Draig Binc
Cylchlythyr o'r wythdegau yw'r Ddraig Binc. Dyma'r cyntaf i ymddangos gan grŵp hoywon Cymraeg eu hiaith yn Llundain ond ymddangosodd gwrthwynebydd bron yr un amser gan grŵp hoyw yn Aberystwyth o'r enw Cylch[1][2]. Dewiswyd yr un enw gan y ddau grŵp sef CYLCH. Mae'r Ddraig yn hen symbol ar gyfer y Cymry. I'r Cymry mae'r ddelwedd o'r ddraig goch a'r ddraig wen yn ymaflyd â'i gilydd yn cynrychioli'r frwydr rhwng y Saeson a'r Cymry am oruchafiaeth yn Ynys Brydain. Felly mae fersiwn pinc yn drysu'r syniad yma o ddraig wen a draig goch, gan beri i bobl feddwl.
Mae'r ddau grŵp hoyw wedi dod i ben erbyn hyn. Mae hyn yn enghraifft o zeitgeist lle mae'r un syniad yn ymddangos mewn dau le ar yr un pryd. Ar hyn o bryd mae'r mudiad Cymraeg i Hoywon wedi diflannu i mewn i'r un Saesneg ei iaith. Ysgrifennodd John Sam Jones Welsh Boys Too, casgliad o straeon go iawn am Gymry hoyw. Mae gwaith Mihangel Morgan yn frith o hoywon hefyd ac yn aml heb i'r Cymry heterorywiol eu sylwi.
Gweler hefyd
golygu- ↑ T.,, Jobbins, Siôn. The phenomenon of Welshness. 2, Or 'Is Wales too poor to be independent?'. Llanrwst. ISBN 9781845274658. OCLC 880763616.CS1 maint: extra punctuation (link)
- ↑ Stanno, Iwan (2018-08-25). "Darllenwch yr erthygl briliant yma gan @MarchGlas (diolch am rannu Siôn!) am hanes Cymdeithas y Lesbiaid a Hoywon Cymraeg eu Hiaith (Cylch) yn y 1990au. #PrideCymru Mae'n dod â lot o atgofion nôl… (EDEFYN…)https://twitter.com/MarchGlas/status/1033079981969162240 …". @stanno. Cyrchwyd 2019-02-12. line feed character in
|title=
at position 165 (help)