Hawliau sifil a gwleidyddol
Categori o hawliau sy'n amddiffyn rhyddid unigolion rhag ymyrraeth gan lywodraethau a mudiadau preifat ydi hawliau sifil a gwleidyddol. Maent yn sicrhau bod unigolyn yn medru cymryd rhan mewn bywyd gwladol a gwleidyddol heb ragfarn neu orthrwm.
Math | hawliau, hawliau dynol |
---|---|
Yn cynnwys | civil rights, political rights |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Ymgyrch Diarfogi Niwclear | |
CBAC | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Mae hawliau sifil yn cynnwys amddiffyn cyfanrwydd a diogelwch corfforol pobl; amddiffyn rhag camwahaniaethu ar seiliau fel anabledd corfforol neu feddyliol, rhyw, crefydd, hil, ethnigrwydd, oed, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth ryweddol; hawliau'r unigolyn fel rhyddid meddwl a chydwybod, rhyddid i siarad, rhyddid y wasg a rhyddid i symud.
Wrth edrych ar enghreifftiau mewn hanes mae pobl ar draws y canrifoedd wedi gorfod brwydro, ymladd ac amddiffyn eu hawliau sifil a gwleidyddol er mwyn ceisio sicrhau cyfiawnder, lleisio eu barn neu unioni cam. Mae hawliau sifil a gwleidyddol pobl wedi bod yn bwysig mewn hanes oherwydd maent yn sicrhau bod gan unigolion ryddid barn sy’n rhydd oddi wrth ddylanwad sefydliadau neu unigolion neu ymyrraeth oddi wrth y Llywodraeth. Gall pobl wedyn leisio eu barn a chymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol a gwladol heb ofni gorthrwm.
Wedi eu hysbrydoli gan y Chwyldro Ffrengig a’r Rhyfel Annibyniaeth yn America aeth grŵp o bobl, sef y Radicaliaid, ati i gyflwyno mwy o ddemocratiaeth i'r ffordd roedd y wlad a’i phobl yn cael eu rheoli. Credent os byddai Prydain yn troi’n wlad fwy democrataidd yna byddai safon byw y dosbarth gweithiol yn gwella. Roedd rhyddid yr unigolyn yn hollbwysig iddynt a chredent ei bod hi’n bwysig bod yr unigolion hynny yn cael llais yn y ffordd roedd y wlad yn cael ei llywodraethu.
Gyda’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth a thros ddiddymu caethwasiaeth, roedd pobl ddu yn brwydro yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn eu hil ac i sicrhau hawliau cydradd gyda’r dyn gwyn. Yn y 18g roedd William Wilberforce yn allweddol yn y frwydr hon, a draw yn ne Affrica’r 20g roedd Nelson Mandela wedi dod i’r amlwg fel arweinydd y frwydr yn erbyn apartheid.
Bu’r dosbarth gweithiol yn y Gymru ddiwydiannol yn y 19eg ganrif yn protestio er mwyn ennill yr hawl wleidyddol sylfaenol i gael y bleidlais, gyda gweithwyr haearn Merthyr yn terfysgu yn 1831 a’r Siartwyr yn trefnu gorymdeithiau yng Nghasnewydd a Llanidloes. Erbyn yr 20g roedd y Swffragetiaid wedi camu ymlaen i ymgyrchu dros hawliau gwleidyddol merched, ac yn ddiweddarach yn yr 20g roedd grwpiau a mudiadau ymgyrchu fel CND yn ymgyrchu dros heddychiaeth. Roedd Cymdeithas yr Iaith, a ddaeth i fodolaeth yn 1962, yn protestio er mwyn ennill mwy o statws i’r iaith Gymraeg fel bod ei siaradwyr yn cael ymarfer eu hawliau sifil i fedru defnyddio eu mamiaith yn eu bywyd a'u gwaith bob dydd yng Nghymru.
Hawliau gwleidyddol ym Mhrydain
golyguRoedd galw mawr am welliannau mewn hawliau gwleidyddol ym Mhrydain yn y cyfnod hwn. Cyn 1832 roedd y system yn hollol annheg gyda chanran isel iawn o'r boblogaeth yn gallu pleidleisio dros aelodau seneddol mewn system lygredig a hen ffasiwn lle nad oedd gan weithwyr na menywod lais. Roedd y chwyldro diwydiannol wedi creu newidiadau mawr yn y gymdeithas, gyda dosbarth canol newydd yn dod i'r golwg. Roedd gweithwyr a chymunedau yn trefnu ymysg ei gilydd ac yn rhannu syniadau newydd drwy lenyddiaeth radicalaidd a cenedlaetholgar. Ar ben hynny roedd y Chwyldro Ffrengig wedi dangos bod newidiadau mawr yn bosibl a bod gan y gymdeithas lais cryf drwy gydweithio yn erbyn y sefydliad.
Effaith y Chwyldro Diwydiannol
golyguYsgogodd y Chwyldro Ffrengig, a ddechreuodd yn 1789, ddadl eang a dwys am y system wleidyddol ym Mhrydain ar y pryd. Yn sgil y chwyldro ysbrydolwyd llu o lenyddiaeth ar draws Ewrop ac ym Mhrydain oedd yn cwestiynu, yn herio ac yn achosi pobl i ailfeddwl am y ffordd roedd llywodraethau a brenhinoedd yn rheoli eu gwlad a’u pobl. Ar yr adeg hon hefyd roedd y Chwyldro Diwydiannol ar ei anterth ym Mhrydain ac roedd ei effaith yn achosi newidiadau pellgyrhaeddol yn ffordd o fyw ac amodau gwaith bobl.
Profodd Prydain newidiadau economaidd a chymdeithasol pellgyrhaeddol o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol o ganol y 18g hyd at ddechrau’r 20g. Gyda thwf aruthrol yn y boblogaeth yn y
mannau diwydiannol newydd sylweddolwyd yn fuan nad oedd gan yr ardaloedd hyn gynrychiolaeth wleidyddol yn y Senedd. Wrth i’r dosbarth gweithiol newydd a niferus wynebu heriau amodau byw bob dydd a’r amodau gwaith anodd daeth galwad cynyddol a chryfach o’u plith am lais yn y system wleidyddol. Roedd diwydiant wedi newid Prydain, gan greu dosbarth gweithiol diwydiannol yn y trefi a’r dinasoedd nad oeddent bellach yn fodlon derbyn y sefyllfa fel ag yr oedd wedi bodoli ers canrifoedd. Roedd y system wleidyddol bresennol yn cynrychioli'r Brydain gyn-ddiwydiannol. Roedd y boblogaeth yn yr ardaloedd gwledig wedi crebachu, ond roedd dylanwad yr ardaloedd hynny'n enfawr, ac ar y cyfan nid oedd yr ardaloedd diwydiannol newydd yn cael eu cynrychioli.
Nodwyd nifer o wendidau yn y system wleidyddol ym Mhrydain;
- Dim ond ychydig iawn o bobl oedd â’r hawl i bleidleisio a dim ond dynion a oedd yn berchen ar eiddo oedd yn medru pleidleisio. Nid oedd gan drwch y boblogaeth fawr ddim llais yn y broses o ddewis Aelodau Seneddol oherwydd hyn.
- Roedd dosbarthiad yr Aelodau Seneddol yn annheg – er enghraifft, roedd Manceinion yn bentref yn 1750 ac felly nid oedd ganddi Aelod Seneddol,ond erbyn 1830 roedd 182,000 o drigolion yn byw yno oherwydd effaith y Chwyldro Diwydiannol. Er hynny, nid oedd Aelod Seneddol yn ei chynrychioli. Ar y llaw arall roedd gan lawer o drefi ac ardaloedd gwledig, oedd wedi crebachu wrth i bobl symud i’r trefi diwydiannol newydd, eu Haelod Seneddol eu hunain. Roedd y rhain yn cael galw’n ‘fwrdeistrefi pwdr’. Yn 1830 roedd Old Sarum yn Wiltshire yn enghraifft o’r math hwn o fwrdeistref. Pan oedd etholiad byddai saith o bleidleiswyr yn cyfarfod yno i ddewis 2 Aelod Seneddol.
- Roedd ‘bwrdeistrefi pwdr’ yn aml yn etholaethau lle'r oedd llygredd a llwgrwobrwyo yn rhemp. Roedd y rhan fwyaf o’r pleidleiswyr yn gweithio i dirfeddiannwr lleol a/neu’n rhentu tir oddi wrtho. Roeddent yn pleidleisio dros yr unigolyn yr oedd y tirfeddiannwr yn dweud wrthyn nhw am bleidleisio drosto. Term arall am yr etholaethau hyn oedd bwrdeistrefi poced, am eu bod ym mhoced y tirfeddiannwr lleol.
