Glynllifon

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru

Plasdy mawr a chyn ystad ger Caernarfon, Gwynedd yw Glynllifon. Roedd hen ystad Glynllifon yn perthyn i Arglwyddi Niwbwrch. Mae wedi ei leoli ger Llandwrog ar y briffordd A499, rhwng Pwllheli a Chaernarfon. Llifa Afon Llifon drwy Glynllifon gan roi iddo ei enw.

Glynllifon
Plas Glynllifon.jpg
Math gwesty mewn plasty gwledig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad Glynllifon Estate Edit this on Wikidata
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 193.23 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.0733°N 4.305°W, 53.070723°N 4.305937°W Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Parc Glynllifon ar yr ystad, ac erbyn hyn mae adran amaethyddol Coleg Meirion-Dwyfor, gweithdai crefft a nifer o gyfleusterau addysgol yn cynnwys gwlau. Mae hefyd caffi a drysfa wrth y mynediad ac arddangosfeydd hanes megis peiriant pŵer stêm a gafodd ei adnewyddu gan y diweddar Fred Dibnah.[1] Cynhelir nifer o ffeiriau ym maes parcio Parc Glynllifon, yn arbennig ffair grefft a stêm.

Y brif fynedfa i'r ystad

Mae gan y parc erddi sydd o ddiddordeb hanesyddol a gwyddonol. Maen nhw wedi cael eu dynodi â statws Gerddi Hanesyddol Gradd I yn ogystal ag Ardal Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol gan CADW, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.[2]

Mae Glynllifon hefyd wedi ei ddynodi'n Ardal Arbennig Cadwraeth gan y Joint Nature Conservation Committee. Mae'n gartref i Ystlumod pedol lleiaf, Rhinolophus hipposideros. Mae'r safle 189.27 hectar yn lle magu a gaeafgwsg i tua 6% o boblogaeth Prydain o'r ystlum hwn.[3]

AilenwiGolygu

Yn 2015 tynnodd y cwmni datblygu MBI o Halifax nyth cacwn am eu pennau pan gyhoeddon nhw y byddent yn newid enw'r plasty i "Wynnborn". Yn dilyn gwrthwynebiad lleol, cafwyd tro pedol.

Yn 2016 roedd y cwmni David Currie & Co, a oedd yn gyfrifol am werthu'r plasty, yn ei farchnata dan yr enw "Newborough Hall"; yn ôl Dr Simon Brooks, ysgrifennydd Dyfodol i’r Iaith, cysylltodd nifer o bobl ag ef, yn gwrthwynebu ailenwi'r Plas Glynllifon.[4]

CyfeiriadauGolygu

  1.  The Attractions of Snowdonia : Glynllifon.
  2.  Parc Glynllifon. Cyngor Sir Gwynedd.
  3.  UK SAC site list : Glynllifon. Joint Nature Conservation Committee.
  4. dailypost.co.uk; adalwyd 12 Chwefror 2016

Dolenni allanolGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato