Divico

brenin Celtaidd

Pennaeth y llwyth Celtaidd y Tigurini, un o lwythau'r Helvetii, oedd Divico (ffurf Ladin ar enw Celteg) (fl. tua degawd olaf yr 2il ganrif CC i ddiwedd y 50au CC).

Divico
Divico yn annerch Iŵl Cesar. Darlun o'r 19eg ganrif, yr Almaen.
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dan ei arweiniad, llwyddodd y Tigurini i guro un o fyddinoedd Gweriniaeth Rhufain yn y flwyddyn 107 CC mewn brwydr ger Llyn Genefa (Llyn Léman). Gorfodwyd y goroeswyr i ddwyn ieuau fel arwydd o gywilydd a chythruddwyd y Rhufeiniaid. Yn 58 CC, aeth Divico i ddinas Rhufain fel arweinydd llysgenhadaeth yr Helvetii i drafod gyda Iŵl Cesar. Cofnododd Cesar hynny a'i hanes yn ei lyfr enwog De Bello Gallico a dyma sail ein gwybodaeth amdano.

Ysbrydolodd hanes Divico sawl artist o'r Swistir, tiriogaeth yr Helvetii, yn cynnwys Charles Gleyre (1806 - 1974). Cyfansoddodd y llenor Conrad Ferdinand Meyer y gerdd Das Ioch am Léman ar ôl gweld paentiad Gleyre.

Ffynhonnell golygu

  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell Press, argraffiad newydd, 2000).