Treffynnon
Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Treffynnon (Saesneg: Holywell). Saif yn agos i lan orllewinol Glannau Dyfrdwy ar briffordd yr A5026, tua hanner ffordd rhwng Prestatyn i'r gogledd a'r Wyddgrug i'r de, tua 5 milltir o dref Y Fflint. Mae'r hen dref yn gorwedd ar un o lethrau is Mynydd Helygain. Mae'r dref yn enwog fel lleoliad Ffynnon Gwenffrewi a'i chapel, sy'n ganolfan pererindod i Gatholigion ac eraill ers canrifoedd lawer.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 8,886, 9,225 |
Gefeilldref/i | Sant-Gregor |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.274°N 3.223°W |
Cod SYG | W04000192 |
Cod OS | SJ185755 |
Cod post | CH8 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Becky Gittins (Llafur) |
- Am y pentref o'r un enw yn Sir Benfro, gweler Treffynnon, Sir Benfro.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Becky Gittins (Llafur).[1][2]
Ffynnon Wenffrewi
golyguYn ôl traddodiad roedd Gwenffrewi (neu Gwenfrewi) yn nith i Sant Beuno. Syrthiodd tywysog o'r enw Caradog mewn cariad â hi ond gwrthododd y forwyn ei dderbyn. Ceisiodd Caradog dreisio Wenffrewi ac yna dorrodd ei phen. Daeth Beuno heibio a rhoi pen Gwenffrewi yn ôl ar ei chorff, trwy wyrth, a ffrydiodd ffynnon o'r ddaear lle syrthiasai pen y santes. Byth ers hynny mae'r ffynnon wedi bod yn gyrchfa i bererinion.
Mae adeiladau Ffynnon Wenffrewi heddiw yn dyddio i 1490-1500 pan gafodd ei godi gan yr Arglwyddes Margaret Beaufort, mam Harri Tudur. Mae'n adeilad deniadol iawn. Delir dŵr y ffynnon mewn llestr ar siâp seren ac mae saith piler paneledig yn codi ohono i'r to siâp gwyntyll gan ffurfio rhodfa oddi amgylch y ffynnon. Mae'r pererinion yn cymryd dŵr i ffwrdd o'r ffynnon, sy'n byrlymu'n gryf, mewn poteli i'w yfed nes ymlaen neu yn y man.[3]
Ger y ffynnon ceir capel y ffynnon, sy'n dyddio i'r 15g. Cafodd ei atgyweirio yn 1967.
Y tu ôl i gapel y ffynnon ceir eglwys y plwyf, a gysegrir i'r apostol Sant Iago. Credir ei bod yn sefyll ar safle adeilad llawer cynharach ar safle'r eglwys a godwyd gan Sant Beuno yn y 7g. Mae'r tŵr yn dyddio i'r 14g ond mae gweddill yr adeilad yn perthyn i ddiwedd y 18g.
Mae Ffynnon Gwenffrewi yn un o Saith Rhyfeddod Cymru, yn ôl yr hen rigwm
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Gorsaf Cyffordd Treffynnon
golyguAgorwyd yr orsaf ym 1848 a daeth i ben yn 1966. Mae'r llinell drwy'r orsaf yn dal ar agor.
Atyniadau yn y cyffiniau
golygu- Abaty Dinas Basing, safle hen abaty, ger pentref Maes-glas, tua milltir i'r gogledd o Dreffynnon ei hun
- Pantasaph, safle mynachlog gyfoes
- Parc Etifeddiaeth Maes-glas
Enwogion
golygu- Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan (bl. 1530), bardd, un o ddisgyblion barddol Tudur Aled
- John Blackwell (Alun) (1797–1840), bardd, a dreuliodd y cyfnod 1828-32 fel curad yn Nhreffynnon
- William Theophilus Thomas (Gwilym Gwenffrwd) (1824-1899), gweinidog a llenor
- Sarah Edith Wynne, "Eos Cymru" (1842-1897), cantores
- Alwyn Sheppard Fidler (1909-1990), pensaer
- Ian Buckett (1967–2024), chwaraewr rygbi
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ffynnon Gwenffrewi", BBC Cymru; adalwyd 25 Mai 2022
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog