Draco (gŵr cyfraith)
Gŵr cyfraith yn yr Athen Glasurol oedd Draco (fl. 7g CC).
Draco | |
---|---|
Ganwyd | 650s CC Athen |
Bu farw | 600s CC Aegina |
Man preswyl | Athen |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
Galwedigaeth | deddfwr |
Swydd | eponymous archon |
Yn ôl traddodiad y system o gyfreithiau a ddyfeisiwyd ganddo oedd yr enghraifft gymhwysfawr gyntaf o gyfreithiau i gael ei lunio yn Athen. Roedd ei gôd cyfreithiol mor hallt fel bod y gair 'draconaidd' yn cael ei ddefnyddio byth ers hynny i ddisgrifio unrhyw gyfraith neu fesur ddigyfaddawd a llym. Noddwedid cyfraith Draco gan y defnydd helaeth o'r gosb eithaf, cosb a weinyddid gan y wladwriaeth yn hytrach na'r unigolyn neu'r teuelu am y tro cyntaf yn hanes Groeg yr Henfyd.
Pan ddaeth Solon i rym dirymodd gyfraith Draco yn 590 CC, gan gadw y deddfau ynglŷn â llofruddiaeth yn unig.