- Roedd etholiadau adeg hynny’n cael eu cynnal yn gyhoeddus ac roedd yn rhaid i bob pleidleisiwr gyhoeddi dros bwy roedd yn bwrw pleidlais. Roedd bygythiadau, tenantiaid yn cael eu taflu oddi ar eu tir, a hyd yn oed llofruddiaeth yn gyffredin pe na bai rhywun yn pleidleisio dros yr ymgeisydd ‘cywir’.
- Doedd Aelodau Seneddol ddim yn cael cyflog – felly roedd y mwyafrif o’r boblogaeth yn methu fforddio cael eu hethol i fod yn Aelod Seneddol.[1][2]
Dosbarth canol newydd
golyguNid oedd y dosbarth canol cyfoethog newydd o fasnachwyr, pobl busnes a gweithgynhyrchwyr ychwaith yn cael eu cynrychioli yn y system wleidyddol.
Drwy gydol ail hanner y 18g, fe ddatblygodd barn gyhoeddus, yn enwedig ymhlith y dosbarth canol trefol, nad oedd yn barod i dderbyn aristocratiaid yn rheoli Prydain. Roedd y dosbarth canol trefol hwn yn dibynnu ar fasnach am eu llwyddiant, ac roeddent yn blino ar bolisïau’r aristocratiaid oedd yn ffafrio amaethyddiaeth.
Roedd syniadau gwleidyddol, radical yn cael eu lledaenu a’u trafod ymhlith y dosbarth canol trefol, a sefydlwyd nifer o glybiau a grwpiau trafod gwleidyddol. Yr enwocaf o’r rhain oedd y Society for Constitutional Information, a sefydlwyd yn Llundain ym 1780. Dechreuodd y Gymdeithas honno alw am ddiwygio'r senedd.[2]
Diwygwyr
golyguBu’r Chwyldro Ffrengig yn ysbrydoliaeth i radicaliaid am ei fod yn pwysleisio syniadau a oedd yn sylfaenol i wlad ddemocrataidd – un ohonynt oedd galw am ddiwygio’r Senedd a hawl i bleidleisio. Roedd y chwyldro yn ddylanwad cryf ar feddylfryd y radicaliaid a’r ffordd roedden nhw’n meddwl am rôl a chyfraniad y llywodraeth ym mywyd pobl.
Roedd llawer o bobl o’r farn mai’r system seneddol oedd wrth wraidd dioddefaint y mwyafrif o’r boblogaeth. Roedd y galw am ddiwygio’r senedd yn ganolog i beth oedd y radicaliaid yn gofyn amdano. Credent fod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu trin yn annheg o ran cyflogau ac amodau byw am nad oedd ganddynt lais gwleidyddol. Un radical amlwg yn y cyfnod oedd yr Uwchgapten John Cartwright, a oedd yn ymgyrchu dros:
- Y bleidlais i bawb (sef pleidlais i bob dyn)
- Seneddau blynyddol
- Pleidlais gudd
Nid oedd y radicaliaid yn un grŵp penodol, ond roedd yr holl grwpiau radicalaidd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredin hyn.
Dau Radical enwog arall oedd Henry (Orator) Hunt a William Cobbett. Roedd Hunt, fel y mae ei lysenw yn ei awgrymu, yn siaradwr cyhoeddus gwych a oedd yn annerch torfeydd o ddegau ar filoedd o bobl yn rheolaidd, gan fynnu diwygiadau radicalaidd. Roedd Cobbett yn hynod ddylanwadol fel newyddiadurwr. Cafodd ei gyfnodolyn wythnosol, y ‘Political Register’, effaith enfawr – roedd 200,000 o gopïau o’r rhifyn cyntaf wedi eu gwerthu erbyn diwedd 1817. Rhoddodd Cobbett fai ar y gyfundrefn wleidyddol am y tlodi a’r tor-cyfraith a oedd yn bodoli yn y gymdeithas. Defnyddiai’r cartwnydd Radicalaidd George Cruikshank ei gartwnau i feirniadu annhegwch ac elfennau gwael y system seneddol.[1]
Llenyddiaeth radicalaidd
golyguRoedd y wasg argraffu yn ffordd allweddol o rannu syniadau newydd, rhoi sylw i ymgyrchoedd ac annog eraill i ymgyrchu dros newid.
Yn ei lyfr a gyhoeddwyd 1791-92 dywed Thomas Paine bod grym y Llywodraeth yn dod o ddwylo’r bobl. Credai felly fod gan bawb yr hawl i fod â llais yn y ffordd roedd y wlad yn cael ei llywodraethu. Ond nid oedd gan bawb yr hawl i bleidleisio i ddefnyddio’r grym hwnnw. Roedd Paine yn cael ei weld fel radical gan y Llywodraeth oherwydd ei fod yn herio pŵer yr aristocratiaid oedd yn rheoli. Ond roedd syniadau Paine yn bwysig i gychwyn y drafodaeth gyhoeddus am hawliau unigolion yn y gymdeithas. Bu ymateb ffyrnig iddo gan y Llywodraeth, a oedd yn gweld y fath syniadau yn rhai peryglus o safbwynt cyfraith a threfn. Roedd Tom Paine hefyd yn ffrindiau gyda Benjamin Franklin, a oedd, ynghyd â Thomas Jefferson a John Adams, wedi llunio'r Datganiad Annibyniaeth enwog yn America. Cyhoeddwyd y Datganiad hwn gan y tri ar 4 Gorffennaf 1776 lle'r oeddent yn rhestru eu cwynion yn erbyn Siôr III. Cymro a oedd yn gefnogwr brwd i syniadau’r Chwyldro Ffrengig oedd Richard Price o Langeinwyr, Sir Forgannwg. Roedd yn Weinidog Anghydffurfiol, yn athronydd ac yn gyfrifydd yswiriant. Roedd ei bregeth, A Discourse on the Love of our Country, yn dangos ei frwdfrydedd dros egwyddorion y chwyldro. Pan fu farw yn 1791 cynhaliwyd cyfnod o alaru swyddogol iddo ym Mharis, yn arwydd clir o’r parch iddo yn y wlad honno. Roedd John Jones, neu Jac Glan-y-gors, a oedd hefyd yn berchen ar dafarn, yn perthyn i’r un cyfnod â Richard Price. Yn ei bamffled enwog Seren tan gwmmwl, cyfieithiad o waith Thomas Paine, mae’n trafod syniadau Thomas Paine drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cyflwyno ei syniadau ef/Paine i gynulleidfa newydd. Roedd yn credu yn yr un syniadau â Paine ynghylch rhyfel, y frenhiniaeth, yr Eglwys Sefydledig a hawliau dynol. Mae’n trafod ei farn am y rhain i gyd yn Seren tan gwmmwl. Roedd Jac Glan-y-gors yn aelod blaenllaw o gymdeithas Cymry Llundain ar ddiwedd y 18g, a chydsefydlodd Cymdeithas y Cymreigyddion.[3][4]
Perthynai David Williams, y pamffledwr gwleidyddol o Waunwaelod ger Caerffili, i’r un cyfnod. Daeth David Williams yn enwog yn Ffrainc wedi i’w gyhoeddiad ‘Letters on Political Liberty’ gael ei gyfieithu i’r Ffrangeg. Cafodd y gwaith ymateb rhagorol gan arweinwyr y Chwyldro a rhoddwyd dinasyddiaeth Ffrengig i Williams.[3]
Roedd radicaliaid fel Richard Price a David Williams wedi eu hysbrydoli gan egwyddorion democrataidd Rhyfel Annibyniaeth America yn 1776 hefyd. Radical a berthynai i’r un cyfnod oedd Morgan John Rhys (1760 – 1804), a anwyd yn Llanbradach yn Sir Forgannwg, ac a oedd yn Weinidog gyda'r Bedyddwyr. Defnyddiodd ei gyfnodolyn Cymraeg, ‘Y Cylch-grawn Cynmraeg’ (1793-94) i drafod o blaid rhyddid yr unigolyn a chydwybod, rhyddid gwleidyddol ac i ddadlau yn erbyn y fasnach gaethweision. Roedd ei gylchgrawn yn bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg fel y cyfnodolyn gwleidyddol cyntaf a gyhoeddwyd yn Gymraeg.[5][6][7]
Cymdeithasau Gohebu
golyguCafodd llawer eu hysbrydoli gan syniadau a digwyddiadau’r Chwyldro Ffrengig a beth oedd yn cael ei ysgrifennu gan radicaliaid fel Thomas Paine a Richard Price. Dechreuodd y Radicaliaid ffurfio Cymdeithasau Gohebu mewn rhai o’r trefi mawr i drafod y syniadau hyn. Dechreuodd llawer o’r grwpiau hyn yng nghyfnod y Chwyldro Ffrengig. Ar ddiwedd 1791 sefydlwyd y Gymdeithas Ohebu gyntaf yn Sheffield, ac erbyn 1792 roedd ganddi fwy na 2,000 o aelodau. Yn Ionawr 1792 sefydlwyd Cymdeithas Ohebu Llundain gan grydd o’r enw Thomas Hardy. Roedd aelodaeth yn agored i unrhyw un a fedrai dalu ceiniog ym mhob cyfarfod wythnosol. Daeth rhaglen y Gymdeithas yn sail i beth fyddai’r Radicaliaid yn gofyn amdano. Roedd pawb a oedd yn aelod yn cefnogi aildrefnu’r bwrdeistrefi a chael gwared ar y ‘bwrdeistrefi pwdr’, senedd flynyddol a hawl i bleidleisio i bob dyn.
Erbyn 1794, roedd y Llywodraeth yn ofni y byddai chwyldro ym Mhrydain ac arweiniodd hyn at arestio rhai o arweinwyr cymdeithas Llundain, gan gynnwys Hardy, a chafodd pob un ei gyhuddo o frad. Rhyddhawyd y dynion am fod yr honiadau yn gwbl ddi-sail. Yn 1795 pasiodd y Llywodraeth Ddeddf Brad a’r Ddeddf Cyfarfodydd Bradwrus, ac fe wnaeth hyn hi’n fwyfwy anodd i Gymdeithasau Gohebu drefnu cyfarfodydd mawr. Yn 1799 pasiwyd deddf a oedd yn gwahardd Cymdeithas Ohebu Llundain.[1]
Ymateb y bobl
golyguRoedd dechrau’r 19eg ganrif yn gyfnod a welodd y Rhyfeloedd Napoleanaidd rhwng 1803 a 1815, a datblygiadau cyson yn parhau ym myd amaethyddiaeth a diwydiannau eraill gyda’r Chwyldro Amaethyddol a’r Chwyldro Diwydiannol. Achosodd y rhyfel ddyled genedlaethol a arweiniodd at gynyddu trethi, gan achosi mwy o galedi i’r tlodion gan fod prisiau nwyddau bob dydd fel bwyd yn mynd yn ddrutach. Roedd mecaneiddio mewn amaethyddiaeth a’r diwydiant tecstilau wedi arwain at lafurwyr yn colli eu gwaith. Rhyddhawyd 300,000 o ddynion o’r fyddin neu’r llynges ar ôl diwedd y Rhyfeloedd Napoleanaidd, ac achosodd hyn lawer o ddiweithdra. Dioddefodd y diwydiannau a oedd wedi elwa ar y rhyfel hefyd, fel gwneuthurwyr tecstilau a oedd yn cynhyrchu iwnifformau, a’r diwydiant haearn a oedd wedi bod yn hollbwysig wrth gynhyrchu arfau. Gwaethygwyd y sefyllfa yn enbyd oherwydd hynny.
Cynyddodd caledi bywyd y dosbarth gweithiol yn sgil pasio'r Deddfau Ŷd yn 1815. O dan y gyfraith hon, cafodd ŷd o dramor ei wahardd er mwyn cadw prisiau ŷd Prydain yn uchel. Er bod hyn yn gwarchod incwm tirfeddianwyr, roedd prisiau bwyd, yn enwedig bara, yn cynyddu ac yn cosbi’r dosbarth gweithiol fwyaf.
Gwelai bobl tu allan i’r Senedd bod hyn yn annheg ac anghyfiawn ac yn faich ychwanegol arall ar y tlodion tra bod y tirfeddianwyr cyfoethog yn elwa. Trefnwyd deisebau a chafwyd terfysgoedd bwyd yn 1816 ac 1818. Roedd y cynnydd mewn prisiau bwyd a achoswyd gan y Deddfau Ŷd wedi ychwanegu at galedi bywyd y dosbarth gweithiol ledled y wlad, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Roedd amgylchiadau bywyd a gwaith wedi uno’r dosbarth gweithiol i sylweddoli bod yn rhaid dangos eu hanfodlonrwydd. Roedd yn rhaid diwygio’r Senedd hefyd i ddatrys eu problemau a’u cwynion.[1]
Yn wyneb y problemau amrywiol a wynebai’r dosbarth gweithiol a’r ffaith nad oedd ganddynt bleidlais i ddangos eu bod yn anfodlon gyda’r sefyllfa, daeth protest yn ddull o fynegi eu pryderon. Achosodd y Chwyldro Diwydiannol newidiadau mawr yn eu harferion gwaith. Rhwng 1811 a 1812 bu llafurwyr tecstilau mewn ardaloedd gwledig yn Lloegr yn protestio drwy ymosod a thorri fframiau gwehyddu oherwydd dyfodiad mecaneiddio i'w gwaith. Yn sgil cyflwyno peiriannau i’r diwydiant brethyn, roedd y gwaith cribo, nyddu a gwehyddu a oedd wedi arfer cael ei wneud gan y teulu yn y cartref yn cael ei wneud gan y peiriannau newydd yn y ffatrïoedd yn awr. Dyma oedd byrdwn protestiadau'r Ludiaid. Yn nes ymlaen rhwng 1830 a 1832 bu Terfysgwyr Swing, sef gweithwyr amaethyddol, yn targedu peiriannau dyrnu, yn llosgi teisi gwair ac yn anfon llythyrau bygythiol oherwydd bod y peiriannau newydd yn achosi iddynt golli eu gwaith a’u ffordd o fyw. Roedd eu gweithgareddau yn ymestyn o Gaint i Gernyw, o Hampshire i swydd Lincoln, gyda rhai ymosodiadau ymhellach i’r gogledd.
Bu cyfres o derfysgoedd eraill ar ddechrau’r 19eg ganrif - er enghraifft, Terfysgoedd Spa Fields yn 1816, Gorymdaith y Blancedwyr yn 1817 a gychwynnodd yng Nghaeau San Pedr, Manceinion, Cyflafan Peterloo yn 1819 a Chynllwyn Cato Street yn 1820, a therfysgoedd ym Mryste yn 1831. Roedd y protestiadau hyn yn dangos bod y newidiadau i arferion gwaith a ffordd o fyw pobl, yr angen am well amodau byw, costau byw a bwyd uchel, dirwasgiad economaidd, a’r galw wedyn am ddiwygio’r Senedd, wedi peri i’r dosbarth gweithiol ddangos eu hanfodlonrwydd.[1]
Ymateb y Llywodraeth
golyguBu'r Chwyldro Ffrengig yn ddylanwad pwysig ar y ffordd roedd pobl ar draws Ewrop yn meddwl y dylai breniniaethau a llywodraethau eu rheoli. Credai’r llywodraethau a'r breniniaethau y gallai chwyldro tebyg i’r un yn Ffrainc ddigwydd yn eu gwledydd hwythau. Mewn ymateb i hynny, roedd y dosbarthiadau llywodraethol ym Mhrydain wedi cymryd camau i geisio rhwystro syniadau chwyldroadol rhag lledaenu fel y digwyddodd yn Ffrainc. Yn ystod degawd cyntaf y 19g roedd aflonyddwch ar gynnydd, a phan ddaeth y Rhyfeloedd Napoleanaidd i ben yn 1815 arweiniodd hynny at fwy o weithgarwch radicalaidd.
Roedd ymateb y Llywodraeth yn ffyrnig. Yn 1819 pasiodd y llywodraeth gyfres o ddeddfau ar frys mewn ymateb i gyfarfod Caeau San Pedr ym Manceinion. Dyma oedd y Chwe Deddf neu'r ‘Deddfau Gagio’. Bwriad y mesurau oedd rhoi diwedd ar gyfarfodydd a phapurau newydd Radicalaidd a lleihau’r posibilrwydd o wrthryfel. Y deddfau a basiwyd oedd:
- Rhoddwyd yr hawl i ynadon chwilio am arfau mewn tai, heb warant.
- Rhoddwyd yr hawl i ynadon chwilio am lenyddiaeth fradwrus mewn tai - er enghraifft, oedd yn beirniadu’r Llywodraeth neu’n ceisio perswadio pobl i gynllwynio yn erbyn y Llywodraeth
- Ni chaniatawyd driliau na hyfforddiant milwrol. Y gosb oedd cael eich arestio a chael eich trawsgludo i wlad bell am saith mlynedd.
- Gwaharddwyd cyfarfodydd mawr torfol fel y rhai a welwyd yn Peterloo.
- Gallai ynadon gynnal achos llys yn erbyn unigolion heb orfod aros am lysoedd gyda rheithgorau. Yn aml ni fyddai rheithgor yn barod i ddyfarnu rhywun yn euog ar dystiolaeth ysbiwyr.
