Duane Eddy
Gitarydd o'r Unol Daleithiau oedd Duane Eddy (26 Ebrill 1938 – 30 Ebrill 2024). Yn y 1950au a'r 1960au, rhyddhaodd gyfres o recordiau poblogaidd a gynhyrchwyd gan Lee Hazlewood. Disgrifir sain ei gerddoriaeth yn "twangy". Ymhlith ei recordiau mwyaf poblogaidd roedd "Rebel-'Rouser", "Peter Gunn", a "Because They're Young". Roedd wedi gwerthu 12 miliwn o recordiau erbyn 1963.
Duane Eddy | |
---|---|
Ganwyd | 26 Ebrill 1938 Corning |
Bu farw | 30 Ebrill 2024 o canser Franklin |
Label recordio | RCA Victor |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | rock guitarist, cerddor, gitarydd jazz, cyfansoddwr caneuon, artist recordio, gitarydd |
Adnabyddus am | Rebel-'Rouser |
Arddull | roc offerynnol, rockabilly, roc a rôl, surf music, canu gwlad |
Tad | Lloyd Delmar Eddy |
Priod | Jessi Colter |
Perthnasau | Struggle Jennings |
Gwobr/au | Americana Lifetime Achievement Award for Instrumentalist, MOJO Awards, Rock and Roll Hall of Fame, Grammy Award for Best Rock Instrumental Performance |
Cafodd Eddy ei eni yn Corning, Efrog Newydd.[1] Dechreuodd chwarae'r gitâr yn bump oed. Ym 1951, symudodd ei deulu i Tucson, ac wedyn i Coolidge, Arizona.[1] Yn 16 oed ffurfiodd ddeuawd, Jimmy a Duane, gyda'i ffrind Jimmy Delbridge.[2]
Bu farw Eddy o ganser yn Franklin, Tennessee, bedwar diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 86 oed.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Murrells, Joseph (1978). The Book of Golden Discs (yn Saesneg) (arg. 2nd). Llundain: Barrie and Jenkins Ltd. t. 100. ISBN 0-214-20512-6.
- ↑ "Biography at HistoryofRock.com". History-of-rock.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2021. Cyrchwyd 7 Mawrth 2012.
- ↑ Masley, Ed. "Remembering 'Rebel Rouser' rock icon Duane Eddy, dead at 86". Eu.azcentral.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mai 2024. Cyrchwyd 1 Mai 2024.