer o brosesau arall sy'n digwydd yn yr amgylchedd. Heb ddisgyrchiant, ni fyddai'r y glec fawr wedi digwydd gan ei fod yn hanfodol i'r theori honno.
Enghraifft o'r canlynol | rhyngweithiad sylfaenol, ffenomen ffisegol |
---|---|
Y gwrthwyneb | grym nad yw'n ddisgyrchiant |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyflymder disgyrchiant y Ddaear yw 9.8me−2. Defnyddir y ffigwr yma wrth ddefnyddio'r hafaliadau mudiant.