Habsburg

(Ailgyfeiriad o Tŷ Hapsbwrg)

Tylwyth sydd wedi bod o bwysigrwydd mawr yn hanes Ewrop yw'r Habsburg (hefyd Hapsbwrg).[1] Roedd y teulu yn wreiddiol o'r Swistir, a chafodd ei enw o'r Habichtsburg yn Aargau. Bu aelodau o dylwyth yr Habsburg yn teyrnasu am ganrifoedd dros Awstria, Bohemia a Hwngari. O 1438 hyd 1806, roedd bron pob Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn aelod o'r teulu Habsburg. Yn y 16g a'r 17g, roedd aelodau o'r tylwyth yn rheoli Sbaen a Portiwgal, ac yn y 19g yn rheoli rhannau o ogledd yr Eidal.

Habsburg
Enghraifft o'r canlynolteyrnach Edit this on Wikidata
Daeth i ben1780 Edit this on Wikidata
Rhan oEtichonids Edit this on Wikidata
IaithSlofeneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu11 g Edit this on Wikidata
SylfaenyddGuntram y Cyfoethog Edit this on Wikidata
Enw brodorolHabsburger Edit this on Wikidata
GwladwriaethArchddugiaeth Awstria, Coron Castilia, Coron Aragón, Iberian Union, Teyrnas Portiwgal Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Habichtsburg, a roddodd ei enw i deulu'r Habsburg

Mae'r teulu yn parhau, a rhwng 1979 a 1999 roedd Otto von Habsburg yn un o aelodau Senedd Ewrop dros yr Almaen. Yn 1961, roedd wedi ymwadu'n swyddogol a'i hawl ar orsedd Awstria.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, s.v. "Hapsburg"