Cyfnod o hanes Groeg a barodd am dua mileniwm, hyd at ehangiad Cristnogaeth, oedd Groeg yr Henfyd (hefyd Groeg gynt, hen wlad Groeg). Fe'i ystyrir gan lawer i fod yn un o sylfeini Gwareiddiad y Gorllewin. Roedd diwylliant Groeg yn ddylanwad cryf ar yr Ymerodraeth Rufeinig, a thrwy hynny wedi dylanwadu diwylliant sawl rhan o Ewrop. Gwelir ei holion o hyd mewn meysydd megis iaith, gwleidyddiaeth, athroniaeth, addysg, gwyddoniaeth a'r celfyddydau. Bu'n rhan o ysbrydoliaeth y Dadeni yng Ngorllewin Ewrop, ac fe ysbrydolodd sawl ddiwygiad newydd-glasurol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Groeg yr Henfyd
Matharddull mewn celf, hen wareiddiad, ardal hanesyddol, ardal ddiwylliannol, diwylliant, cyfnod o hanes Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolHanes Gwlad Groeg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaThrace, Illyria, Ymerodraeth Persia Edit this on Wikidata
Arianancient Greek coinage Edit this on Wikidata
Am yr iaith, gweler Hen Roeg (iaith).
Parth Groeg yr Henfyd, oddeutu 550 CC
Fideo byr o rai o ddyfeisiadau Groeg yr Henfyd

Defnyddir y term Groeg yr Henfyd hefyd i ddisgrifio parth hynafol yr iaith Roeg. Cyfeiria felly at ardaloedd a wladychwyd gan Roegwyr: Cyprus, ynysoedd ac arfordir ddwyreiniol (a gelwir pryd hynny yn Ionia) y Môr Aegeaidd, Sisili a ddeheubarth yr Eidal (a gelwir pryd hynny yn Magna Graecia), a threfedigaethau ar wasgar ar arfordiroedd Colchis, Illyria, Thrace, yr Aifft, Cyrenaica, deheubarth Gâl, rhan ddwyreiniol gorynys Iberia, Iberia'r Cawcasws a Taurica.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato