Dyn Tyrchol Hackney
William Lyttle (ganwyd 1931 yng Ngogledd Iwerddon; bu farw 7 Mehefin 2010 yn Llundain) oedd Dyn Tyrchol Hackney.
Dyn Tyrchol Hackney | |
---|---|
Ganwyd | 1931 Gogledd Iwerddon |
Bu farw | 7 Mehefin 2010 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Etifeddodd William Lyttle 121 Mortimer Road (Hackney, Llundain), adeilad Fictoraidd pedwar llawr gydag ugain ystafell, yn y 1960au oddi wrth ei rieni. Yng nghanol y 60au, dechreuodd gloddio dwneli o dan ei dŷ. Dros gyfnod o bedwar degawd, cloddiodd dwneli ac ogofâu gyda rhaw a oedd yn ymestyn i bob cyfeiriad o'i dŷ hyd at 20 metr, ac wyth metr o ddyfnder, o dan strydoedd, gerddi a thai cyfagos.
Tra oedd y tŷ yn dirywio, parhaodd Lyttle gyda'i gloddio. Nid oedd ei gymdogion yn ymwybodol o'i gloddfeydd, a phan holwyd, roedd ei atebion yn tueddi i fod braidd yn wirion.[1]
Ni chafodd gwynion y trigolion lleol lawer o lwyddiant gyda'r awdurdod lleol am gryn amser, hyd yn oed ar ôl i Lyttle ddifrodi cebl drydan ac achosi toriad trydan ar un ochr yr heol. Yn 2001, plymiodd y palmant gan adael twll 2.4 metr gyda golwg i mewn i un o'i dwneli. Pan godwyd pryder ynglŷn â chyflwr strwythurol y tŷ yn 2006, datgelwyd helaethdra'r twneli am y trô cyntaf.
Yn Awst 2006, gwaharddwyd cloddio Lyttle gan lys barn.[2]