Draw Dros y Mynydd (albwm)

Trydydd albwm y grŵp Cowbois Rhos Botwnnog yw Draw Dros y Mynydd. Rhyddhawyd yr albwm yng Ngorffennaf 2012 ar y label Sbrigyn Ymborth.

Draw Dros y Mynydd
Clawr Draw Dros y Mynydd
Albwm stiwdio gan Cowbois Rhos Botwnnog
Rhyddhawyd Gorffennaf 2012
Label Sbrigyn Ymborth

Mae sŵn Draw Dros y Mynydd yn barhad, neu ddatblygiad o sŵn yr albwm diwethaf, yn sŵn llawer mwy aeddfed na Dawns y Trychfilod (2007). Mae'r traciau yn cynnwys ‘Yno Fydda i’, ‘Llanw Ucha’ Erioed’ a ‘Cyn Iddi Fynd Rhy Hwyr’.

Dewiswyd Draw Dros y Mynydd yn albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth golygu

Fel cyfanwaith, mae hi’n gam ymlaen i Cowbois Rhos Botwnnog. Y cwestiwn ydi, lle fyddan nhw’n mynd nesa?

—Ciron Gruffydd, Y Selar

Cyfeiriadau golygu