Dyddiadur John Thorman, Cipar Glynllifon, Llandwrog

Dyddiadur o fywyd o ddydd i ddydd yn Saesneg, gan gipar plasdy Glynllifon, ystad yr Arglwydd Newborough, yw Dyddiadur John Thorman, Cipar Glynllifon, Llandwrog. Mae’r cofnodion sydd ar gof a chadw cyhoeddus yn Nhywyddiadur Llên Natur i’w gweld yma [1]

Roedd Thorman yn giper i Thomas Wynn, 2ail Barwn Newborough, ers 1812.[1] Mae'r dyddiadur yn parhau tan 1881.[2]

Bywyd golygu

Trawsgrifiad a throsiad o Femorandwm John Thorman, Ciper Glynllifon 1812 - 1860 gydag ychwanegiadau o 1862 i 1881, gan James ei fab o bosib, a ddilynodd cwys ei dad, ciper Glynllifon o 1881 neu wedyn. Symudodd i Gwynllys, Y Groeslon, erbyn 1891 lle disgrifiodd ei alwedigaeth y pryd hynny fel ”beili dŵr”. Yn 1901 bu’n byw yn 8 Glynllifon Square, Groeslon pan dystiodd iddo fod yn giper unwaith eto. Bu farw o fewn tri mis o Gyfrifiad 1901. Cyn belled ag y bo’n bosib, trawsgrifiwyd y memorandwm i’r lythyren i ganaiatáu adnabod ei dafodiaith.

Yn ôl Cyfrifiad 1851 fe’i ganwyd yn Easingwold, Swydd Efrog tua 1784 i Francis ac Elizabeth Symonds. Ganwyd Elizabeth yn Linton, Swydd Efrog tua 1783. Fe’u claddwyd ym mynwent Llandwrog gyda’u tri phlentyn William, George ac Aaron.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Caernarvonshire Historical Society (1983). Transactions: (Trafodion).
  2. Great Britain. Royal Commission on Historical Manuscripts (1980). Accessions to Repositories and Reports Added to the National Register of Archives. H.M. Stationery Office.
  3. Trawsgrifiad a throsiad o Femorandwm John Thorman, Ciper Glynllifon 1812 - 1860 yng ngofal teulu Idwal Symonds