Dodrefn Cymru

Dodrefn Cymru

Yn debyg i bensaernïaeth a dillad Cymru, traddodiad cyntefig a gwerinol ar y cyfan sydd gan Gymru o ran ei dodrefn.

Ystafell â chelfi, gan gynnwys dresel Gymreig, yn y 1910au.
Ystafell fwyta mewn tŷ yn Rhaeadr Gwy yn y 1910au.

Cistiau

golygu

Ffurf ar gist sydd yn unigryw i Gymru yw'r coffer bach neu gist Feibl Gymreig, a ddefnyddid i gadw'r Beibl teuluol a dogfennau pwysig.[1]

Cypyrddau

golygu

Yn yr 16g roedd y cwpwrdd deuddarn yn boblogaidd yng Nghymru. Cafwyd hefyd y cwpwrdd tridarn, a defnyddiwyd y rhain i gadw ac arddangos llestri arian a phiwter a chrochenwaith. Yn ddiweddarach cafodd drysau gwydr eu gosod ar gypyrddau.[1] Datblygodd y ddresel Gymreig yn ffurf benodol ar ddresel i arddangos llestri.

Byrddau

golygu

Yn hanesyddol, cedwid byrddau trestl yn y neuadd a'r bwthyn fel ei gilydd. Yn ddiweddarach daeth byrddau cadarn, gyda choesau parhaol ac estynyddion, yn gyffredin.[1]

Seddau

golygu

Am amser maith, eisteddai'r werin ar feinciau yn eu tai. Datblygodd cadeiriau o seddau bocs.[1] Gwneid cadeiriau cefn ffyn yng Nghymru ers y 13g.

Gwlâu

golygu

Bu crud pren y baban yn drysor teuluol ymhlith y werin Gymreig.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Mary Eirwen Jones, Welsh Crafts (Llundain: Batsford, 1978), tt. 68–69.