Douglas Rain
Actor o Ganada oedd Douglas Rain (13 Mawrth 1928 – 11 Tachwedd 2018). Er mai actor llwyfan oedd yn bennaf, roedd yn fwy enwog am ddarparu llais y cyfrifiadur HAL 9000 ar gyfer y ffilm 2001: A Space Odyssey (1968) a'i ddilyniant, 2010: The Year We Make Contact (1984).
Douglas Rain | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mawrth 1928 Winnipeg |
Bu farw | 11 Tachwedd 2018 St. Marys |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Priod | Martha Henry |
Gwobr/au | Dora Mavor Moore Awards |
Bywyd a gyrfa
golyguGanwyd Rain yn Winnipeg, Manitoba, yn fab i Mary, nyrs, a James Law, switsiwr iard rheilffordd. Roedd ei rieni yn hannu o Glasgow, yr Alban.[1] Astudiodd actio yn Ysgol y Celfyddydau Gain Banff yn Banff, Alberta, a Theatr yr Old Vic ym Mryste, Lloegr. Roedd yn aelod sefydlol o Ŵyl Stratford yng Nghanada ym 1953 a fu'n gysylltiedig ag ef fel actor llwyfan tan 1998.[2] Bu farw Rain ar 11 Tachwedd 2018, yn 90 oed yn Ysbyty Coffa St Marys yn St Marys, Ontario, o achosion naturiol.[3][4] Gadawodd tri o blant ac un wyres ar ei ôl.[5]
Perfformiodd mewn amrywiaeth eang o rannau theatrig, megis cynhyrchiad o Henry V a lwyfannwyd yn Stratford, Ontario, a addaswyd ar gyfer y teledu yn 1966.[6] Yn 1972, enwebwyd Rain ar gyfer Gwobr Tony am y Actor Cefnogol neu Nodwedd Orau (Dramatig) am ei berfformiad yn Vivat! Vivat Regina![7]
2001
golyguI gychwyn dewiswyd Rain gan Kubrick fel adroddwr ar gyfer y ffilm 2001 ar ôl clywed ei droslais yn y rhaglen ddogfen "Universe" ac yn ddiweddarach dewiswyd ef fel llais anghynnes HAL.[8]
Ffilmyddiaeth
golygu- Oedipus Rex (1957) — Creon
- Just Mary (1960, Cyfres deledu) — (llais)
- The Night They Killed Joe Howe (1960, Drama deledu, yn cyd-serennu Austin Willis a James Doohan) — Joseph Howe
- Universe (1960, short film)[9] — Adroddwr
- One Plus One (1961) — The Divorcee segment
- William Lyon Mackenzie: A Friend to His Country (1961, Ffilm fer) — William Lyon Mackenzie
- Robert Baldwin: A Matter of Principle (1961, Ffilm fer) — William Lyon Mackenzie
- The Other Man (1963, Cyfres deledu fer) — David Henderson
- Twelfth Night (1964, Ffilm deledu)
- Fields of Sacrifice (1964) — Adroddwr
- Henry V (1966, Ffilm deledu) — Henry V
- 2001: A Space Odyssey (1968) — HAL 9000 (llais)
- Talking to a Stranger (1971, Cyfres deledu fer) — Alan
- Sleeper (1973; voice) — Evil Computer / Various Robot Butlers (llais, heb gydnabyddiaeth)
- The Man Who Skied Down Everest (1974) — Adroddwr (llais)
- One Canadian: The Political Memoirs of the Rt. Hon. John G. Diefenbaker (1976; Cyfres deledu fer; llais)
- 2010: The Year We Make Contact (1984) — HAL 9000 (llais)
- Love and Larceny (1985, Ffilm deledu) — Ashton Fletcher
- The Russian-German War (1995, Video documentary) — Adroddwr (llais) (rhan ffilm olaf)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.theglobeandmail.com/arts/theatre-and-performance/article-douglas-rain-stratford-actor-who-voiced-hal-9000-in-2001-a-space/
- ↑ Pulver, Andrew (12 November 2018). "Douglas Rain, voice of HAL in 2001: A Space Odyssey, dies aged 90". The Guardian. Cyrchwyd 2018-11-12.
- ↑ Gray, Andy. "Stratford Festival Founder Dies". mystratfordnow.com. mystratfordnow.com. Cyrchwyd November 11, 2018.
- ↑ "Douglas Rain, Voice of HAL 9000 in '2001: A Space Odyssey,' Dies at 90". Cyrchwyd 12 November 2018.
- ↑ "Voice actor HAL 9000 has passed away". Cyrchwyd 12 November 2018.
- ↑ Profile, Canadian Theatre Encyclopedia website; accessed August 2, 2018.
- ↑ "Voice of 2001: A Space Odyssey's Hal dies". BBC News (yn Saesneg). 2018-11-12. Cyrchwyd 2018-11-12.
- ↑ Johnson, Alex (2018-11-12). "Douglas Rain, the creepy voice of HAL in '2001,' dies at 90". NBC News. Cyrchwyd 2018-11-12.
- ↑ Ohayon, Albert. "The 1960s: An Explosion of Creativity". NFB.ca. National Film Board of Canada. Cyrchwyd November 10, 2011.
Dolenni allanol
golygu- Douglas Rain ar IMDb
- Douglas Rain ar Gronfa Ddata Rhyngrwyd Broadway