Pensaernïaeth Cymru
Mae Pesnaernïaeth Cymru yn amrywiol ac yn cynnwys ystod eang o adeiladau o steiliau a chyfnodau gwahanol.
Oes Efydd
golyguBeddrod Neolithig Cynnar (Oes Newydd y Cerrig) yw Bryn Celli Ddu. Darganfuwyd esgyrn dynol, pennau saethau a cherrig cerfiedig yno hefyd.[1]
Celtaid yr Oes Haearn
golyguRoedd cytiau crwn Oes yr Haearn yn cynnwys enghraifft Bryn Eryr yn nwyrain Ynys Môn, ger Llansadwrn. Dyma oedd y math o dŷ mwyaf cyffredin yn y cyfnod.[2]
Rhufeinig
golyguYr adeiladau Rhufeinig pwysicaf yng Nghymru yw tref Caerwent a'r gaer lleng yng Nghaerllion. Mae'r gaer yn cynnwys amffitheatr a baddondy.[3]
Mae enghraifft o sylfeini barics milwyr Rhufeinig yng Nghaerllion ac yn cynnwys poptai bara a thai bach. Mae'r safle ar agor i'r cyhoedd.[4]
Oesoedd Canol
golyguCestyll
golyguEnghraifft o gastell a adeiladwyd gan dywsog Cymreig yw Castell Dolbadarn, ger Llyn Padarn. Mae'n debygol mai Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) adeiladodd y castell tua diwedd y 12g neu dechrau'r 13g gan ddarparu gwarchodfa defnyddiol ar lwybrau Caernarfon-Ddyffryn Conwy.[5]
Tai tŵr
golyguAdeiladwyd tai tŵr rhwng dechrau'r 14eg ganrif a'r 15fed ganrif.[6] Mae'r rhan fwyaf o'r rhain i'w cael yn Sir Benfro, yn enwedig ger yr arfordir, fel y Tŵr Peles yn Angle. Mae llawer hefyd ar ffiniau Cymru a Lloegr.
Eglwysi
golyguYn ôl y traddodiad, sefydlwyd Eglwys Sant Rhychwyn yn y 6g gan Rhychwyn, mab i Helig ap Glannog (tywysog Cymreig), a reolodd dir hyd at Ynys Seiriol. Er hyn, mae'r Eglwys sydd wedi goroesi hyd heddiw yn cynnwys rhannau dim hynach na'r 12g. Adnabyddir yr eglwys fel Eglwys Llywelyn ar ôl Llywelyn Fawr a breswyliodd dros lys yn Nhrefriw.[7]
Oes fordern cynnar
golyguFfermdai
golyguAdeiladwyd Yr Ysgwrn yn 1830 ac mae'n nodweddiadol o ffermdai'r 19g. Mae ganddi waliau cerrig trwchus ac yn cynnwys tair ystafell wely, cegin, parlwr, bwtri, stabl, certws a llofft wair. Symudodd teulu Hedd Wyn i mewn i’r Ysgwrn yn ystod gwanwyn 1887 o Drawsfynydd.[8]
Oes fodern
golyguCafodd adeilad Senedd Cymru ei ddylunio gan Richard Rogers ac Ivan Harbour ac agorwyd yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2006. Cydnabuwyd fel adeilad nodedig.
Mae waliau gwydr y Senedd i gynrychioli natur dryloyw y gwaith tu fewn iddo. Defnyddir llechi Gymreig ar gyfer y grisiau a dylwuniwyd y Senedd fel ei fod yn para 100 mlynedd.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu | Cadw". cadw.llyw.cymru. Cyrchwyd 2023-10-20.
- ↑ "Tai Crwn Bryn Eryr o Oes yr Haearn". Museum Wales. Cyrchwyd 2023-10-20.
- ↑ Hockey, Primrose (1981). Caerleon Past and Present (yn Saesneg). Rhisga: Starling Press. ISBN 0-903434-43-1.
- ↑ "Cymraeg – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2023-10-20.
- ↑ "Castell Dolbadarn | Cadw". cadw.llyw.cymru. Cyrchwyd 2023-10-20.
- ↑ Smith P. Houses of the Welsh Countryside, 2nd Edition, 1988, HMSO/ RCAHMW Map1, 338–9.
- ↑ "Eglwys Llanrhychwyn". www.treftadaetheryri.info. Cyrchwyd 2023-10-20.
- ↑ "Ffermdy'r Ysgwrn". Yr Ysgwrn. Cyrchwyd 2023-10-20.
- ↑ "Adeilad Nodedig". senedd.cymru. Cyrchwyd 2023-10-20.