Ethan
Cyfansoddyn cemegol a ddynodir â'r fformiwla gemegol C2H6 yw ethan. Dyma'r unig enghraifft o alcan dau-garbon, h.y. hydrocarbon aliphatig. Ar dymheredd a phwysau safonol, mae ethan yn nwy heb liw nac arogl.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | hydrocarbon aliffatig biogenig, Alcan |
Màs | 30.047 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂h₆ |
Yn cynnwys | carbon, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir rhywfaint o ethan yn awyrgylch y ddaear ac ar rai wrthrychau seryddol, fel ar wyneb y blaned gorrach Makemake. Yn achos awyrgylch y ddaear, mae'n cael ei greu fel adwaith i ymbelydredd yr haul ar y nwy methan. Ond mae presenoldeb ethan ar blanedau allanol fel Makemake, ar y lloeren Titan[1] ac mewn rhai comedau, wedi arwain rhai gwyddonwyr i ddadlau y bu ethan yn un o gynhwysiad gwreiddiol nifwl yr haul y credir y ffurfiwyd yr haul ei hun a'r planedau ohoni.
Yn y diwydiant olew, ynysir ethan o nwy naturiol ac mae'n sgil-gynnyrch puro petroliwm hefyd. Ei phrif ddefnydd yw fel stoc bwydo petrogemegol ar gyfer cynhyrchi ethylen.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bob Brown et al. (2008). "NASA Confirms Liquid Lake on Saturn Moon" Archifwyd 2011-06-05 yn y Peiriant Wayback Gwefan NASA.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Computational Chemistry Wiki: Ethan Archifwyd 2008-12-06 yn y Peiriant Wayback
- bluerhinos.co.uk Archifwyd 2008-12-06 yn y Peiriant Wayback Model 3D o Ethan
- (Saesneg) "Staggered and eclipsed ethane" Archifwyd 2009-02-04 yn y Peiriant Wayback