Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn
Rheilffordd yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn.
Enghraifft o'r canlynol | rheilffordd dreftadaeth |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Bwrdeistref Fetropolitan Bury, Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale |
Gwefan | http://www.eastlancsrailway.org.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Hanes y rheilffyrdd gwreiddiol
golyguYm 1844, cyfluniwyd lein, yn gadael y rheilffordd rhwng Manceinion a Bolton o Gyffordd Clifton ac yn mynd i Bury, Summerseat, Ramsbottom, a Rawtenstall. Erbyn 1846 – cyn agoriad y lein – daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn.
Agorwyd lein arall ym 1841, yn mynd o Reilffordd Manceinion a Leeds i Heywood. Estynnwyd y lein i Bury ym Mai 1848 a chyrhaeddodd Bolton yn Nhachwedd 1848. Erbyn 1849, daeth y Rheilffordd Manceinion a Leeds yn rhan o Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Ym 1859, daeth y Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn hefyd yn rhan y Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Ym 1922, daeth y Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog yn rhan o Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin, sydd wedi dod yn rhan o'r Rheilffordd Llundain, Canolbarth a'r Alban, un o'r bedwar cwmni mawrion a ffurfiwyd ym 1923. Daeth y bedwar yn Rheilffyrdd Prydeinig ym 1948.[1] Yn dilyn addroddiad Dr. Richard Beeching, caewyd y lein o Gyffordd Clifton i Bury ar 5 Rhagfyr 1966. Daeth y lein rhwng Bury a Rawtenstall yn trac sengl ym 1969, a dymchwelwyd sawl adeilad a phontydd dros y trac. Daeth y wasanaeth rhwng Bolton a Rochdale i ben ar 5 Hydref 1970, a chaewyd gorsafoedd yn Bradley Fold, Broadfield a Heywood. Daeth y wasanaeth rhwng Bury a Rawtenstall i ben ar 5 Mehefin 1972. Agorwyd Bury Interchange, a symudwyd trenau Manceinion - Bury i'r orsaf newydd o orsaf Stryd Bolton.[2]
Adfywiad
golyguFfurfiwyd Cymdeithas Warchodaeth Rheilffordd Ardal Helmshore a Chyffiniau ym 1966, yn gobeithio ailagor y lein o Gyffordd Stubbins (ar y lein o Bury i Rawtenstall) i Accrington, sydd wedi cau ar 5 Rhagfyr 1966. Erbyn 1968, disodlwyd y gymdeithas gan Gymdeithas Warchodaeth Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn, yn bwriadu ailagor y lein rhwng Cyffordd Stubbins a Haslingden. Llogwyd Iard Castlecroft oddi ar Gyngor Bury ac agorwyd Amgeuddfa Drefnidigaeth Bury ar y safle ar 26 Awst 1972. Yn dilyn trafodaethau rhwng y gymdeithas, Cyngor Swydd Manceinion Mwy a Chyngor Bwrdeistref Rossendale, prynwyd y lein o Bury i Rawtenstall ac yr adeiladau sydd yn weddill gan yr awdurdodau. Ffurfiwyd ymddiriedolaeth yn cynnwys yr awdurdodau lleol a Chwmni Rheilffordd Ysgafn Dwyrain Swydd Gaerhirfryn. Disodlwyd Cyngor Swydd Manceinion Mwy gan Gyngor Bwrdeistref Bury ar 31 Mawrth 1986.[3]
Ailagorwyd y lein rhwng Bury a Ramsbottom ar 25 Gorffennaf 1987, ac agorwyd adeiladau newydd, seiliedig ar adeiladau yng ngorsafoedd Summerseat a Helmshore, ar 19 Mehefin 1989.ilagorwyd y lein hyd at Rawtenstall ar 27 Ebrill 1991.
