Duwies Driphlyg (Neo-baganiaeth)

(Ailgyfeiriad o Duwies Driphlyg (Wica))
Ar gyfer duwiesau triphlyg eraill, gweler Duwies driphlyg.

Un o ddau brif dduwiau Wica yw'r Dduwies Driphlyg. Gwelir hi yn dair gwedd wahanol yn aml; y Forwyn, y Fam, a'r Hen Wrach, lle mae bob un ohonynt yn symboleiddio cyfnod gwahanol yn y bywyd benywaidd a chylchredau'r lleuad. Maent yn cynrychioli elfen fenywaidd diwinyddiaeth y grefydd, gyda'r Duw Corniog yn cynrychioli'r elfen wrywaidd.

  • Mae'r Forwyn yn cynrychioli hudoliaeth, dechreuadau, ehangiad, genedigaeth, ieuenctid a brwdfrydedd ieuanc, a chynnydd y Lleuad.
  • Mae'r Fam yn cynrychioli aeddfedrwydd, ffrwythlonder, rhywioldeb, sefydlogrwydd, pŵer, bywyd, a'r lleuad lawn.
  • Mae'r Hen Wrach yn cynrychioli callineb, gorffwys, marwolaeth, terfyniadau ac encil y Lleuad.
Symbol y Dduwies Driphlyg

Gweler hefyd golygu