Dugiaeth Württemberg
Dugiaeth yn ne-orllewin yr Ymerodraeth Lân Rufeinig oedd Dugiaeth Württemberg (Almaeneg: Herzogtum Württemberg) a fodolai o 1495 i 1803.[1]
Math | state in the Holy Roman Empire, cyn endid gweinyddol tiriogaethol, dugiaeth, gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Stuttgart |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swabian |
Daearyddiaeth | |
Sir | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Gwlad | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys Gatholig Rufeinig |
Dyrchafwyd Iarllaeth Württemberg yn ddugiaeth ym 1495. Daeth y Dug Ulrich I, a fu'n teyrnasu am 47 mlynedd, yn ddeiliad i Dŷ Hapsbwrg ym 1534, a chyflwynwyd Lwtheriaeth i'r ddugiaeth yn y cyfnod hwn, a chymerwyd tiroedd oddi ar yr Eglwys Gatholig. Sefydlwyd eglwys wladol Brotestannaidd gan y Dug Christoph I.[2]
Parhaodd y ddugiaeth dan dra-arglwyddiaeth y Hapsbwrgiaid nes teyrnasiad y Dug Friedrich I ar ddechrau'r 17g. Câi Württemberg ei difrodi gan y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48), ac o 1688 i 1693 byddai'r Ffrancod yn cynnal sawl cyrch ar y diriogaeth yn ystod y Rhyfel Naw Mlynedd. Dyrchafwyd Dugiaeth Württemberg yn etholyddiaeth gan Napoleon ym 1803.
Rhestr Dugiaid Württemberg
golygu- Eberhard I (1495–96)
- Eberhard II (1496–98)
- Ulrich I (1503–50)
- Christoph I (1550–68)
- Ludwig III (1568–93)
- Friedrich I (1593–1608)
- Johann Friedrich (1608–28)
- Eberhard III (1628–74)
- Wilhelm I (1674–77)
- Eberhard III (1693–1733)
- Karl I (1733–37)
- Karl II (1744–93)
- Ludwig I (1793–95)
- Friedrich II (1795–97)
- Friedrich III (1797–1803)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kenneth H. Marcus, "Württemberg, Duchy of" yn Europe, 1450 to 1789: Encyclopedia of the Early Modern World. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 26 Tachwedd 2021.
- ↑ (Saesneg) Württemberg. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Tachwedd 2021.
Darllen pellach
golygu- James Allen Vann, The Making of a State: Württemberg, 1593–1793 (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1984).
- Peter H. Wilson, War, State, and Society in Württemberg, 1677–1793 (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1995).