Dechreuodd ymdrech i gyrraedd Heywood, a daeth Cyngor Bwrdeistref Rochdale yn rhan o'r Ymddiriedolaeth.Adeiladwyd dwy bont newydd gan Cyngor Bwrdeistref Bury. Daeth cysylltiad i weddill y rheilffyrdd efo'r lein i Heywood, ac roedd ymweliadau gan locomotifau eraill yn bosibl. Ailagorwyd y lein rhwng Bury a Heywood i deithwyr ar 6 Medi 2003.[2]
Y dyfodol
golyguMae cynllun i gyrraedd Castleton, ar y lein rhwng Manceinion a Rochdale..[2] cynllunir adeiladu gorsaf i gynnwys gwasanaethau’r Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn a gwasanaethau’r rhwydwaith cenedlaethol. Mae Cyngor Bwrddeistref Rochdale yn cefnogi’r cynllun ac yn gobeithio cyllido’r prosiect gan ddatblygu tir cyfagos.[4]
Locomotifau stêm
golyguGweithredol
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
32 'Gothenburg' | 0-6-0T Cwmni Camlas Longau Manceinion | Adeiladwyd ym 1903 | Tomos y Tanc | ~ |
1370 'May' | 0-4-0ST Cwmni Peckett | Adeiladwyd ym 1915 | ~ | |
132 'Sapper' | 0-6-0ST 'Austerity' | Adeiladwyd ym 1944 | ~ | |
47324 | Dosbarth 3F 0-6-0T Fowler 'Jinty' LMS | Adeiladwyd ym 1926. | ||
80080 | Dosbarth 4 2-6-4T Riddles | Adeiladwyd ym 1954. Ar fenthyg o Butterley | ~ |
Nid yn weithredol
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
13065 | Dosbarth 5P/4F 2-6-0 LMS Hughes 'Crab' | Adeiladwyd ym 1927. Atgyweirir. | ||
80097 | Dosbarth 4 BR 2-6-4T | Adeiladwyd ym 1954. Yn cael atgyweiriad hir-dymor | ~ | |
3855 | Dosbarth 2884 2-8-0 GWR | Adeiladwyd ym 1942. Atgyweirir | ~ | |
1 | 0-4-0ST Cwmni Andrew Barclay | Adeiladwyd ym 1927. Yn Amgueddfa Cludiant Bury | ~ | |
46428 | Dosbarth 2 2-6-0 Ivatt | Adeiladwyd ym 1948. Yn storfa | ~ | |
49395 | Dosbarth G2 0-8-0 LNWR | Adeiladwyd ym 1921, ar fenthyg o'r Amgueddfa Reilffordd Genedlaethol. Yn gollwng dŵr o diwbau'r boeler. | ~ |
Locomotifau cedwir gan eraill ar y rheilffordd
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
35009 'Shaw Savill' | Dosbarth 'Merchant Navy' 4-6-2 SR | Adeiladwyd ym 1942. Atgyweirir. | ~ | |
35022 'Holland America Line' | Dosbarth 'Merchant Navy' 4-6-2 SR | Adeiladwyd ym 1948. Atgyweirir. | ~ | |
35027 'Port Line' | Dosbarth 'Merchant Navy' 4-6-2 SR | Adeiladwyd ym 1948. Atgyweirir. | ~ | |
45407 'The Lanashire Fusilier' | Dosbarth 5 4-6-0 LMS | Adeiladwyd ym 1937 | ~ | |
44871 | Dosbarth 5 4-6-0 LMS | Adeiladwyd ym 1945 | ~ | |
45212 | Dosbarth 5 4-6-0 LMS | Adeiladwyd ym 1935, Atgyweirir | ~ | |
7564 | Dosbarth Y14 0-6-0 GE | Adeiladwyd ym 1912. Atgyweirir. | ~ | |
47298 | Dosbarth 3F 0-6-0T LMS 'Jinty'. | Adeiladwyd ym 1924 | Tomos y Tanc | ~ |
7229 | Dosbarth 7200 2-8-2T GWR | Adeiladwyd ym 1935. Yn storfa yn Iard Stryd Baron. | ~ |
Locomotifau ac unedau diesel
golyguMae'r rheilffordd yn nodedig am ei niferoedd o locomotifau diesel. Mae llawer ohonynt yn eiddo unigolion neu grwpiau annibynnol, sy'n.cydweithio fel Grwp Diesel y Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn.
Gweithredol
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
9009 | Motor Rail/Motorail Simplex 4WDM | ~ | ||
4002 'Arundel Castle' | Locomotif Cwmni Camlas Llongau Manceinion. | Adeiladwyd gan Gwmni Hudswell Clarke | ~ | |
D2956 | Dosbarth 01 BR | peilot sied Castlecroft | ~ | |
D2062 | Dosbarth 08 BR | Glas | ~ | |
13594 | Dosbarth 08 BR | peilot gweithdy Stryd Baron | du | ~ |
D9531 'Ernest' | Dosbarth 14 BR | gwyrdd golau a thywyll | ~ | |
D9539 | Dosbarth 14 BR | Ar fenthyg o Reilffordd Stêm Ribble. | gwyrdd golau a thywyll | ~ |
31466 | Dosbarth 31 BR | Adeiladwyd ym 1959. Ar fenthyg o Reilffordd Fforest y Ddena | coch ac aur Rheilffordd EWS | ~ |
33109 'Captain Bill Smith RNR' | Dosbarth 33 BR | Adeiladwyd ym 1960 | Glas BR | ~ |
D7076 | Dosbarth 35 BR | Adeiladwyd ym 1962 | Glas BR | |
37109 | Dosbarth 37 BR | Adeiladwyd ym 1963 | Glas BR | ~ |
37304 'Clydebridge' | Dosbarth 37 BR | Glas BR | ~ | |
D335[5] | Dosbarth 40 BR | Gwyrdd BR | ~ | |
