Plymio
Chwaraeon yw Plymio sy'n ymwneud â perfformio acrobateg tra'n neidio neu ddisgyn i ddŵr o blatfform neu ffwrdd-sbring o uchder penodedig. Mae plymio yn chwaraeon a gaiff ei adnabod yn rhyngwladol ac yn cael ei gynnwys yn y Gemau Olympaidd. Mae deifio hefyd yn fath o adloniant anghystadleuol mewn rhai ardaloedd ble mae nofio yn boblogaidd.
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon |
---|---|
Math | chwaraeon dŵr, nofio |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er nad yw'n arbennig o boblogaidd o ran cymryd rhan, mae plymio yn un o'r chwaraeon mwyaf poblogaidd ymysg y gwylwyr yn y Gemau Olympaidd. Mae'r chwraewyr llwyddiannus yn meddu'r un nodweddion a gymnastwyr a dawnswyr, gan gynnwys cryfder, hyblygrwydd, beirniadaeth kinaesthetic ac ymwybyddiaeth yn yr awyr.
Yn ddiweddar, mae llwyddiant ac amlygrwydd Greg Louganis wedi hybu cryfder Americanaidd yn y chwaraeon yn rhyngwladol. Y genedl mwyaf llwyddiannus yn ddiweddar yw China, a ddaeth i'r amlwg sawl degawd yn ôl pan gylchdrowyd plymio gan y hyfforddwr cenedlaethol, Liang Boxi, mewn astudiaeth ddwys o Louganis. Nid yw China wedi colli llawer o bencampwriaethau'r byd ers hynny. Mae'r cenhedloedd eraill sy'n gryf yn cynnwys Awstralia a Canada, sydd wedi cyflogi hyfforddwyr Chineaidd.
Yn dilyn Gemau Olympaidd Llundain 2012 a llwyddiant y plymiwr Tom Daley daeth y gamp yn fwy poblogaidd eto. Dangoswyd dau gyfres o raglen Splash! ar ITV yn dangos enwogion yn dysgu plymio. Enillodd Daley a Matty Lee y fedal aur yng nghystadleuaeth plymio cydamserol yng Ngemau Olympaidd 2020 yn Tokyo.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Tokyo Olympics: Tom Daley and Matty Lee win gold in men's synchronised 10m platform". BBC (yn Saesneg). 26 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2021.