Dull o nofio yw'r ddull cefn, sy'n cael ei nofio ar y cefn. Mae'n un o'r 4 dull a gaiff ei lywodraethu mewn cystadleuaeth gan FINA. Mae gan y dull y fantais o alluogi anadlu yn hawdd, ond yr anfantais o beidio allu gwled lle rydych chi'n mynd. Hon yw'r unig ddull lle mae rasus yn cael eu cychwyn yn y dŵr. Mae'r steil yn debyg iawn i front crawl ar ei ben ei lawr, mae'r ddwy ddull yn ddulliau echelin-hir.

Gordan Kožulj yn nofio'r ddull cefn ym Mhencampwriaethau Ewrop 2008

Hanes golygu

Mae'r ddull cefn yn ffurf hynafol o nofio. Hon oedd yr ail ddull i gael ei ddefnyddio mewn cystadleuaeth heblaw y front crawl. Cyflwynwyd i'r Gemau Olympaidd yng Ngemau Olympaidd 1900 ym Mharis ar ffurf ras 200 m.

Cyflymder ac ergonomeg golygu

Mae'r ddull cefn yn debyg o ran cyflymder i'r ddull glöyn byw. Mae rasus dull glöyn byw yn gyflymach fel rheol, gan ei fod yn cychwyn wrth blymio i'r pwll yn hytrach na cychwyn yn y dŵr, ond mewn rasus drost 200 m buasai dull cefn yn gyflymach o'r ddau. Mae gan nofwyr dull cefn gyflymder uchaf o 2.944 cilomedr yr awr (1.84 MYA neu 1.84 medr yr eiliad). Oherwydd fod safle'r corff ar ei gefn, mae'r ddull cefn yn defnyddio cyhyrau gwahanol i ddulliau eraill.