Distyllu ffracsiynol

Gwahaniad cymysgedd mewn i'w cydrannau gwreiddiol yw Distyllu ffracsiynol. Mae hyn yn cael ei gyflawni wrth gynhesu cyfansoddion cemegol gan ei berwbwyntiau ac yna ei gwahanu i mewn i ffracsiynau gwahanol i anweddu. Mae hyn yn fath arbennig o ddistyllu. Yn syml mae'r cydrannau gwreiddiol yn berwi yn llai na 25 °C o'i gilydd ac o dan gwasgedd o 1 atmosffer (atm). Os mae'r gwahaniaeth yn y berwbwyntiau yn fwy na 25 °C yna mae yna fath syml o distyllu yn cael ei defnyddio.

Distyllu ffracsiynol
Offer distyllu ffracsiynol mewn labordy
Enghraifft o'r canlynolseparation process Edit this on Wikidata
MathDistyllu Edit this on Wikidata
Caiff hydrocarbonau eu puro mewn colofn distyllu ffracsiynol

Puro olew crai

golygu

Mae olew crai yn gymysgedd cymhleth o foleciwlau hydrocarbonau a ffurfiwyd dros filiynau o flynyddoedd. Does dim ffosiliau o fewn olew crai ond mae tystiolaeth yn dangos taw gweddillion creaduriaid a planhigion a ffurfiwyd y hydrocarbonau yma. Ffurfiwyd rhain o'r weddillion yn y môr mewn ardaloedd a oedd yn rhydd o ocsigen, roedd bacteria yn bwydo ar y gweddillion hyn ac yn tynnu unrhyw ocsigen a oedd o fewn y weddillion. Erbyn hyn mae olew yn cael eu buro yn eang ac mae'n brif ffynhonnell ar gyfer tanwyddau. Bydd cyfansoddion olew crai yn amrywio o un maes olew i'r llall, gydag ambell olew crai yn cynnwys meintiau sylweddol o gyfansoddion sylffwr a nitrogen yn ogystal ag olion amryw o fetelau. Distyllu ffracsiynol yw'r cam cyntaf wrth buro i gynhyrchu tanwyddau ac ireidiau ynghyd â defnyddiau crai ar gyfer y diwydiant petrogemegol.

Distyllu ffracsiynol olew

golygu

Proses ddi-dor ar raddfa eang yw distyllu ffracsiynol olew. Mae'n rhannu olew crai yn ffracsiynau. Bydd ffwrnais yn gwresogi'r olew a hwnnw'n llifo wedyn i golofn ffracsiynu. Yn y golofn hon mae tua 40 'hambwrdd' gyda thyllau bychain drostynt i gyd. Bydd anwedd cyddwysedig yn llifo dros pob hambwrdd ac yna i'r hambwrdd islaw. Mae'r golofn boethach ar y gwaelod ac yna oerach ar y top ac felly mae'r cadwynau mawr megis octan a decan yn ffracsiynu ar waelod y golofn a'r cadwynau llai megis methan ac ethan yn ffracsiynu ar dop y golofn.

Gweler Hefyd

golygu