345 | Dosbarth 40 BR | Adeiladwyd ym 1960 | Glas BR | ~ |
D1501 | Dosbarth 47 BR | gwyrdd golau a thywyll | ~ | |
50015 'HMS Valiant' | Dosbarth 50 BR | Adeiladwyd ym 1968 | Glas BR; logo mawr | ~ |
D9009 'Alycidion' | Dosbarth 55 BR | Gwyrdd BR | ~ | |
51562 a 51922 | Uned dosbarth 108 BR | ~ | ||
51339, 59506 a 51382 | Uned dosbarth 117 BR | Gweithio heb 59506 ar hyn o bryd | ~ | |
54289 | Uned dosbarth 121 BR | ~ | ||
W55001 | Uned dosbarth 122 BR | Adeiladwyd ym 1958 | Glas BR | ~ |
Locomotifau diesel sydd yn rhywle arall
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
37901 'Mirrlees Pioneer' | Dosbarth 37 BR | ar log i Reilffordd Canol Hampshire | ~ | |
37518 'Fort William/An Gearasdan' | Dosbarth 37 BR | Adeiladwyd ym 1963. Yn Gweithio dros Gwmni Rheilffordd yr Arfordir Gorllewin. | Lifrai Gwennol Intercity. | |
D832 'HMS Onslaught' | Dosbarth 42 BR | Ar Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf |
Locomotifau ac unedau diesel yn cael eu hatgyweirio
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
438 'Planet' | Cwmni Hibberd | Atgyweirir yn Sied Castlecroft. | ~ | |
07013 | Dosbarth 07 BR | Heb weithio ers 2002/3. Yn disgwyl am atgyweiriad llawn. | ~ | |
D3232 | Dosbarth 08 BR | Angen trwsiad i'r modur. | ~ | |
08944 | Dosbarth 08 BR | Angen trwsiad i'r modur. | ~ | |
20087 'Hercules' | Dosbarth 20 BR | Adeiladwyd ym 1961. Problem drydanol. | Glas BR | ~ |
D9537 | Dosbarth 14 BR | Angen atgyweiriad llawn | ~ | |
D8233 | Dosbarth 15 BR | Atgyweirir yng Ngweithdy Stryd Baron. | ~ | |
D5054 'Phil Southern' | Dosbarth 24 BR | Angen gwaith ar brif generadur a boeler cynhesu trenau. | ||
D5705 | Dosbarth 28 BR | Yn storfa yng Ngweithdy Stryd Baron. | ~ | |
6536 | Dosbarth 33 BR | Atgyweirir yn sied Buckley Wells, | ~ | |
37418 | Dosbarth 37 BR | Trwsir peiriant ac ailbeintio. | Glas BR logo mawr. | ~ |
45135 ' 3rd Carabiniers' | Dosbarth 45 BR | Adeiladwyd ym 1961. Atgyweirir yn sied Buckley Wells. | ~ | |
D1041 'Western Prince' | Dosbarth 52 BR | Adeiladwyd ym 1962. Dechreuwyd gwaith corff ac ailweirio yn sied Castlecroft. | Glas BR | ~ |
51485+56121 | Uned dosbarth 105 BR | Atgyweirir yn sied Buckley Wells. | ~ | |
1305 (207202) 60130+70549+60904 | Uned dosbarth 207 BR | Atgyweirir cyrff 60130 a 60904 yn sied Buckley Wells. | ~ |
Locomotifau diesel mewn storfa
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
33046 | Dosbarth 33 BR | Prynwyd i roi darnau sbâr i 33109 (6525) & 6536 (33117). | Glas | ~ |
8099 | Dosbarth 80 Rheilffordd Gogledd Iwerddon | Prynwyd i roi darnau sbâr i 1305. Wedi newid ar gyfer trac maint safonol yn sied Buckley Wells. | ~ |
Trydanol
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
65451+77172 | Uned dosbarth 504 BR | Atgyweirir yn Buckley Wells, i ddod yn gerbydau teithwyr. | ~ |
Tramiau
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
752 | Cerbyd llyfnu cledrau | Cynt o Blackpool, yn storfa yn Stryd Baron. Eiddo Cymdeithas Amgueddfa Cludiant Manceinion. | ~ | |
702 | Dosbarth 'Balloon' Blackpool. | yn storfa, disgwyl am le yn Parc Heaton, Manceinion. Eiddo Cymdeithas Amgueddfa Cludiant Manceinion. | ~ |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan steamrailwaylines". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-06. Cyrchwyd 2014-07-31.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-19. Cyrchwyd 2014-07-31.
- ↑ "Gwefan Your Bury". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-06. Cyrchwyd 2014-07-31.
- ↑ Lisa Gray (12 Medi 2014) "Plans to link Castleton Station to the East Lancashire Railway remain on track", Manchester Evening News
- ↑ Cymdeithas Warchodaeth Dosbarth 40
Oriel
golygu-
Locomotif 'Crab' ar Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn
-
Gorsaf reilffordd Heol Bolton
-
'Princess Elizabeth' yn ymweld â'r rheilffordd
Dolenni allanol
golygu- Gwefan y rheilffordd (Saesneg)