- Cynyddwyd y dreth stamp ar bapurau newydd. Roedd nifer o’r rhain yn bapurau radicalaidd. Y bwriad oedd gwneud y papurau hyn yn rhy ddrud i’w prynu, fel nad oedd syniadau radicalaidd yn lledu mor gyflym.
Er nad oeddent mor llym â rhai deddfau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill roeddent yn ffordd o gyfyngu ar weithgareddau'r radicaliaid.
Prawf arall o bryder y Llywodraeth ynghylch y protestiadau peryglus hyn oedd atal y Ddeddf Habeas Corpus yn 1817. Golygai hyn bod y Llywodraeth yn medru arestio neu gadw unrhyw un yn y carchar a dod â nhw gerbron y llys ar amheuaeth o drosedd yn unig. Nid oedd angen cyflwyno tystiolaeth na dod â chyhuddiad yn erbyn unigolyn i ddod â nhw gerbron y llys.[1][2]
Ffurfio undebau gwleidyddol
golyguYn ystod y 1820au gwellodd economi Prydain wrth i bobl ddod o hyd i waith a byw o dan amgylchiadau ychydig yn well. O ganlyniad fe wnaeth dylanwad radicaliaeth wanhau. Cafodd rhai o fesurau'r Chwe Deddf eu diddymu’n raddol a dechreuodd y Llywodraeth roi sylw i faterion pwysicach eraill.
Ond erbyn dechrau’r 1830au roedd y wlad unwaith eto yng nghanol protestiadau eang. Bu twf yn nifer y diwydianwyr yn yr ardaloedd gweithgynhyrchu, ac nid oeddent yn cael eu cynrychioli yn y Senedd. Arweiniodd hyn at fwy o bwysau dros ddiwygio’r Senedd.
Ffurfiwyd mwy o undebau gwleidyddol. Yn 1828 sefydlwyd Undeb Gwleidyddol Birmingham gan Thomas Attwood gyda’r bwriad o drefnu cyfarfodydd cyhoeddus a deisebu’r Senedd. Roedd 25,000 o bobl wedi ymuno â’r undeb hwn erbyn 1832 ac arweiniodd hyn at sefydlu rhagor o undebau mewn trefi a dinasoedd ar hyd a lled y wlad. Roedd y dosbarth canol diwydiannol newydd yn gefnogol iawn i’r undebau hyn.
Ymestyn y bleidlais - Deddf Diwygio 1832
golyguPlygodd y Llywodraeth i bwysau protestiadau poblogaidd, ac ar 7 Mehefin 1832 pasiwyd Deddf Diwygio 1832, a oedd yn rhoi’r bleidlais i ddynion dosbarth canol. Rhoddwyd y bleidlais i bob dyn mewn trefi oedd yn berchen ar eiddo gwerth £10 neu fwy y flwyddyn. Golygai hyn fwy neu lai bod dynion dosbarth canol yn y trefi yn cael y bleidlais. Cyn y Ddeddf roedd tua 1 o bob 10 dyn yng Nghymru a Lloegr yn gallu pleidleisio ond ar ôl y Ddeddf roedd gan tua 1 o bob 5 y bleidlais. Cafodd llawer o fwrdeistrefi pwdr eu diddymu a chafodd seddi eu hailddosbarthu, gyda chynrychiolaeth i'r ardaloedd diwydiannol o'r diwedd.
Ond nid oedd dynion dosbarth gweithiol yn cael pleidleisio ac nid oedd rhai dynion dosbarth canol yn gallu pleidleisio chwaith gan nad oedden nhw'n berchen eiddo gwerth £10. Yn eu siom trodd llawer at fudiad y Siartwyr.[1]
Ymestyn y Bleidlais ar ôl 1832
golyguGyda’r mwyafrif o’r dosbarth canol wedi ennill y bleidlais yn 1832 parhaodd yr ymgyrchu dros sicrhau'r bleidlais i’r dosbarth gweithiol. Enillodd dynion dosbarth gweithiol yn y trefi y bleidlais gyda phasio Deddf Diwygio 1867 ac yna yn 1884 enillodd dynion dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd gwledig y bleidlais. Nid oedd menywod, serch hynny, yn meddu ar yr hawl i bleidleisio. Yn 1872 pasiwyd y Bleidlais Gudd a olygai nad oedd yn rhaid bellach ddangos yn gyhoeddus dros bwy oeddech chi’n pleidleisio.
Menywod yn cael y bleidlais
golyguErs y 1860au roedd y Swffragistiaid (oedd yn credu mewn dulliau heddychlon) wedi bod yn ymgyrchu dros roi’r bleidlais i fenywod ar sail y ffaith y dylai menywod a oedd yn berchen ar eiddo gael yr un hawliau pleidleisio â dynion a oedd yn berchen ar eiddo. Ni chredent fod hawl awtomatig gan bob menyw i gael y bleidlais. Un o fudiadau'r Swffragistiaid oedd NUWSS, a sefydlwyd yn 1897. Arweiniwyd y mudiad gan Millicent Garrett Fawcett, a byddent yn aml yn anfon deisebau neu’n areithio er mwyn dwyn perswâd ar y Llywodraeth i roi’r bleidlais i ferched.
Erbyn 1900 roedd y Swffragetiaid neu’r WSPU (Women’s Social and Political Union) wedi camu ymlaen i’r llwyfan - mudiad a oedd yn llawer mwy milwrol a heriol yn ei ffordd o brotestio. Arweiniwyd y mudiad gan Emmeline Pankhurst a’i merched, Christabel a Sylvia, ac ymhlith eu tactegau er mwyn tynnu sylw i’w hachos roedd mynd ar ympryd bwyd, ymosod ar adeiladau, rhoi blychau post ar dân, chwalu ffenestri 10 Stryd Downing, a tharfu ar wleidyddion mewn cyfarfodydd. Ym Mehefin 1913 lluchiodd Emily Davison ei hun o flaen ceffyl y Brenin yn y Derby yn Epsom gan ddod yn ferthyr dros achos y Swffragetiaid.
Er bod eu dulliau treisgar a’r fandaliaeth roedden nhw wedi achosi wedi ennyn llawer o feirniadaeth i’r Swffragetiaid ac achos merched i ennill y bleidlais, fe wnaethant roi'r gorau i'w protestiadau adeg y rhyfel er mwyn cyfrannu at yr ymdrech ar y Ffrynt Cartref.
Oherwydd eu cyfraniad at y Rhyfel Byd Cyntaf ac ar y Ffrynt Gartref ym Mhrydain, penderfynodd y Llywodraeth basio Deddf Cynrychiolaeth y bobl yn 1918. Roedd hon yn ddeddf a oedd yn rhoi’r bleidlais i bob menyw dros 30 oed ar yr amod eu bod yn etholwyr mewn llywodraeth leol, neu'n wragedd i etholwyr mewn llywodraeth leol. Rhoddwyd y bleidlais i bob dyn dros 21 oed yn sgil y ddeddf hon hefyd.
Yn 1928 pasiwyd deddf arall a oedd yn gostwng yr oedran pleidleisio i ferched dros 21 oed o dan yr un amodau a roddwyd i ddynion. Am y tro cyntaf roedd gan ferched yr un hawliau â dynion. Bu’r ddeddf hon yn garreg filltir bwysig yn hanes menywod a etholwyd fel Aelodau Seneddol i Gymru. Yn Etholiad Cyffredinol 1929 etholwyd Megan Lloyd George fel yr ymgeisydd benyw cyntaf i ennill sedd yng Nghymru pan enillodd sedd Ynys Môn dros y Rhyddfrydwyr. Daliodd ei gafael ar y sedd yno tan 1951 ac yna bu’n Aelod Seneddol dros y Blaid Lafur yn Sir Gaerfyrddin o 1957 i 1966.
Fe wnaeth Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1969 ostwng yr oedran pleidleisio i bob dyn a menyw ym Mhrydain o 21 oed i 18 mlwydd oed.[8][9]
Radicaliaeth yng Nghymru
golyguYn ardaloedd diwydiannol Cymru roedd cefnogaeth i ddiwygio radical ac undebaeth yn gryf. Arweiniodd hyn at nifer o brotestiadau ac aflonyddwch sifil, gan gynnwys ffurfio'r Teirw Scotch yn y 1820au i orfodi streicio. Yn 1831 protestiodd pobl Merthyr yn erbyn cyflog ac amodau gwaith gwael. Yn 1839 roedd protestiadau mawr yng Nghasnewydd a Llanidloes fel rhan o ymgyrch Siartaeth. Roedd Siartaeth yn un o’r mudiadau dosbarth gweithiol torfol cyntaf. Y prif reswm dros ffurfio mudiad y Siartwyr oedd oherwydd siom a dicter rhai o’r dosbarth canol gyda Deddf Diwygio 1832 ac anhapusrwydd y dosbarth gweithiol nad oedden nhw wedi cael y bleidlais o gwbl.
Hawliau sifil a chrefyddol
golyguRhyddfreinio'r Pabyddion
golyguYn ystod y 19eg ganrif, bu grwpiau o bobl ym Mhrydain yn brwydro am gydnabyddiaeth i’w rhyddid crefyddol, ac un o'r grwpiau hyn oedd y Pabyddion. Yn ystod teyrnasiad Siôr IV (1820-1830) ddiddymwyd rhai o’r cyfreithiau yn erbyn y Pabyddion a oedd yn eu rhwystro rhag cael eu penodi i swyddi oherwydd eu crefydd. Un o’r deddfau a ddiddymwyd oedd y Deddfau Prawf a Chorfforaeth yn 1828.
Pasiwyd y Deddfau Prawf a Chorfforaeth yn yr 17g. Ar sail y deddfau hyn, dim ond Anglicaniaid oedd yn cael yr hawl i ddal swyddi cyhoeddus ar lefel genedlaethol neu leol. Nid oedd Anghydffurfwyr – Methodistiaid, Bedyddwyr, Annibynwyr, Undodwyr – na Phabyddion yn cael bod yn Aelodau Seneddol, nac yn feiri trefi. Byddai'n rhaid iddynt dyngu llw o ffyddlondeb i’r Brenin/Brenhines ac yn nes ymlaen roedd yn rhaid hefyd tyngu llw er mwyn cael yr hawl i fod yn gyfreithwyr ac yn athrawon.
Unwyd Iwerddon a Phrydain yn 1800. Fel rhan o’r Ddeddf Uno honno, roedd hawl gan Babyddion i bleidleisio ond roeddent yn parhau i gael eu gwahardd rhag dal swyddi cyhoeddus. O ganlyniad roedd Iwerddon yn cael ei chynrychioli yn Senedd y wlad gan Brotestaniaid yn unig. Achosodd hyn lawer o densiwn rhwng y Protestaniaid a’r Pabyddion. Gan hynny, dechreuodd Pabyddion Iwerddon ymgyrch dros ryddfreiniad.
Ffigwr pwysig yn yr ymgyrch hon oedd Daniel O’Connell, ac ym 1823, sefydlwyd y Gymdeithas Babyddol ganddo i ymgyrchu dros ryddfreiniad Pabyddion. Ym 1828, wedi i O’Connell ennill mewn isetholiad yn County Clare, Iwerddon, sylweddolodd Robert Peel, Ysgrifennydd Cartref y Llywodraeth, ei fod yn wynebu penbleth. Sylweddolai y gallai nifer fawr o Babyddion gael eu hethol yn y dyfodol i’r Senedd ac na fyddent yn medru mynd i San Steffan, yn yr un modd ag O’Connell, oherwydd eu crefydd. Gwyddai y byddai’n rhaid iddo ryddfreinio’r Pabyddion er mwyn osgoi rhyfel cartref yn Iwerddon a allai ledu draw i Brydain. Penderfynodd Peel felly basio Deddf Rhyddfreinio Pabyddion 1829. Rhoddodd y ddeddf hawliau sifil a gwleidyddol llawn i Babyddion oedd yn golygu eu bod yn medru bod yn Aelodau Seneddol a chael swydd gyhoeddus. Er hynny roedd gwaharddiad yn parhau ar ddal rhai swyddi, fel bod yn Frenin, Rhaglyw Dywysog, Arglwydd Ganghellor ac Arglwydd Lefftenant Iwerddon.[2]
Roedd diffyg rhyddid crefyddol yn un o’r rhesymau pam roedd pobl wedi ymfudo o Gymru yn ystod y 16eg a’r 17g. Penderfynodd llawer o bobl adael Cymru yn ystod y canrifoedd hynny oherwydd erledigaeth grefyddol. Yn 1663 roedd grŵp bach o Fedyddwyr, dan arweiniad eu gweinidog John Miles, yn awyddus i ffoi rhag erledigaeth grefyddol. Fe wnaethant adael am America lle gwnaethant sefydlu tref Swansea, Massachusetts.
Yn 1682, dilynodd grŵp llawer mwy o Grynwyr Cymreig William Penn i America, a hynny am yr un rheswm. Roedd Penn am alw’r ardaloedd lle gwnaethant ymsefydlu yn “New Wales” ond nid oedd yr awdurdodau yn Llundain yn hoffi’r enw felly cafodd ei newid i Pennsylvania. Ymgartrefodd y Crynwyr Cymreig, dan arweiniad John Roberts, mewn ardal a ddaeth yn adnabyddus fel y “Welsh Tract”. Roedd yr ardal hon yn ganolog i aneddiadau Cymreig yn America am flynyddoedd lawer. Erbyn 1700, roedd y Cymry yn cyfrif am tua thraean o boblogaeth y drefedigaeth, sef 20,000. Gadawodd cynifer o Grynwyr Cymreig am America hefyd.[10]
Ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth
golyguRoedd ymgyrchoedd a chyfraniadau unigolion a chymdeithasau yn hollbwysig yn y frwydr dros ennill hawliau sifil a gwleidyddol. Fel O’Connell yn ymgyrch y Pabyddion roedd William Wilberforce (1759 – 1833) yn unigolyn pwysig yn yr ymgyrch i gael gwared ar y fasnach gaethweision. Roedd yn Aelod Seneddol dros Hull, porthladd a oedd yn rhan o’r fasnach gaethweision, ac adnabuwyd ef fel un o ymgyrchwyr pennaf y frwydr i gael gwared ar gaethwasiaeth. Bu’n ymgyrchwr brwd yn y Senedd, ac yn 1807 gwaharddwyd y fasnach gaethweision yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Ffurfiwyd y Gymdeithas Wrth-gaethwasiaeth ganddo yn 1823, ac yn 1833 pasiwyd y Ddeddf Ryddfreinio a oedd yn gwahardd y fasnach gaethweision yn nhrefedigaethau Prydain. Er hynny, ni chafodd y fasnach gaethweision ei diddymu yn America tan 1863.[11]
Mae stori brwydr pobl groenddu America i dorri’n rhydd o hualau caethwasiaeth ac ennill cydraddoldeb gyda’r dyn gwyn yn crisialu/adlewyrchu pwysigrwydd y frwydr i ennill hawliau sifil a gwleidyddol i ryddid yr unigolion. Yng nghymdeithas America roedd y caethweision ar waelod y gymdeithas.
Roedd y fasnach o gipio a chludo caethweision draw o Affrica i weithio yn nhrefedigaethau newydd America wedi cychwyn ers y 16g. Roedd y Sbaenwyr, y Portiwgaliaid a Phrydain yn rhan o’r fasnach gaethweision hon. Byddai cannoedd ar filoedd o gaethweision, wedi iddynt gael eu cipio yn Affrica, yn cael eu cludo mewn llongau, a elwid yn ‘hylcs’, o borthladdoedd fel Bryste a Lerpwl a draw i ogledd America neu’r Caribȋ i weithio ar y planhigfeydd cotwm, tybaco a siwgr.
Roedd nifer y caethweision wedi cynyddu’n gyson yn y wlad rhwng y cyfrifiad cyntaf a gafwyd yn 1790, pan oedd 698,000 o gaethweision, hyd at bron i 4 miliwn yn 1860. Yn dilyn Deddf 1808, a oedd yn gwahardd y fasnach gaethweision Affricanaidd, disgwylid y byddai caethwasiaeth yn dod i ben mewn ychydig ddegawdau. Ond wrth i’r ardal gotwm ehangu ac wrth i’r angen am lafur rhad gynyddu, bu mwy o alw am gaethweision na’r hyn oedd ar gael. Nid oedd unrhyw fath o hawliau gan y caethweision ac roeddent yn eiddo i’w meistr a fyddai’n talu pris amdanynt. Roedd y prisiau am gaethweision ar gyfer y caeau yn amrywio rhwng $300 a $400 yn y 1790au, gan godi i $1,500 - $2,000 yn y 1850au. Roedd caethweision oedd yn meddu ar sgiliau arbennig yn costio hyd yn oed yn fwy.
Roedd gan bob tref, beth bynnag oedd ei maint, arwerthwyr a masnachwyr cyhoeddus a oedd yn barod i brynu a gwerthu caethweision. Yr agwedd waethaf ar y fasnach gaethweision oedd ei bod yn aml yn arwain at wahanu teuluoedd. Dim ond Louisiana ac Alabama (o 1852) a waharddodd wahanu plentyn o dan ddeg oed oddi wrth ei fam, ac ni wnaeth yr un dalaith wahardd gwahanu gŵr oddi wrth ei wraig.
