Eday
Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Eday. Mae'r ynys tua 12 km o hyd a 4 km o led, ond yn culhau i ddim ond 100 medr yn y canol ger Loch of Doorny. Saif i'r gogledd o'r brif ynys, Mainland. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 120.
Math | ynys, plwyf sifil yn yr Alban |
---|---|
Poblogaeth | 130 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Erch |
Sir | Ynysoedd Erch, Ynysoedd Erch, Ynysoedd Erch |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 27.45 km², 3,209 ha |
Gerllaw | Môr y Gogledd |
Cyfesurynnau | 59.189265°N 2.774623°W |
Hyd | 12 cilometr |
Ceir cysylltiad fferi ac awyren a Kirkwall ar ynys Mainland. Ymhlith hynafiaethau'r ynys mae'r maen hir Stone of Stetter a Carrick House, a adeiladwyd yn 1633, lle cymerwyd y morleidr John Gow yn garcharor.