Dorothy Miles

bardd, actifydd

Roedd Dorothy "Dot" Miles (19 Awst 193130 Ionawr 1993; ganwyd Squire) yn fardd ac actifydd o Gymru yn y gymuned fyddar Trwy gydol ei hoes, cyfansoddodd ei cherddi yn Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain, ac Iaith Arwyddion America. Roedd hi'n arloeswr barddoniaeth BSL a dylanwadodd ei gwaith ar lawer o feirdd Byddar cyfoes.[1]

Dorothy Miles
Ganwyd19 Awst 1931 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
Bu farw1993 Edit this on Wikidata
Lloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Gallaudet Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Cafoff Miles ei geni yn Holywell, Sir y Fflint, yn ferch i James ac Amy Squire (ganwyd Brick). Roedd hi'r ieuengaf o bump o blanti. Ym 1939, cadawodd hi ei fyddar oherwydd salwch. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frenhinol y Byddar ac Ysgol Mary Hare. Ym 1957, aeth hi i'r Unol Daleithiau i gymryd lle yng Ngholeg Gallaudet. Yn ystod ei chyfnod yn y coleg, roedd hi'n golygodd gylchgronau'r myfyrwyr; enillodd gwobrau am ei hysgrifennu rhyddiaith a'i barddoniaeth ac am actio. Cyhoeddwyd peth o'i gwaith yn The Silent Muse, blodeugerdd o ysgrifau dethol gan awduron byddar y 100 mlynedd diwethaf.[2]

Priododd â chyd-fyfyriwr, Robert Thomas Miles, ym mis Medi 1958, ond fe wnaethant wahanu ym 1959. Graddiodd ym 1961 gan dderbyn BA gyda rhagoriaeth. Gweithiodd yn yr Unol Daleithiau fel athrawes a chynghorydd i oedolion byddar. Yn 1967, ymunodd â Theatr Genedlaethol y Byddar a oedd newydd ei sefydlu a dechreuodd greu barddoniaeth iaith arwyddion y gallai pobl fyddar ei gwerthfawrogi.[3] Yna dychwelodd i'r Deyrnas Unedig, lle daeth yn aelod allweddol o Gymuned Fyddar Prydain. Yn yr 1990au, roedd Miles yn dioddef o iselder manig. Yn 1993, cyflawnodd hi hunanladdiad trwy ddisgyn o ffenestr.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "University of Bristol Graduate School of Education". Cyrchwyd 7 Awst 2011.
  2. "Gallaudet University". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Medi 2011. Cyrchwyd 10 Awst 2011.
  3. Sutton-Spence, Rachel. "Dorothy Miles" (PDF). European Cultural Heritage Online (ECHO). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2 Hydref 2011. Cyrchwyd 7 Awst 2011.