Cadfridog

rheng filwrol

Rheng filwrol a roddir i swyddog uwch yn y fyddin yw cadfridog, fel arfer un sydd yn rheoli unedau sydd yn fwy o faint na chatrawd neu aelod o'r staff milwrol sydd yn cynllunio ymgyrchoedd ar faes y gad.[1]

Tarddai elfen gychwynnol yr enw o "cad", sef brwydr neu ryfel. Mae geirdarddiad y gweddill yn ansicr, ond credir ei fod naill ai yn deillio o "gwridog" (gwaedlyd) neu ryw elfen sydd yn gysylltiedig â'r gair "bri".[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) General (military rank). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Medi 2022.
  2.  cadfridog. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Medi 2022.