Cyfrifiadurwr a mathemategydd Americanaidd yw Donald Ervin Knuth (ynganiad: /kəˈnuːθ/; ganwyd 10 Ionawr 1938). Mae ei waith ynghlŷn â'r dadansoddiad o algorithmau wedi bod yn eithriadol o bwysig. Mae ganddo enw rhyngwladol ac mae wedi derbyn nifer mawr o wobrau ac anrhydeddau o sefydliadau ysgolheigaidd, gan gynnwys y Wobr Turing (1974).[1]

Donald Knuth
Ganwyd10 Ionawr 1938 Edit this on Wikidata
Milwaukee Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Case Western Reserve
  • Sefydliad Technoleg California
  • Milwaukee Lutheran High School Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Marshall Hall Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, hanesydd mathemateg, ysgrifennwr, rhaglennwr, academydd, peiriannydd, academydd, dylunydd math Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Burroughs Corporation
  • Institute for Defense Analyses
  • Sefydliad Technoleg California
  • Prifysgol Stanford Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTeX, Metafont, The Art of Computer Programming, Computer Modern, WEB, CWEB, literate programming Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Cymrawd Turing, IEEE John von Neumann Medal, Gwobr Harvey, Medal Genedalethol Gwyddoniaeth, Gwobr Faraday, Gwobr Grace Murray Hopper, Darlithoedd Josiah Willard Gibbs, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Turing Talk, Cymrawd Amgueddfa Hanes y Cyfrifiadur, Medal Franklin, Kyoto Prize in Advanced Technology, ACM Software System Award, Gwobr W. Wallace McDowell, Paul R. Halmos - Lester R. Ford Awards, Gwobr Sefydliad 'Frontiers of Knowledge' BBVA, Gwobr Leroy P. Steele, Darlith John von Neumann, honorary doctor of ETH Zürich, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Tübingen, ACM Fellow, Fellow of the Society for Industrial and Applied Mathematics, Fellow of the British Computer Society, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, honorary doctorate of the Masaryk University, Fellow of the American Mathematical Society Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www-cs-faculty.stanford.edu/~knuth Edit this on Wikidata

Ei waith pwysicaf yw The Art of Computer Programming, sy'n llyfr aml-gyfrol enfawr y cyhoeddwyd y rhannau cyntaf ohonynt ym 1968, ond sydd yn anghyflawn (2022) er ei fod yn parhau i lafurio yn ddiwyd arno, ac yn cyhoeddi rhannau newydd yn rheolaidd.

Yn ogystal â'i gyfraniadau sylfaenol mewn sawl maes cyfrifiadureg ddamcaniaethol, Knuth yw crëwr y system cysodi cyfrifiadurol TeX (a ddefnyddir yn helaeth ym maes cyhoeddi gwyddonol), y system ffont gysylltiedig METAFONT, a'r teulu o ffurfdeipiau Computer Modern.

Mae'n athro emeritws ym Mhrifysgol Stanford, Califfornia.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Donald Knuth", Gwefan y Gymdeithas Frenhinol; adalwyd 9 Awst 2022

Dolenni allanol golygu