Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chystadlu mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth a drama yn elfen bwysig. Ymhlith y cystadlaethau pwysicaf mae cystadleuaeth am y Gadair am awdl, y Goron am bryddest a'r Fedal Ryddiaith am waith rhyddiaith. Ceir hefyd y Rhuban Glas i'r canwr unigol gorau a chyflwynir Medal Syr T.H. Parry-Williams er 1975 i gydnabod gwasanaeth gwirfoddol nodedig ymhlith pobl ifanc. Er 1952, trefnir a llywodraethir yr Eisteddfod gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn gyffredinol, bu'r niferoedd sy'n ymweld â hi'n gostwng rhwng 1997 a 2017.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 | |
Enghraifft o'r canlynol | eisteddfod, digwyddiad blynyddol |
---|---|
Yn cynnwys | Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, Y Fedal Ryddiaith, Gwobr Goffa Daniel Owen, Tlws y Cerddor, Gwobr Goffa David Ellis, Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn, Medal Aur am Gelfyddyd Gain, Medal Aur am Grefft a Dylunio, Medal Aur mewn Pensaernïaeth, Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts, Medal Syr T.H. Parry-Williams, Dysgwr y Flwyddyn, Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, Albwm Cymraeg y Flwyddyn |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Gweithwyr | 18, 17, 14 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://eisteddfod.cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Am Eisteddfod eleni gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024
Yr Eisteddfod ddoe a heddiw
golyguEr bod traddodiad yr eisteddfod yn ganrifoedd oed, ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf tan 1861, yn Aberdâr. Daeth y gyfres flynyddol honno i ben oherwydd diffyg cyllid yn 1868. Yn 1880 sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahân i 1914, 1940 a 2020. (Cynhaliwyd hi ar lein yn 2021.)[1]
Roedd Iolo Morganwg wedi sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1792. Fel y tyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr orsedd i'w chysylltu fwy-fwy gyda hi, gan gychwyn gydag Eisteddfod Caerfyrddin 1819, nes datblygu yn rhan o seremonïau'r eisteddfod fwy neu lai fel y mae heddiw. Yr orsedd sydd yn gyfrifol am seremonïau cadeirio a choroni'r beirdd yn ogystal â chyflwyno'r Fedal Ryddiaith. Ailwampiodd yr Archdderwydd Geraint Bowen tipyn ar y seremonïau, er enghraifft diddymu Seremoni'r Cymry Ar Wasgar, a dod â'r brodyr Celtaidd i mewn i rai o'r prif seremonïau. Mae aelodau'r orsedd yn rhannu'n dri grŵp, gyda lliw gwahanol i wisg bob un.
Caiff yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos lawn gyntaf mis Awst, yn y de a'r gogledd bob yn ail. Ond ceir Seremoni'r Cyhoeddi tua 13 mis cyn yr Eisteddfod. pryd y bydd Gorsedd y Beirdd a'i chefnogwyr yn gorymdeithio drwy'r dref i Gylch yr Orsedd. Ar ôl y seremoni cyflwynir rhestr o destunau'r Eisteddfod i'r Archdderwydd.
Mae maes yr Eisteddfod yn mesur oddeutu 15 i 18 erw (6 i 7 ha). Ar wahân i'r pafiliwn mawr, bydd hefyd y Babell Len, y Babell Ddawns, Pabell y Cymdeithasau, y Lle Celf; a bydd nifer o stondinau gan gymdeithasau gwirfoddol, megis yr Urdd, Merched Wawr; bydd y pleidiau gwleidyddol ar y maes hefyd a busnesau.
Yn y gorffennol, roedd Saesneg yn rhan o'r gweithgareddau, a chlywid hi hyd yn oed ar lwyfan yr Eisteddfod ei hun. Nododd y cyfansoddiad newydd ym 1952 mai iaith swyddogol yr eisteddfod oedd y Gymraeg yn unig, ac roedd Cynan yn flaenllaw yn y gwaith o gadw'r eisteddfod yn uniaith Gymraeg.
Ymhlith eisteddfodau eraill Cymru mae: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Pantyfedwen, Eisteddfod Powys ac Eisteddfod Môn. Ceir hefyd nifer o eisteddfodau llai ledled Cymru, megis Eisteddfod Pwll-glas.