Roedd y mwyafrif o gaethweision y de yn gweithio ar blanhigfeydd cotwm, tybaco neu siwgr. Y swyddi 'gorau' oedd swyddi gweision tai a gweithwyr medrus fel gofaint a seiri, cychwyr neu gogyddion. Fel arfer, rhoddwyd llety i’r rhai oedd yn gweithio yn y caeau mewn cabanau pren heb ddim ond stafell neu ddwy a lloriau pridd. Yn aml ni fyddai ffenestri ynddynt.
Byddai gweision yn y caeau yn gweithio oriau hir o fore gwyn tan nos. Nid oedd y gyfraith yn amddiffyn fawr ddim ar y caethweision. Roedd y taleithiau yn mabwysiadu'r codau caethweision, ond roedd y rhain fel arfer yn diogelu hawliau’r perchnogion yn hytrach na gofalu am hawliau’r caethweision. Roedd y codau, er enghraifft, yn caniatáu i berchnogion y planhigfeydd a’r ffermwyr bychain ddefnyddio’r chwip ar y caethweision.
Erbyn dechrau’r 19eg ganrif sefydlwyd cymdeithasau gwrth-gaethwasiaeth yn America. Sefydlwyd yr un gyntaf yn 1817 sef y Gymdeithas Gwladychiad Americanaidd, a bwriad y gymdeithas oedd dychwelyd caethweision oedd wedi eu rhyddhau yn ôl i Affrica. Ym 1821, prynodd asiantau a oedd yn cynrychioli’r gymdeithas dir yng Ngorllewin Affrica er mwyn creu gwlad newydd.
Yn 1832 sefydlodd William Lloyd Garrison a’i ddilynwyr Gymdeithas Gaethwasiaeth Lloegr Newydd, ac yn 1833 sefydlodd dau fasnachwr cyfoethog o Efrog Newydd, sef Arthur a Lewis Tappan, grŵp tebyg a elwid yn Gymdeithas Gwrth-gaethwasiaeth America. Roedd y gymdeithas yn gobeithio manteisio ar y cyhoeddusrwydd a roddwyd i waith William Wilberforce ym Mhrydain, a arweiniodd at y llywodraeth yn diddymu caethwasiaeth drwy’r Ymerodraeth Brydeinig ym 1833. Erbyn canol y 1840au, roedd gan y mudiad tua 1,300 o gymdeithasau lleol a chyfanswm aelodaeth o 250,000.
Daeth cefnogaeth i ddiddymu caethwasiaeth gan bobl a oedd yn cael eu denu at fudiadau diwygio eraill. Tueddai Diddymwyr ddod o deuluoedd crefyddol. Erbyn y 1840au roedd diddymu caethwasiaeth wedi troi yn destun gwleidyddol yn ogystal â bod yn ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb. Ffurfiodd rhai o’r diddymwyr yn y cyfnod hwn eu plaid eu hunain, sef y Blaid Rhyddid.[12]
Yr Ugeinfed ganrif
golyguYn yr 20g bu cefnogaeth enfawr i newidiadau i hawliau sifil, rhoi'r bleidlais i bawb a chefnogaeth i ddatganoli neu ymatal rhag pwerau tramor. Yn America arweiniodd brwydr dros 50 mlynedd at hawliau cyfartal i Americanwyr Du, cafodd menywod y bleidlais mewn gwledydd ledled y byd ac arweiniodd brwydrau yn India a De Affrica at gwymp Rheolaeth Prydain. Yn gynnar yn y ganrif yng Nghymru roedd ymgyrch dros hunanreolaeth a ddilynwyd gan ymgyrchoedd dros yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ac, yn y pen draw, sefydlu Llywodraeth Cymru yn y 1990au.
Cymru
golyguUn digwyddiad arwyddocaol yn hanes Plaid Cymru oedd penderfyniad Corfforaeth Lerpwl i foddi Capel Celyn ddiwedd y 1950au. Pasiwyd y ddeddf i foddi Cwm Tryweryn er gwaetha’r ffaith na wnaeth yr un o Aelodau Seneddol Cymru bleidleisio dros y mesur. Roedd Llywydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, yn amlwg iawn yn y protestiadau yn erbyn y boddi. Er na wnaeth Tryweryn ddylanwadu’n syth ar y gefnogaeth i’r blaid mewn etholiadau seneddol, tyfodd y galw am ddatganoli i Gymru a’r gefnogaeth i Blaid Cymru yn y tymor hir. Roedd Gwynfor Evans yn un o’r rhai a arweiniodd brotest gan drigolion Capel Celyn drwy strydoedd Lerpwl. Roedd Plaid Cymru yn ymgyrchu dros fwy o hawliau i Gymru a’r Gymraeg ym myd darlledu yn ystod y 1950au a’r 1960au.[13]
Roedd yr ysbryd chwyldroadol hwn wedi treiddio’n ddwfn i feddylfryd y 1960au. Roedd pobl ifanc, yn enwedig, yn credu’n gryf bod yn rhaid cael chwyldro er mwyn creu newid yn y gymdeithas. Dyma’r genhedlaeth a fu’n brwydro dros hawliau i’r iaith Gymraeg.
Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo.[14]
Roedd neges glir gan Saunders Lewis yn un o'r darllediadau pwysicaf yn hanes Cymru, sef Darlith Radio flynyddol y BBC ar 13 Chwefror 1962.
Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl gwneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon ac wynebu carchar am eu daliadau. Roedd rhybudd yn ei neges y byddai’r iaith yn marw os na fyddai ei siaradwyr yn cymryd camau i’w hachub. Roedd canlyniadau Cyfrifiad 1961 wedi rhoi rhybudd clir hefyd bod dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw yn y fantol.
Arweiniodd darlith Saunders Lewis at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac at gyfnod o brotestio dros hawliau'r Gymraeg. Sefydlwyd y Gymdeithas ar 4 Awst 1962 yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais. Yn Chwefror 1963 gwelwyd y protestiadau torfol cyntaf pan stopiwyd y traffig ar Bont Trefechan Aberystwyth gan fyfyrwyr o Aberystwyth a Bangor. Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau di-drais tebyg, a charcharwyd neu dirwywyd ymgyrchwyr. Ymhlith y rhain roedd y canwr poblogaidd Dafydd Iwan. Defnyddiai Dafydd Iwan y ‘gân brotest’ i fynegi barn rhai o’i genhedlaeth oedd, er enghraifft, yn gwrthwynebu arwisgiad Siarl fel Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969.
Bu cefnogwyr y Gymdeithas yn ymgyrchu am gyfnod drwy baentio neu ddifrodi arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru, ac arweiniodd yr ymgyrch hon at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru. Pasiwyd Deddf Iaith 1967, ac yn ystod y degawdau nesaf enillwyd hawliau i’r Gymraeg ym myd darlledu pan sefydlwyd Radio Cymru yn 1977 ac S4C yn 1982.[15]
Roedd Cymru’r 60au a’r 70au yn wlad a welodd gyffro gwleidyddol yn ogystal â cherddorol. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Ond daeth y gân brotest yn bwysig mewn cerddoriaeth bop Cymraeg yn y cyfnod hwn fel cyfrwng i fynegi barn am bynciau cyfoes. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd a’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol am bynciau cyfoes a oedd yn bwysig i’r genhedlaeth ifanc - er enghraifft, protestio yn erbyn y rhyfel yn Fietnam, pwysigrwydd iaith a diwylliant.[16]
Draw yn America roedd artistiaid poblogaidd fel Bob Dylan yn defnyddio ei ganeuon i brotestio. Roedd caneuon fel The times they are a changin a Blowin' in the wind yn protestio yn erbyn rhyfel.
Chwyldro'r Chwedegau
golyguRoedd y 1960au yn ddegawd chwyldroadol a newidiodd agweddau pobl ifanc tuag at y drefn wleidyddol a chymdeithasol draddodiadol.
Roedd agweddau pobl ifanc tuag at awdurdod ac at fywyd yn gyffredinol yn newid yn ystod y 1960au. Roeddent yn fwy parod i herio’r drefn a syniadau traddodiadol eu rhieni, y gwleidyddion a’r Llywodraeth. Roedden nhw'n fwy parod i brotestio - er enghraifft, roedd pobl ifanc yr Unol Daleithiau yn protestio yn erbyn y rhyfel yn Fietnam, dros hawliau menywod a hawliau pobl hoyw, a thros hawliau pobl dduon. Doedd ganddynt ddim ffydd yn y gwleidyddion ac roedd miloedd wedi rhwygo eu cardiau drafft pan alwyd arnynt gan y Llywodraeth i fynd i ymladd yn Fietnam. Hwn oedd cyfnod y streiciau a’r protestio gan fyfyrwyr colegau er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i Ryfel Fietnam a rheolau llym y colegau.
