Tucson
Dinas yw Tucson yn Arizona, yr Unol Daleithiau (UDA), sy'n ddinas sirol Swydd Pima, Arizona. Fe'i lleolir 118 milltir (188 km) i'r de-ddwyrain o Phoenix a 60 milltir (98 km) i'r gogledd o'r ffin rhwng UDA a Mecsico. Poblogaeth: 525,529 (2006) gyda 1,023,320 yn byw yn yr ardal fetropolitaidd (2008). Yn 2005, Tucson oedd y ddinas 32fed fwyaf yn yr Unol Daleithiau a'r 52fed fwyaf ardal fetropolitaidd. Hi yw'r ddinas fwyaf yn ne Arizona a'r ail fwyaf yn y dalaith gyfan. Lleolir Prifysgol Arizona yn Tucson. Mae'n gorwedd ar lannau Afon Santa Cruz.
![]() | |
Math |
dinas fawr, dinas yn yr Unol Daleithiau ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
520,116 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Regina Romero ![]() |
Cylchfa amser |
America/Phoenix, UTC−07:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
South Central Arizona ![]() |
Sir |
Pima County ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
598.609855 km², 588.015521 km² ![]() |
Uwch y môr |
728 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
32.2217°N 110.9264°W ![]() |
Cod post |
85701–85775 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
maer ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Regina Romero ![]() |
![]() | |
Mae'r maesdrefi mawr yn cynnwys Oro Valley, Marana, Sahuarita, a South Tucson. Mae cymunedau cyfagos, rhai ohonynt yn rhannol yn y ddinas, yn cynnwys Casas Adobes, Catalina, Catalina Foothills, Flowing Wells, Green Valley, Tanque Verde, New Pascua, Vail a Benson.
Mae'r enw Tucson yn deillio o'r enw Sbaeneg ar y ddinas, Tucsón, a fenthycwyd o'r enw O'odham (Indiaidd) Cuk Ṣon, sy'n golygu "wrth odre'r [mynydd] du", sy'n gyfeiriad at fynydd folcanig ger llaw. Yn Arizona, cyfeirir at Tucson weithiau fel "The Old Pueblo".
Gefeilldrefi TucsonGolygu
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol dinas Tucson