Domenico Ghirlandaio

Arlunydd Eidalaidd yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Domenico Ghirlandaio (144911 Ionawr 1494) sydd yn nodedig am ei ffresgoau traethiadol manwl, sydd yn cynnwys nifer o bortreadau o ddinasyddion blaenllaw Gweriniaeth Fflorens a golygfeydd Beiblaidd.

Domenico Ghirlandaio
Ffigur—a dybir ei fod yn hunanbortread—o Addoliad y Doethion (1485–88) gan Domenico Ghirlandaio.
GanwydDomenico di Tommaso Curradi di Doffo Bigordi Edit this on Wikidata
2 Mehefin 1448 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ionawr 1494 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTornabuoni Chapel, Sassetti Chapel Edit this on Wikidata
Mudiady Dadeni Eidalaidd Edit this on Wikidata
PlantRidolfo del Ghirlandaio Edit this on Wikidata
PerthnasauBastiano Mainardi Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.domenico-ghirlandaio.org Edit this on Wikidata

Ganed Domenico di Tommaso Bigordi yn Fflorens yn fab i eurych. Tarddai ei lysenw, "Ghirlandaio", o waith ei dad o wneud garlantau ar gyfer gwallt menywod y ddinas. Nid oes tystiolaeth o'i addysg ac hyfforddiant yn y celfyddydau, neu ddechrau ei yrfa, ond mae Giorgio Vasari yn honni yr oedd yn ddisgybl i Alesso Baldovinetti. Dyddia'r gweithiau cynharaf a briodolir iddo o'r 1470au. Paentiodd yn bennaf furluniau a ffresgoau ar wynebau mawr, a cheir hefyd ambell allorlun ganddo ar baneli pren. Ni arbrofodd erioed gyda chyfrwng paent olew.[1]

Paentiodd sawl ffresgo ym 1481–82, gan gynnwys Galwedigaeth Seintiau Pedr ac Andreas yn Cappella Sistina, Dinas y Fatican. Ei gampwaith, mae'n debyg, yw'r cylch ffresgo (1485–90) yng nghôr Santa Maria Novella yn Fflorens, a gomisiynwyd gan deulu'r Medici, o olygfeydd o fucheddau'r Forwyn Fair ac Ioan Fedyddiwr.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Domenico Ghirlandaio. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Medi 2022.