Duw Corniog

(Ailgyfeiriad o Duw Corniog (Wica))

Un o ddau brif dduwdod a geir yn Wica, sy'n grefydd Neo-baganaidd, ydy'r Duw Corniog. Y mae'r term Duw Corniog, neu Horned God, i'w gael cyn oes Wica, a seilir Duw Corniog y Wiciaid ar dduwiau â chyrn hanesyddol.[1]

Y Duw Corniog
Duw natur, anialwch, rhywioldeb, hela
CymarY Dduwies Driphlyg
Cerflun o'r Duw Corniog yn Amgueddfa Gwrachyddiaeth ac Hudoliaeth yn Boscastle, Cernyw.

Yn Wica, mae'r Duw Corniog yn cynrychioli'r ochr wrywaidd diwinyddiaeth, sy'n gallu ymddangos ar sawl ffurf, megis yr haul.[2] Y mae hefyd yn cynrychioli "egni grym bywyd anifeiliaid a'r gwyllt,"[3] gyda chysylltiadau â'r anialwch, gwrywdod, ac hela.[4] Dywedai Doreen Valiente hefyd fod y Duw Corniog yn mynd ag ysbrydion y meirw i Annwn, neu'r Isfyd.[5]

Yn Wica, mae cylchred y tymhorau'n symboleiddio'r berthynas rhwng y Duw Corniog a'r Dduwies.[4] Adeg yr hydref a'r gaeaf, mae'r Duw Corniog yn beichiogi'r Dduwies, ac wedyn mae'n marw, cyn iddo gael ei aileni o fru'r Dduwies yn y gwanwyn.[6] Mae ganddo hefyd agweddau gwahanol trwy'r tymhorau, megis y Brenin Celyn a'r Brenin Derw,[4] ac adeg Calan Gaeaf, er enghraifft, mae e'n marw. Dethlir y marwolaeth hon gan felly y gall bywyd ailgynnau.[7]

Ymhlith gwyliau pwysig eraill sy'n perthyn i'r Duw Corniog ceir Imbolc, neu Ŵyl Fair y Canhwyllau, pan, yn ôl Valiente, mae'r Duw yn arwain yr Helfa Wyllt.[5] Yn Wica Gardneraidd, ceir gweddïau i'r Duw Corniog ar ddiwedd bob defod, neu gyfarfod, sy'n cynnwys y llinell:

Yn enw Merch y Lleuad, ac Arglwydd Corniog Marwolaeth ac Ailenedigaeth[8]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Michael D. Bailey Witchcraft Historiography (review) in Magic, Ritual, and Witchcraft - Volume 3, Number 1, Summer 2008, pp. 81-85
  2. The Witches' God
  3. "Starhawk" in News-Week On-faith [1] Archifwyd 2008-12-10 yn y Peiriant Wayback 2006
  4. 4.0 4.1 4.2 Barbara Jane Davy, Introduction to Pagan Studies p. 16
  5. 5.0 5.1 Greenwood, Susan. The Nature of Magic p.191
  6. Janet and Stewart Farrar, The Witches' Bible.
  7. Jone SalomonsenEnchanted Feminism p. 190
  8. Magliocco, Sabina Witching Culture p.28


  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato