Dyfrbont y Waun
Mae Dyfrbont y Waun yn bont garreg sy'n ymestyn ar draws Dyffryn Ceiriog ger tref y Waun, ac yn cludo Camlas Llangollen ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r ddyfrbont hon yn 21 metr (70 tr) o uchder ac yn 220 metr 710 tr) o hyd.
Enghraifft o'r canlynol | pont, dyfrbont |
---|---|
Lleoliad | Weston Rhyn |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Wrecsam, Swydd Amwythig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguCynlluniwyd y bont gan Thomas Telford, yr un peiriannydd a gynlluniodd Pont Menai a dyfrbont arall ychydig filltiroedd i ffwrdd, sef Traphont Pontcysyllte. Y peiriannydd lleol oedd M. Davidson a oedd wedi gweithio'n agos gyda Telford ar nifer o brosiectau eraill.[1] Gosodwyd y garreg sylfaen ar 17 Mehefin 1796 a gorffennwyd y gwaith yn 1801.[2] O haearn bwrw y gwnaed gwely'r gamlas, lle llifa'r dŵr, a fe'i gosodwyd ar waliau a cholofnau o garreg, sy;n cuddio'r gwely haearn.
Am ychydig o flynyddoedd hon oedd y ddyfrbont uchaf o'i bath yn y byd. Cofrestrwyd y ddyfrbont hon fel Gradd II*.[3][4][5]
Disgrifiad
golyguMae’r draphont ddŵr yn cynnwys deg bwa, pob un â rhychwant o 40 tr (12 metr). Mae lefel y dŵr yn 65 tr (20 m) uwch y ddaear a 70 tr (21 m) uwch Afon Ceiriog.[2] Tywodfaen melyn yw'r gwaith carreg.[5] Darparodd William Hazledine y gwaith haearn ar gyfer y draphont ddŵr.[6] Wedi'i adeiladu'n wreiddiol gyda phlatiau haearn yn unig ar waelod y cafn, ychwanegwyd platiau ochr haearn at y draphont ddŵr ym 1870 er mwyn iddi ddal dŵr.[7] [8]
Mae Twnnel y Waun yn cychwyn ym mhen gogleddol Traphont Ddŵr y Waun, gan ganiatáu i'r gamlas barhau i gyfeiriad Llangollen.[5] Adeiladwyd Traphont Rheilffordd y Waun yn ddiweddarach wrth ochr y draphont ddŵr. Mae ychydig yn uwch na'r draphont ddŵr.[8] <clirio>
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Glover, Julien (2017). Man of Iron - Thomas Telford and the Building of Britain. London: Bloomsbury. t. 383.
- ↑ 2.0 2.1 Samuel Smiles (2004). The Life of Thomas Telford. Kessinger Publishing. ISBN 1-4191-6991-2.Samuel Smiles (2004). The Life of Thomas Telford. Kessinger Publishing. ISBN 1-4191-6991-2.
- ↑ Samuel Smiles (1861). Lives of the Engineers, with an Account of Their Principal Works. J. Murray.
- ↑ Chirk Aqueduct grade=II*;
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Chirk Conservation Area: Draft Character Assessment & Management Plan (PDF). Wrexham.gov.uk. June 2014. Cyrchwyd 7 Ebrill 2016.
- ↑ A. W. Skempton (2002). A Biographical Dictionary of Civil Engineers in Great Britain and Ireland. Thomas Telford. ISBN 0-7277-2939-X.
- ↑ Roger Cragg (1997). Wales and West Central England: Wales and West Central England, 2nd Edition. Thomas Telford. ISBN 0-7277-2576-9.
- ↑ 8.0 8.1 Quenby, Ron (1992). Thomas Telford's Aqueducts on the Shropshire Union Canal. Swan Hill Press. ISBN 1-8531-0246-6.Quenby, Ron (1992). Thomas Telford's Aqueducts on the Shropshire Union Canal. Swan Hill Press. ISBN 1-8531-0246-6.
Dolenni allanol
golygu- Traphont Ddŵr y Waun yn chirk.com
- Golygfa Panoramig 360 Degree yn BBC Shropshire (Angen Rhaglennig Java)