Mae Y Selar yn gylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg a gyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn.

Y Selar
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata


Gwefan Y Selar; Mawrth 2017.

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf yn Nhachwedd 2004. Fe'i ariennir gan grant cylchgronau Cymraeg Cyngor Llyfrau Cymru, a thrwy werthiant hysbysebion. Mae 4000 o gopiau o'r cylchgrawn yn cael eu hargraffu, ac fe gyhoeddi'r fersiwn ddigidol o bob rhifyn hefyd.

Owain Morgan Jones oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn, cyn i Owain Schiavone gymryd yr awennau yn 2008. Gwilym Dwyfor yw golygydd presennol y cylchgrawn.

Mae'r cylchgrawn yn targedu cynulleidfa ifanc, ac yn benodol pobl rhwng 16 a 25 oed. Mae'n cynnwys cyfweliadau gydag artistiaid, colofnau, adolygiadau ac erthyglau amrywiol eraill yn ymwneud â'r sîn gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Bu'r cylchgrawn yn cynnal gwobrau cerddorol blynyddol, Gwobrau'r Selar, ers 2009 - yr unig wobrau cerddoriaeth Gymraeg lle cynhelir pleidlais agored i'r cyhoedd. Cynhaliwyd noson wobrau fyw am y tro cyntaf yn Neuadd Hendre ger Bangor, Gwynedd, ym Mawrth 2013. Cipiodd Y Bandana dair gwobr ar y noson.

O 2014[1] ymlaen cynhaliwyd y noson wobrwyo ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Hat-tric i Candelas yng Ngwobrau'r Selar". Golwg360. 17 Chwefror 2014. Cyrchwyd 20 Ionawr 2019.