Dosbarth Safonol 9F Rheilffordd Brydeinig 92214

Mae Dosbarth Safonol 9F Rheilffordd Brydeinig 92214 (neu ar lafar, y 92214) yn locomotif stêm sydd yn gweithio erbyn hyn ar reilffyrdd treftadaeth.

92214

Adeiladwyd 92214 yn Swindon ym mis Hydref 1959 ac aeth yn syth i ddepo Canton Caerdydd. Symudodd ym mis Tachwedd 1959 i Banbury, ym mis Tachwedd 1961 i Gyffordd Lynebwy ac ym mis Gorffennaf 1964 i Gyffordd Twnnel Hafren. Gwerthwyd i iard sgrap Dai Woodham yn y Barri ym mis Awst 1965.

Fe'i prynwyd gan Gymdeithas reilffordd y Peak ym mis Rhagfyr 1980 ac aeth i Buxton, cyn iddo gael ei werthu drachefn i Grŵp Locomotif 92214, ac atgyweiriwyd ef yng Nghanolfan Reilffordd y Midland, Butterley. Llogwyd y 92214 gan Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn rhwng 2006 a 2008. Prynwyd y locomotif gan PV Premier Cyf yn 2010 a symudwyd ef i Grosmont ar Reilffordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog. Yna, ym mis Ionawr 2014, prynwyd ef gan Rheilffordd y Great Central. Ers ei atgyweirio, mae'r locomotif wedi cael sawl enw; Cock o' the North, Cromwell, Central Star a Leicester City.[1]

Cyfeiriadau

golygu