Dolores Huerta
Arweinydd llafur Americanaidd a gweithredwraig hawliau sifil yw Dolores Clara Fernández Huerta (ganwyd yn Dawson, Mecsico Newydd, 10 Ebrill 1930). Dolores Huerta a Cesar Chavez oedd cyd-sylfaenwyr y National Farmworkers Association, a ddaeth yn yr United Farm Workers (UFW) yn ddiweddarach. Bu Huerta'n cynorthwyo i drefnu streic grawnwin Delano yng Nghaliffornia yn 1965 ac yn arwain y trafodaethau ynghylch y cytundeb gweithwyr a grewyd yn dilyn y streic.[1]
Dolores Huerta | |
---|---|
Ganwyd | Fernán 10 Ebrill 1930 Dawson |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | undebwr llafur, ymgyrchydd |
Gwobr/au | Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, Eleanor Roosevelt Award for Human Rights, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Hall o Honor y Blaid Lafur, Neuadd Enwogion California, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Dyngarwr y Flwyddyn, Ohtli Award, Radcliffe Medal, Eugene V. Debs Award |
Mae Huerta wedi derbyn nifer o anrhydeddau am ei gwaith cymunedol a'i heiriolaeth dros hawliau gweithwyr a menywod, gan gynnwys anrhydedd 'Outstanding American' Ymddiriedolaeth Eugene V. Debs, Anrhydedd Eleanor Roosevelt am Hawliau Sifil[2] a Medal Rhyddid yr Arlywydd.[3] Yn 1993, daeth yn yLatina gyntaf i'w chynnwys yn y National Women's Hall of Fame.[4][5]
Huerta wnaeth gyflwyno'r ymadrodd "Sí, se puede".[6] Fel model rôl i nifer yn y gymuned Latino, mae Huerta yn destun nifer o corridos (baledi) a murluniau.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dolores Huerta". National Women's History Museum. Cyrchwyd 31 May 2017.
- ↑ "Biography: Dolores Clara Fernandez Huerta". National Women's History Museum. Cyrchwyd July 11, 2018.
- ↑ "Remarks by the President at Presidential Medal of Freedom Ceremony". Obama White House Archives. May 29, 2012. Cyrchwyd 31 May 2017.
- ↑ "Meet the 20 MAKERS Inducted Into the National Women's Hall of Fame". Makers. October 5, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-26. Cyrchwyd 31 May 2017.
- ↑ "Dolores Huerta". The Adelante Movement. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-20. Cyrchwyd 31 May 2017.
- ↑ "Sí Se Puede". Makers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-25. Cyrchwyd 31 May 2017.
- ↑ "Dolores Huerta". Gale Group. Cyrchwyd 31 May 2017.