Donald Evans

bardd Prydeinig

Bardd Cymraeg yw Donald Evans (ganed 1940 mewn fferm ar lan Banc Siôn Cwilt, Ceredigion). Mae’n awdur 17 o gyfrolau barddoniaeth a dwy gyfrol o atgofion.

Donald Evans
Ganwyd1940 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Enillodd y gadair a'r goron yn yr un Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith: yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r cylch 1977 ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Lliw 1980. Bu’n olygydd barddoniaeth y cylchgrawn Barn o 1989 hyd 1991. Yn 2006 enillodd ddoethuriaeth am ei draethawd Egwyddorion Beirniadol Awdl yr Eisteddfod Genedlaethol 1955-1999.

Llyfryddiaeth golygu

  • Egin (1976)
  • Parsel persain: cyfrol o englynion (1976, golygydd)
  • Haidd (1977)
  • Grawn (1979)
  • Y flodeugerdd o gywyddau (1981, golygydd)
  • Eden (1981)
  • Gwenoliaid (1982)
  • Machlud canrif (1983)
  • Eisiau byw (1984)
  • Cread Crist (1986)
  • O'r Bannau Duon (1987)
  • Iasau (1988)
  • Rhydwen Williams (1991)
  • Wrth Reddf (1994)
  • Asgwrn Cefen (1997)
  • Y Cyntefig Cyfoes (2000)
  • Awdlau'r Brifwyl 1950-1999 (2008)
  • Cartre'n y Cread (2010)
  • Tua'r Grib (2014)
  • Haul (2015)
  • Trydan (2020)
  • Sonede Llafar (2020)
  • Telynegu'r Canu Caeth (2021)