Dux Britanniarum
Teitl a chlod Rhufeinig oedd Dux Britanniarum (Lladin, yn golygu "Dug Prydain") a ddisgrifiai cadfridog oedd â gofal byddin ranbarthol.
Crëwyd y swydd hon tua AD 300 ym Mhrydain, gyda'r ddyletswydd o leoli lluoedd Rhufeinig gogleddol yr ynys. Roedd hon yn fyddin eithaf symudol gyda'i phencadlys yng Nghaerefrog. Mae'n bur debyg i Facsen Wledig ddal y swydd am beth amser.