Prif wobrau'r eisteddfod
golygu- Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol
- Coron yr Eisteddfod Genedlaethol
- Medal Ryddiaith
- y Fedal Ddrama
- Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn
- Medal Syr T.H. Parry-Williams
- Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts
- Gwobr Goffa Daniel Owen
- Gwobr Goffa Osborne Roberts
- Tlws Y Cerddor
- Tlws Dysgwr y Flwyddyn
- Gwobr Goffa David Ellis
- Gwobr Richard Burton
- Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Albwm Cymraeg y flwyddyn
Rhestr o Eisteddfodau Cenedlaethol
golygu19eg ganrif
golygu- 1861 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1861
- 1862 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1862
- 1863 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1863
- 1864 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1864
- 1865 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1865
- 1866 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caer 1866
- 1867 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1867
- 1868 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1868
- 1869-1879 - Eisteddfodau answyddogol yn y gogledd
- 1869 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Treffynnon 1869
- 1870 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1870
- 1871 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Towyn 1871
- 1872 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tremadog 1872
- 1873 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1873
- 1874 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1874
- 1875 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1875
- 1876 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1876
- 1877 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1877
- 1878 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1878
- 1879 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Conwy 1879
- Ail-gychwyn Eisteddfod Genedlaethol
- 1880 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1880
- 1881 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful 1881
- 1882 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 1882
- 1883 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1883
- 1884 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lerpwl 1884
- 1885 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885
- 1886 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1886
- 1887 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llundain 1887
- 1888 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1888
- 1889 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberhonddu 1889
- 1890 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890
- 1891 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1891
- 1892 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl 1892
- 1893 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pontypridd 1893
- 1894 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1894
- 1895 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 1895
- 1896 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1896
- 1897 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1897
- 1898 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Ffestiniog 1898
- 1899 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1899
- 1900 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lerpwl 1900
20fed ganrif
golygu- 1901 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful 1901
- 1902 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902
- 1903 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 1903
- 1904 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl 1904
- 1905 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1905
- 1906 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906
- 1907 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1907
- 1908 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangollen 1908
- 1909 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llundain 1909
- 1910 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1910
- 1911 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1911
- 1912 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1912
- 1913 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Fenni 1913
- 1914 - Dim Eisteddfod Genedlaethol oherwydd dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf
- 1915 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1915
- 1916 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1916
- 1917 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917
- 1918 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Castell-nedd 1918
- 1919 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Corwen 1919
- 1920 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1920
- 1921 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921
- 1922 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922
- 1923 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1923
- 1924 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pont-y-pwl 1924
- 1925 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1925
- 1926 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1926
- 1927 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caergybi 1927
- 1928 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Treorci 1928
- 1929 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lerpwl 1929
- 1930 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 1930
- 1931 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1931
- 1932 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1932
- 1933 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1933
- 1934 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Castell-nedd 1934
- 1935 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935
- 1936 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergwaun 1936
- 1937 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Machynlleth 1937
- 1938 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938
- 1939 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 1939
- 1940 - 'Eisteddfod ar yr Awyr', Bangor a gwledydd Prydain
- 1941 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Hen Golwyn 1941
- 1942 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1942
- 1943 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1943
- 1944 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandybïe 1944
- 1945 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1945
- 1946 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946
- 1947 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1947
- 1948 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pen-y-bont ar Ogwr 1948
- 1949 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dolgellau 1949
- 1950 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerffili 1950
- 1951 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1951
- 1952 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952
- 1953 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl 1953
- 1954 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ystradgynlais 1954
- 1955 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1955
- 1956 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956
- 1957 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni 1957
- 1958 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958
- 1959 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959
- 1960 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1960
- 1961 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1961
- 1962 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 1962
- 1963 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1963
- 1964 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1964
- 1965 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Drenewydd 1965
- 1966 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1966
- 1967 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967
- 1968 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1968
- 1969 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Fflint 1969
- 1970 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970
- 1971 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971
- 1972 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 1972
- 1973 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973
- 1974 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974
- 1975 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor 1975
- 1976 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976
- 1977 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r cylch 1977
- 1978 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978
- 1979 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979
- 1980 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Lliw 1980
- 1981 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'i chyffiniau 1981
- 1982 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1982
- 1983 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1983
- 1984 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr Pont Steffan 1984
- 1985 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl 1985
- 1986 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergwaun 1986
- 1987 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987
- 1988 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988
- 1989 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1989
- 1990 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990
- 1991 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991
- 1992 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1992
- 1993 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993
- 1994 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Castell-nedd 1994
- 1995 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Colwyn 1995
- 1996 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dinefwr 1996
- 1997 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997
- 1998 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998
- 1999 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999
- 2000 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000
21ain ganrif
golygu- 2001 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001
- 2002 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002
- 2003 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003
- 2004 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004
- 2005 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005
- 2006 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006
- 2007 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007
- 2008 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008
- 2009 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009
- 2010 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010
- 2011 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011
- 2012 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012
- 2013 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013
- 2014 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2014 [2]
- 2015 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 [3]
- 2016 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016
- 2017 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017
- 2018 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018
- 2019 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019
- 2020 - Gohiriwyd Eisteddfod Ceredigion oherwydd Pandemig COVID-19. Yn hytrach cynhaliwyd Gŵyl AmGen, Gŵyl ar-lein.
- 2021 - Gohiriwyd Eisteddfod Ceredigion eto i 2022. Cynhaliwyd Eisteddfod AmGen 2021 yn ei le.
- 2022 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022
- 2023 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023
- 2024 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024
Llyfryddiaeth
golygu- Alan Llwyd, Prifysgol y Werin: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1900-1918 (Cyhoeddiadau Barddas, 2008)
- Alan Llwyd, Blynyddoedd y Locustiaid: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1919-1936 (Cyhoeddiadau Barddas, 2007)
- Alan Llwyd, Y Gaer Fechan Olaf: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1937-1950 (Cyhoeddiadau Barddas, 2006)
Gweler hefyd
golygu- J. Elwyn Hughes, golygydd y Cyfansoddiadau rhwng 1985-2015
- Rhestr o Archdderwyddon
- Rhestr ffigurau ymwelwyr â'r Eisteddfod Genedlaethol
Gwyliau iaith Celtaidd eraill
golygu- Oireachtas na Gaeilge - Iwerddon
- Mòd Genedlaethol yr Alban - Yr Alban
- Cooish - Ynys Manaw
- Gouel Broadel ar Brezhoneg - Llydaw
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Melville Richards, "Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg", yn Twf yr Eisteddfod: Tair Darlith, gol. Idris Foster (Aberystwyth: Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968)
- ↑ "Gwefan yr Eisteddfod". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-09. Cyrchwyd 2013-04-27.
- ↑ Newyddion BBC am Eisteddfod 2015