Gwelwyd twf y mudiad Ffeministaidd yn Unol Daleithiau America a Phrydain yn ystod y 1960au a’r 1970au. Ymhlith yr hawliau roedd y mudiad yn ymgyrchu drostynt roedd gwell hawliau i ferched yn y gweithle, cyfleoedd cyfartal i ferched yn y byd addysg, cyfleoedd cyfartal i ferched mewn swyddi llywodraethol, hawl i dderbyn gofal plant i rieni sy'n gweithio, a chyflogau tebyg i ferched am wneud yr un math o waith â dynion.
Er bod pethau wedi gwella i fenywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ystod y 1950au roeddent yn dueddol o weithio tan i’w plentyn cyntaf gael ei eni, ac o bosib wedyn ar ôl i'r plant dyfu. Yn y cyfnod hwn trodd nifer o ymgyrchwyr dros hawliau menywod eu sylw tuag at geisio sicrhau hawliau teg a chyfartal i fenywod yn y byd gwaith. Rhoddwyd pwyslais ar y syniad bod hawl gan ferched i weithio y tu allan i’r cartref. Felly, er bod safle menywod o fewn cymdeithas wedi newid yn raddol ers dechrau’r 20g, a’r broses hon wedi cyflymu oherwydd yr Ail Ryfel Byd, roedd gwahaniaeth sylfaenol rhwng rôl y gŵr a’r wraig yn parhau. Y wraig oedd yn dal i fagu plant a gofalu am y cartref, tra mai’r gŵr oedd y prif enillwr incwm. Dim ond ar ôl protestiadau mudiad rhyddid merched a chwyldro'r rhywiau yn ystod y 1960au y cafwyd newidiadau pellach a mwy parhaol yn statws menywod.[17]
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd gwelwyd mwy o grwpiau protest, mudiadau a hyd yn oed pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain yn ymgyrchu dros well hawliau neu geisio ennill mwy o gydnabyddiaeth i hawliau mewn gwahanol feysydd - er enghraifft, hawliau ieithyddol a diarfogi niwclear. Yn ogystal, roedd awydd ymhlith pobl ifanc i fynegi barn ar faterion gwleidyddol eu natur, sef pynciau a fyddai’n effeithio ar ddyfodol cenedlaethau’r dyfodol.
Er na chafodd y blaid lawer o lwyddiant etholiadol, tyfodd aelodaeth Plaid Cymru yn ystod y cyfnod. Llwyddodd i ddenu sylw drwy gefnogi ymgyrchoedd fel yr un i geisio atal y fyddin rhag meddiannu tiroedd yng Nghymru, ac ymdrechion i ddatganoli grym i Gymru. Roedd hefyd yn flaenllaw mewn ymgyrchoedd i roi mwy o statws cyhoeddus i’r iaith Gymraeg ac amddiffyn cymunedau Cymraeg.
Roedd defnydd yr Unol Daleithiau o’r bom atomig ar Hiroshima a Nagasaki ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd wedi cynhyrfu pobl i feddwl o ddifrif am ddiogelwch y byd. Yn Awst 1945 gollyngwyd bomiau atomig ar Siapan er mwyn ceisio dod â'r rhyfel yn y Dwyrain Pell i ben. Lladdwyd 120,000 o bobl pan ollyngwyd bom plwtoniwm ar Nagasaki, a lladdwyd 90,000 pan ollyngwyd bom wraniwm ar Hiroshima. Roedd y byd wedi gweld arf a oedd yn frawychus o beryglus.[18]
Ofnai llawer o bobl yn y Deyrnas Unedig y posibilrwydd o ryfel niwclear lle nad oedd yn debygol y byddai llawer o bobl y byd yn goroesi. Roedd llawer o bobl yn sylweddoli y byddai’r Deyrnas Unedig, a oedd mewn cynghrair gydag Unol Daleithiau America, yn darged ar gyfer ymosodiad niwclear gan yr Undeb Sofietaidd.[19]
Ar ôl y Rhyfel datblygodd yr Undeb Sofietaidd fom niwclear, ac roedd pryder ar hyd a lled y byd ynglŷn â dyfodol y ddynoliaeth oherwydd y bygythiad o ryfel niwclear. Yn y 1950au, er nad oedd bomwyr Sofietaidd yn gallu cyrraedd yr Unol Daleithiau, gallent gyrraedd y Deyrnas Unedig. Wedi’r Ail Ryfel Byd daeth Prydain hefyd yn bŵer niwclear, gyda gorsaf niwclear yn cael ei hadeiladu yn Calder Hall, Cumbria, a daeth Aldermaston yn Berkshire, hen ganolfan yr RAF, yn labordy ymchwil niwclear. Roedd y sefyllfa yn peri pryder i nifer o bobl. Gan hynny, sefydlwyd mudiad CND (Campaign for Nuclear Disarmament) ym Mhrydain yn 1958 ac yna ffurfiwyd nifer o ganghennau yng Nghymru, gyda'r gangen gyntaf yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd rali gyntaf y mudiad yng Nghymru yn Aberystwyth yn 1961 ar ôl ffurfio Cyngor Cenedlaethol Cymreig CND.
Lluniwyd polisi cyntaf CND gan rai fel J. B. Priestley, Bertrand Russell, Michael Foot, y Canon John Collins, Sheila Jones ac Arthur Goss. Daethant ynghyd ar ôl cael y syniad y dylid creu mudiad cenedlaethol i ymgyrchu yn erbyn arfau niwclear. Trefnwyd nifer o orymdeithiau rhwng 1958 a 1963 i Aldermaston, Berkshire, safle'r sefydliad ymchwil i arfau atomig.[18][19]
Mudiad Hawliau Sifil Pobl Dduon
golyguUnol Daleithiau America
golyguYsbrydolwyd grwpiau a mudiadau yn yr Unol Daleithiau i ymgyrchu dros sicrhau hawliau sifil a gwleidyddol i bobl dduon, gan ddechrau'r camau tuag at ddatblygu'r Mudiad Hawliau Sifil.
Er bod Cyfansoddiad Unol Daleithiau America wedi datgan, ar ôl Rhyfel Cartref America 1861-65, bod pobl dduon yn rhydd rhag caethwasiaeth, yn cael pleidleisio ac yn gyfartal yng ngolwg y gyfraith, roedd hyn wedi cael ei anwybyddu gan y taleithiau yng ngogledd a de America. Roedd pobl dduon yn parhau i fyw mewn tlodi ac yn dioddef anghyfiawnder a hiliaeth, yn enwedig yn y De. Roedd y sefyllfa hon yn bodoli oherwydd y system arwahanu yn America i raddau helaeth, a oedd yn cadw pobl dduon a phobl wyn ar wahân ac yn gwahaniaethu yn erbyn pobl dduon.
Roedd y cyfreithiau arwahanu hyn yn cael eu hadnabod yn y de fel Deddfau Jim Crow. Pan gyflwynwyd hwy yn y De ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad oddi wrth y taleithiau yn y Gogledd er eu bod yn amlwg yn trin pobl dduon fel dinasyddion eilradd. Dyma’r deddfau a oedd yn arwahanu pobl dduon oddi wrth bobl gwyn ym mhob agwedd ar fywyd. Er enghraifft, roedd yn rhaid i bobl dduon ddefnyddio bysiau, trenau, theatrau, ysgolion, ysbytai ac eglwysi ar wahân neu adrannau ar wahân ar systemau trafnidiaeth, mewn cyfleusterau adloniant a hamdden, iechyd ac addoli. Nid oedd hawl ganddynt ychwaith i bleidleisio. Roeddent yn dioddef anghyfiawnder yn llysoedd y gyfraith gan mai pobl wyn oedd y cyfreithwyr, y rheithgor a’r barnwyr. Roedd hyd yn oed y Groes Goch yn cadw banciau gwaed ar wahân i bobl dduon, ac adeg yr Ail Ryfel Byd roedd milwyr duon yn gwasanaethu mewn unedau ar wahân i filwyr gwyn, sef ‘Byddin Jim Crow’. Erlidiwyd pobl dduon gan y Ku Klux Klan ac roeddent yn gyfrifol am lynsio nifer uchel o bobl dduon yn ystod y 1920au.
Ar ddechrau’r 20fed ganrif sefydlwyd yr NAACP (National Association for the Advancement of Coloured People) er mwyn hyrwyddo buddiannau hawliau pobl dduon, a than ar ôl yr Ail Ryfel Byd bu ymgyrchwyr dros hawliau pobl dduon yn protestio’n gyson yn y llysoedd cyfreithiol i gael gwared ar arwahanu.
Yn ystod y 1950au a’r 1960au datblygodd y mudiad hawliau sifil yn un pwerus a oedd yn herio ac yn gwrthwynebu’n chwyrn yr anghyfiawnderau roedd pobl dduon yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd. Gyda chefnogaeth yr NAACP, cafodd Bwrdd Addysg Topeka ei erlyn yn 1954 gan dad merch 7 mlwydd oed o’r enw Linda Brown, a oedd yn gorfod cerdded 20 bloc i’r ysgol er bod ysgol ar gyfer plant gwyn dim ond tua 2 floc i ffwrdd. Roedd hi’n gorfod mynd i Ysgol Jim Crow. Dyfarnodd y Barnwr, Ustus Warren, bod arwahanu mewn ysgolion yn anghyfreithlon. Bu hyn yn hwb aruthrol i’r frwydr dros hawliau sifil.
Yn 1955 heriodd dynes o’r enw Rosa Parks y system arwahanu a oedd yn bodoli ar y bysus ym Montgomery, Alabama. Roedd gan Martin Luther King rôl allweddol yn y brotest hon hefyd, a llwyddodd i drefnu bod y bobl dduon oedd yn defnyddio’r gwasanaethau bws cyhoeddus yn eu boicotio. Galwyd y cyfnod hwn o weithredu yn Foicot y Bysus, ac yn 1956 dyfarnwyd bod arwahanu ar y bysus yn anghyfreithlon.
Yn 1957 heriwyd y system arwahanu yn y gyfundrefn addysg. Ceisiodd 9 myfyriwr gymryd eu lle yn Ysgol Uwchradd Little Rock, Arkansas, yn unol â'u hawl cyfreithiol i wneud hynny. Bu’n rhaid i’r myfyrwyr gael eu gwarchod gan filwyr ffederal bob dydd wrth fynd i mewn i’r ysgol am y flwyddyn ddilynol, dan orchymyn yr Arlywydd Eisenhower, oherwydd bod cymaint o gasineb a gwrthwynebiad i'r syniad ohonynt yn mynd i’r un ysgol â myfyrwyr gwyn.
Yn ystod y 1960au, ac o dan arweiniad Martin Luther King, cynhaliodd y Mudiad Hawliau Sifil nifer o deithiau rhyddid heddychlon er mwyn brwydro i ddileu'r arwahanu oedd yn dal i fodoli mewn gorsafoedd trenau a bysus, tai bwyta a safleoedd yfed dŵr. Teithient o dalaith i dalaith a defnyddio cyfleusterau'r bobl wyn er mwyn tynnu sylw a chael eu harestio. Un o’r gorymdeithiau rhyddid enwocaf a gynhaliwyd gan y Mudiad Hawliau Sifil oedd Gorymdaith Washington yn 1963 o dan arweiniad Martin Luther King o flaen Cofeb Lincoln yn Washington D.C.
O dan arweiniad Malcolm X trodd y frwydr dros hawliau sifil yn fwy treisgar ac ymosodol ei natur, gyda phwyslais ar ‘Rym Du’.
Erbyn diwedd y 1960au roedd Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau wedi pasio rhai deddfau hawliau sifil a deddfau hawliau pleidleisio oedd yn rhoi hawliau cydradd o safbwynt y gyfraith i bobl dduon a phobl wyn mewn meysydd fel swyddi, tai, trafnidiaeth a hawliau gwleidyddol. Roedd Deddf Hawliau Sifil 1964 yn gorfodi pob talaith i ddiddymu arwahanu mewn ysgolion ac roedd Deddf Bleidleisio 1965 yn rhoi'r hawl i bobl dduon bleidleisio.
Diolch i ymdrechion ac arweiniad pobl fel Rosa Parks, Martin Luther King a Malcolm X llwyddodd y Mudiad Hawliau Sifil i ddechrau goresgyn yr agweddau a’r rhwystrau cyfreithiol a oedd yn golygu bod pobl dduon yn cael eu trin fel pobl eilradd.
Apartheid - De Affrica
golyguYn Ne Affrica roedd y bobl dduon brodorol yn wynebu brwydr ffyrnig eu hunain yn erbyn apartheid, sef system oedd yn gwahanu pobl wyn a du ym mhob agwedd ar fywyd ac yn pwysleisio israddoldeb y dyn du i’r dyn gwyn.
Roedd y Llywodraeth Afrikaners wedi pasio nifer o ddeddfau, o dan arweiniad y Prif Weinidog, J.B.M. Hertzog, yn ystod y 1920au a oedd wedi rhoi mwy o rym i bobl wyn yn Ne Affrica - er enghraifft, o ran gwaith a hawliau tir.
Yn 1948, pan wnaeth y Blaid Genedlaethol, sef plaid Dr Daniel Malan, greu llywodraeth newydd, cafodd hawliau sifil a gwleidyddol pobl dduon eu cwtogi ymhellach. Rhwng diwedd y 1940au a diwedd y 1950au pasiwyd cyfres o ddeddfau a oedd yn sefydlu apartheid ym mhob agwedd ar fywyd y wlad rhwng y dyn gwyn a’r dyn du - er enghraifft, o ran addysg, cyflogaeth, tai, hawliau pleidleisio, a'r modd roedd yr heddlu yn trin pobl dduon.
Ers dechrau'r 20g roedd dau fudiad wedi bod yn ymgyrchu’n gyson yn erbyn apartheid, sef yr African National Congress (yr ANC) a’r Gyngres Ban Affricanaidd (y PAC). O blith arweinwyr ifanc mwy radical yr ANC daeth arweinyddion brwydr y dyfodol yn erbyn apartheid, sef Nelson Mandela ac Oliver Tambo.
Bu'r frwydr yn erbyn apartheid yn un frawychus ac erchyll. Ymhlith y ddau ddigwyddiad mwyaf treisgar roedd Sharpeville yn 1960 a Soweto yn 1976.
Gyda mudiadau ac unigolion yn Ne Affrica fel Nelson Mandela yn brwydro yn erbyn apartheid, law yn llaw â phwysau rhyngwladol gan wladwriaethau eraill fel Prydain, y Gymanwlad Brydeinig, y Cenhedloedd Unedig a’r sancsiynau a boicotio chwaraeon De Affrica, cychwynnwyd ar bennod newydd yn hanes De Affrica yn 1994.
Yn 1994 cynhaliwyd etholiad cyffredinol yn y wlad pan gafodd 16 miliwn o bobl dduon hawl i bleidleisio am y tro cyntaf erioed. Enillodd Cyngres Genedlaethol Affrica (ANC) yr etholiad ac etholwyd Nelson Mandela yn arlywydd ar wlad a oedd wedi ei roi yn y carchar am 27 mlynedd. Roedd De Affrica bellach wedi cychwyn ar bennod newydd yn ei hanes.[20]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Gwleidyddiaeth a Llywodraeth, 1780 - 1886". CBAC.
- ↑ 3.0 3.1 "Llenyddiaeth Gwleidyddol a Radicalaidd". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Davies, John. Hanes Cymru. t. 325.
- ↑ Davies, John. Hanes Cymru. t. 326.
- ↑ Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2001). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 757–758.
- ↑ "RHYS, MORGAN JOHN ('Morgan ab Ioan Rhus'; 1760 - 1804); gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-02.
- ↑ "Ymgyrchu! - Pleidleisio - Merched - Ennill y Bleidlais". web.archive.org. 2013-07-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-19. Cyrchwyd 2020-04-02.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Ymgyrchu! - Pleidleisio - Merched - Ymgeiswyr Seneddol". web.archive.org. 2013-07-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-19. Cyrchwyd 2020-04-02.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Patrymau Mudo y Cyd-destun CYmreig" (PDF). CBAC.
- ↑ "William Wilberforce | Biography, Achievements, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-02.
- ↑ "Resource WJEC Educational Resources Website". resources.wjec.co.uk. Cyrchwyd 2020-04-02.
- ↑ "Gwleidyddiaeth, Cymdeithas, Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol" (PDF). Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-11-28.
- ↑ "'Tynged yr Iaith' yn 50". BBC Cymru Fyw. 2012-02-13. Cyrchwyd 2020-04-02.
- ↑ "Ymgyrchu! - Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, S4C, Deddf Iaith". web.archive.org. 2013-05-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-10. Cyrchwyd 2020-04-02.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Cerddoriaeth Cymru: Gwerin, Protest a Phop". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2019-06-21. Cyrchwyd 2020-04-02.
- ↑ "Gwaith, Cyflogaeth, Gwrthdaro yn Asia" (PDF). Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-02-13.
- ↑ 18.0 18.1 "Ymgyrchu! - Rhyfel a Heddwch - Diarfogi niwclear". web.archive.org. 2013-05-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-16. Cyrchwyd 2020-04-02.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ 19.0 19.1 "Cymdeithas War" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 2 Ebrill 2020.
- ↑ "De Affrica" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 2 Ebrill 2020.